Hide Articles List

2 articles on this Page

BAKES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN.

News
Cite
Share

BAKES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN. [GAN MR. L. H. ROBERTS, CANONBURY.] I. Trem ar Ddechreuad y Methodistiaid Calfinaidd. [Llawer o siarad sydd wedi bed ar hyd y blynyddau am gael Hanes cynawn o waith Cymry Llundain ynglyn ag achos crefydd a chan fed nifer yr eglwysi a'r capelau Cymreig yn myned ar gynydd a'r gwaith o barotoi hanes yn myned yn fwy anhawdd y naill flwyddyn ar ol y Hall, yr ydym yn mawr hyderu y bydd yr ychydig erthyglau a gy- hoeddir ar y pwnc hwn o bryd i bryd yn ein colofnau, yn gynorthwy ac yn symbyliad i'r sawl a alio gymeryd at hyn o orchwyl. Y mae genym nifer o wyr galluog yn ein plith heddyw; a sicr yw, pe'r ymroddent at y gwaith, y cawsid cyfrol deilwng o'r pwnc ac o'r cylch a adwaenir yn 'Llundain Gymreig.' Nid oes neb a wyr fwy am hanes y Meth- odistiaid yma na'r boneddwr twymgalon Mr. Lewis H. Roberts, Canonbury, a bydd cael y crynhodeb a ganlyn o araeth a draddododd ,unwaith o flaen un o gymdeithasau llenyddol y cylch yn sicr o fod yn dderbyniol gan -lawer.] ———— "Mae ein hanes boreuol, fel Methodistiaid Cymreig yn y Brifddinas, i'w gael yn y dry- dedd gyfrol o Hanes Methodistiaid Cymru gan y diweddar Barch. John Hughes, Casg- Jwyd yr hanes hwnw gan Dr. Owen Thomas (tra yr oedd yma) oddiar wefusau yr hen fobl oeddynt yn cofio y dechreuad, yn enwedig gan un hen chwaer adnabyddus i rai o honom- yr hon a fu byw hyd yn agos i gant oed, ac a fu farw heb fod ymhell oddiwrth Gapel Wilton Square-sef Mrs. Jones, Rosemary Lane. Mae yr hanes yn cyrhaedd hyd ddiwedd 1855 ac y mae Mr. Pierce wedi ymgymeryd a chasglu y gweddill o hono oddiwrth bob eglwys. Efe gafodd ei benodi i wneyd hyny gan y Cyfarfod Misol, er cadw mewn cof yr hyn sydd bwysig yn ein plith fel Cyfundeb. DECHREU PREGETHU. Yr oedd pregethu Cymraeg i'w gael yn bur foreu yn Llundain gan y Diwygwyr Meth- odistaidd, sef Daniel Rowlands, Howell Harris, Howell Davies, ac ereill; a'r rheswm a roddir am hyn oedd, eu bod yn gydnabyddus a George Whitefield-un o brif golofnau y sym- udiad Methodistaidd yn LIoegr, a'r hwn oedd yn byw yn Llundain ar y pryd. Yr oeddynt yn talu ymweliadau mynych &g ef. Yr oedd Howell Harris yn un o'i gydweithwyr ac yn gyfaill mynwesol iddo: yn pregethu yn ami yn y Tabernacl yn Moorfields, ac yn cymeryd yr arolygiaeth pan y byddai Whitefield ar ei deithiau ar hyd a lied y wlad. Yr cedd gan Whitefield le i bregethu yn Lambeth, ac yno, yn ol y traddodiad, y pre- gethwyd yn Gymraeg gyntaf—nid oes sicr- wydd gan bwy, ond digon tebyg mai gan Howell Harris. Ymddengys fod Hawer o Gymry yn byw yn Lambeth y pryd hyny, yn