Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Oddeuiu'sr Ddinas.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

[No title]

---.----Bwrdd y ' Celt.'

News
Cite
Share

Bwrdd y Celt.' Cafodd y Gol. syndod ma.wr pan ddaeth i'r cwrdd yr wythnos hon, wrth waled y fath nifar o gyfailliorr wedi dod ynghyd. Credai fod pawb ar eu gwyliau ac yn crwydro rhwng bryniau yr hen wlai, oad yr oedd yn amlwg fod oymdeithas Bwrdd y CELT yn fwy a atdyniad i lawer nag anwadalwch y tywydd ar lanau mor Cymru. Rw i wedi bod yn fy ardal enedigol," ebe'r Llinoa, a dyma i chwi ddarlun a dynais o afon Ystwyth y dydd o'r blaen." A thystiai y rhai oeddynt wedi cael y fraint 0 weled yr afon, fod y bardd wedi rhoddt portread da o honi; ac mae'r awenydd 0 Willesden wedi addaw y caiff ei awen ryddid i ganu eto yn ystod yr wythnosau dyfodol am yr hyn a welodd ac a deimlodd yn ei sir enedigol. Yr oedd yn dda genyf glywed" ebe Bardd yr Offis, fod yr hen fardd Cwcwll wedi llwyddo eto i ddenu beirniaid Eisteddfod Llangeitho a ffrwyth ei awen, ac iddo ganu am Drychineb Martinique nes enill y gamp yn yr wyl yno y dydd o'r blaen." Do, do," ebe Cwcwll; ond am englyn i'r niwl' y cefais yr anrhydedd y tro blaenorol." Ie, ac fe fu rhyw dipyn o helynt ynglyn a'r wobr, onid do ?" gofynai'r Bardd. U Wel, do, fe fu rhyw dipyn 0 aflerwch" ebe Cwcwll. U Beth bynag, ni ddaeth i law mewn ¡. pryd, a gorfod i mi yru englyn arall cyn ei chael hi hefyd." Beth ebe'r Gol. "Dau englyn am un wobr ?" 0, na, nid englyn i'r niwi' oedd yr ail un, chwi ellwch fentro." Beth, ynte ?" gofynai'r Macwy, yn awyddus. 0, i'r pwyllgor oedd hwnw, a dyma fe, Llawn o gathod yw Llangeitho-a mawr Y mewian fu yno; Aeth gwobr Cwcwll i dwll, 0, do- Mewn oer niwi' mae 'nawr yn wylo." Ac wedi anfon hwna, fe ga'dd yr hen Gwcwll yr arian. Wel, gobeithio na fu'r un trychineb ynglyn a'r arian am hanes Trychineb Martinique.' Yr oedd ereill o'r hil farddol am gael gwradawiady. ond ni chaed amser iddynt. Y rheswm ydoedd, am fod cynifer am siarad ar y Pwlpud' a'r' Fugeil- iaeth.' Dyma rai 0 honynt:— W. M. (Holloway). "Yr ydwyf yn cydfyned yn hollol a'r hyn ddywed H. T.' yn eich rhifyn di- weddaf, ar I Areithyddiaeth y Pwlpud.' Y mae gweled y fath aflerwch ag a geir waithiau yn y lie cysegredig hwn yn gwneyd i ddyn golli pob bias at grefydd. Beth ddywedai ein cynulleidfaoedd pe bae cantor gwael yn cael ei osod byth a hefyd o'n blaen mewn cyngherddau uwchraddol ? Wel, nid a'ent i'w glywed ond unwaith, yn sicr E. R. D. a gwyna fod T. Johns' yn ei lythyr am wneyd masnach o'r pwlpud, a chyfri pob gweinidog fel math 0 glerc siop, yn werth hyn a hyn o gyfiog yn unig. Y mae'r peth yn swnio yn ymarferol iawn ar bapyr mewn oes fasnachol fel hon; ond, yn sier, y mae yn hen bryd i ni gofio fod angen am safon arall, rhagor na'r masnachwr llwyddianus, ynglyn a phethau crefydd." HEN WBANDAWB, sydd yn anghytuno yn hollol ar werth darlleniad pregeth. Syndod oedd genyf," meddai, weled neb yn yr oes oleu hon yn cwyno yn erbyn darllen pregeth. Onid dyna'r evidence gorea sydd genym fod y pregethwr wedi bod wrthi yn ddyfal yn astudio ei bwnc ac fod y traddodiad yn berffaith gywir yn ol fel yr oedd wadi ei threfnu. Y mae eia pobl ddysgedicaf oil yn cadw papyr 0"1.1. blaenau, a gwell genyf fi fwynhau pregeth o'r fath 0 lawer na rhyw hwyl diderfyn heb ddim sylwedd, fel yr hoSai' H. T. a barnu oddiwrth ei lith." T. D. a ysgrifena Yr ydych yn angharedig yn. dyweyd dim am ein gweinidogion na'n gwendidao ynglyn a'r fugeiliaeth. Gallwch adael materion fel yna i'r cylchoedd crefyddol yn unig, a byddant hwy, heb eich cymhorth chwi, yn sicr o'u trefnu yn y dull goreu i gyfarfod ag anghenion y ddinas yma." Yr ydym yn ddiolchgar i T. D.' am oi lythyr, er yn anghytuno yn hollol ag ef. Oad ar yr un pryd, y mae safle y gwr yn haeddu ein parch. Ond paham y rhaid i ni gau ein colofnau rliag unrhyw gwestiwn a fo o ddyddordeb i Gymry'r ddinas ? Onid ein hymdrech o'r cychwyn ydoedd rhoddi man canolog i'r Cymro Llundeinig lie y gallai ymdrin & phob pwne oedd yn dal unrhyw gysylltiad a'n bywyd ni yn y Brifddinas yma; ac y mae'n eglur fod angen am wyntyllu y pethau hyn, a barnu ond wrth yr atebion uchod a gaed yr wythnos: hon. Ond paham y rhaid i'n gwyr blaenaf geisio rhoddi taw i'r CELT, tra yn canmol cylchgronau a phapyrau ereill am wneyd yr un gwaith ? Y mae genym well mantais na neb, yn sicr, i farnu beth yw teimlad Cymry Llundain ar wahanol faterion, ac ar bynciao fel hyn y mae llawer o angen ffurfio barn gyhoeddas arnynt er mwyn cael undeb a chyd-ddealltwriaeth. .r'"

Advertising