yr hon gymydogaeth yr oedd llawer o erddi (market gardens) a Chymry yn gweithio yn- ddynt. Hefyd, yr oedd yn arferiad ganddynt ar y Suliau-fel yng Ngbymru yr adeg hono -i gadw ffair; a'r tebygolrwydd yw, fod Howell Harris-fel arfer ei frodyr yn yr hen wlad-yn pregethu yn y ffeiriau hyn, ac yn codi ei lais yn erbyn y fath arfericn pechad- urus. "FFURFlO EGLWYS. "Cychwynwyd yr achos Cymreig rheolaidd cyntaf yn 1774, gan ddau wr o'r Gogledd: Edward Jones, Llansannan, sir Ddinbych, a Griffith Jones o Bentre' Uchaf, sir Gaernarfon. Hen filwr ydoedd Edward Jones, ac yn bre- gethwr Ileol gyda Whitefield felly, efe oedd yn cynghori, a Griffith Jones yn rhoddi yr emynau allan ac yn arwain y canu a'r ddau gyda'u gilydd yn cadw I siat I ac yn edrych ar ol y gwaith yn gyffredinol. "Yr oedd lie yr addoliad mewn ystafell anghysbell a diaddurn yng nghymydogaeth y Smithfield; ac yn fuan wedi cychwyn yr achos yno, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Lambeth, gan Mr. Francis, brcdor o'r Deheu- dir, ond, oherwydd ei fuchedd a'i rodiad amharchus, yn fuan torwyd pob cysylltiad ag ef ac, os nad wyf yn camgymeryd, diwedd- cdd ei oes gyda'r Bedyddwyr. Y rhai cyntef i ddyfcd i fyny o Gymru yma i bregethu ceddynt, Dafydd Cadwaladr, Bala John Prytherch, Trecastell a Robert Evans, Llanrwst (mab Enoch Evans, Bala, a brawd Fculk Evans). Yr oedd Robert Evans yn un o bregethwyr mwyaf addawcl Cymru, ac, rreddai John Hughes yn I Metb- odistiaid Cymru, os buasai byw y seren mwyaf disglaer yng Ngogledd Cymru.' Wrth ddych- welyd o Lundain syrthiedd oddiar y cerbyd, a bu farw yn 32 mlwydd oed, er tristwch i'r gynulleidfa fechan yn Smithfield, y rhai a aethant i'r gost o'i gladdu. Byth wedi hyny, meddai'r hanes, byddai'r eglwys yn talu am gludiad y pregethwyr tufewn i'r Goach Fawr ac nid tuallan. Y CAPEL CYNTAF. "Yn 1785, adeiladwyd y capel cyntaf yn Wilderness Row-helaethwyd ef yn 1806, ac yr oedd yn sefyll o fewn cof i mi. Ymhen ychydig wedi agor y capel hwn, ail-ddechreu- wyd pregethu yn Lambeth gan Daniel Jenkins —mab-ynghyfraith Daniel Rowlands, Llan- geitho-a gwr arall o'r enw Thomas Thomas a phregethid yn achlysurol yn Deptford lie y darfu James Hughes gynyg ei hun fel aelod, a lie y dechreuodd bregethu. Yr amser hyny, yr arferiad ydoedd, pregethu foreu a hwyr yn Wilderness Row, pregeth y boreu yn Gravel Lane, cyfarfod gweddi y prydnawn, a'r ddwy gynulleidfa gyda'r cyfeillion o Deptford yn un gyda'u gilydd yn Wilderness Row yn yr hwyr. Ond yn fuan, daeth anghydfod trwy i Edward Jones-yr hwn oedd yn dra arglwyddiaethus ac awdurdodol ac yn dra hoff o'i ffordd ei hun—ddiarddel dau frawd o'r enw Thomas am briodi dwy chwaer, sef merched Mr. Jenkins y pregethwr. (Lie yr oedd y drwg o hyny, rhaid i chwi ddyfalu). Y canlyniad o hyn fu, i Jenkins a'i gyd-bre- gethwr (Thamas) adael y Cyfundeb, a'r rhan fwyaf o gynulleidfa Gravel Lane gyda hwynt. Sefydlasant achos anibynol, a dyma ddech- reuad yr Anibynwyr Cymreig yn Llundain; ac mae'r eglwys hono yn aros hyd heddyw, ac yn llwyddianus, sef eglwys Anibynol South- wark Bridge Road (Borough), yn awr o dan ofal y Parch. D. C. Jones. HELYNTION Y BOREU, Yn 1796, bu farw Mrs. Jones-gwraig Ed- ward Jones—yr hon oedd yn ddynes gall a duwiol, ac yn ddiarwybod i'w gwr, arweiniodd ef rhag gweithredru yn rhy eithafol; a thrwy hyny arbedodd lawer o anghydfod yn yr eglwys; ond bu farw yn sydyn, ac yn fuan wedi hyny meddyliodd Edward Jones am un i gymeryd ei lie, ac amododd i briodi un Miss Prytherch. Aeth yr hen frawd ar ym- weliad a Chymru, a thra yno cyfarfyddodd a gwraig weddw gyfoethog yn sir Gaernarfon, yr hon a briododd cyn dychwelyd adref. Per- swadiwyd Miss Prytherch, gan y ddau frawd Thomas a ddiarddelwyd, i ddwyn cynghaws yn erbyn yr hen frawd. Enillodd Miss Pryth- erth y gyfraith, a chafodd ddeg punt o iawn. Y canlyniad oedd i'r eglwys gael ei rhwygo yn ddwy, a gadawodd y rhan fwyaf o honynt gan fyned i ystafell yn Bunhill Row. Gadawyd Edward Jones a deuddeg o ganlynwyr yn Wilderness Row. Sut i gael y cynulliad a'r eglwys yn ol i'r capel hwn oedd waith pwysig ac anhawdd, ond gwnaed hyny gan Ebenezer Morris, drwy gael addewid gan Edward Jones i roddi heibio pregethu tra yn caniatau iddo gadw ei aelodaeth, a pheidio cymeryd unrhyw ran yn nygiad yr achos yn mlaen. Yr oedd hyn yn gryn ofid iddo ac yn anhawdd ei gyflawni ond, yn Rhagluniaethol, ymadawodd a Llun- dain am Gymru. Methais a chael hanes ei ddiwedd. Dywed Mr. Pierce wrthyf iddo syrthio i amgylchiadau isel, a diweddu ei oes I yn un o'r Benevolent Asylums yn agos i Greenwich. YR YSGOL SABOTHOL. "Cyehwynwyd yr Ysgol Sabothol gan Thomas Jones, Llanpumsaint, tuag 1803. Yn 1822 ccdwyd CapelJewin Crescent: yr hwn, hefyd, fel y mae y rhan fwyal o honom yn cofio, a dynwyd i lawr yn 1876, ac ymhen tua thair blynedd wedi hyny acltiiadwyd yr un presenol yn Fann Street, heb fed ymhell o'r hen le. Yn ystod amser yr arhesiad yn Jewin Crescent, caiwyd ami i storom enbyd a gwyllt —unwaith, oherw)dd y 4 Catholic Emancipa- tion Act': yr hen frodyr yn rhagfarnilyd yn erbyn y Pabyddion; ond yr hyn oedd yn peri yr anghydfod mwyaf oedd mewn cysylltiad a'r fasnach laeth, ac yr oedd y teimlad o Ddeheu a Gogledd yn elfen bwysig ynddo. Daeth llawer o brif weinidogion Deheu a Gog- ledd Cymru yma i wneyd hedd" ch; ac nid oedd wedi hollol dawelu hyd ddyfodiad Owen Thomas yma fel gweinidog yn 1852—ychydig cyn amser marwolaeth James Hughes." (I'w barhau.)

Advertising