Hide Articles List

3 articles on this Page

Y FUGEILIAETH.

News
Cite
Share

Y FUGEILIAETH. At Olygydd CELT LLUNDAIN. SYR,-Darllenais gyda gofid y Ilith ar y pwnc uohod a ymddangosodd yn eioh rhifyn diweddaf. Mae'n eglur mai cyfeirio at y Methodistiaid Calfin- aidd y mae'r awdwr H. E., ond yn sicr, nis gall fod yn Fethodist ei hunan: neu os ydyw, y mae yn un o'r dosbarth oul crebachlyd hyny sydd bob amser yn anurddo pob cymdeithas trwy bigo man frychau ymhob ymddygiad yn hytrach nac edrych gyda ,chalon agored eangfrydig ar bob gwaith ynglyn a'r Fugeiliaeth. Sonia H. E. am ddau ddiffyg, ond i'r darllenydd, ttau ddiffyg yw y rhai'n o du yr awdwr ei hunan; a phe meddianai H. E. yr ysbryd cariadus a hael hwnw a anogir i ni feddu gan y Gair, diflanai y diifygion fel gwlith y boreu oddiar ei lwybr. Mae dychmygu am neb yn oredu y syniadau culion hyn yn beth anhawdd bron, a sicr yw fod H. E. wedi syrthio ar awr wan, onide ni fuasai byth yn dangos y fath gulni a hyn. Onid un o gredoau cyntaf y Methodistiaid fel pob enwad arall yw cynydd a llwyddiant, a sut y mae i ni gael progress ond drwy ofalu fod y dynion goreu i gael y safleoedd goreu yn ein henwad. Mae meddwl am garcharu neu gylymu dyn wrth eglwys, yr hon ¡ nis hoffa, yn beth afresymol; ond nid mwy afresymol I. I na beio yr un gwr am newid ei sefyllfa a cheisio eg- Iwys well ar ol dadblygu ei dalentau. Eisieu rhoddi mwy o awdurdod yn llaw y Owrdd Misol sydd ar H. E.; ond pe gwybuasai rywbeth am y Gorff hwnw, deuai yn fuan iawn i sylweddoli mai goreu po leiaf o awdurdod a roddir iddo os am lwyddiant Crefyddol yn ein mysg. Cwyna yn yr ail Ie, fod eisieu gwell trefn ar y draul. Neu, mewn geiriau ereill, fod ambell i eglwys yn talu gormod i bregethwr. Carwn ofyn i H. E. a, wyr efe am un gweinidog yng Nghymru heddyw yn gwneyd mwy o gyflog nag a ddylasai enill drwy alwadau ereill ? Dylid cofio mai bodau meidrol ydyw ein pregethwyr, ac os na roddwn ni y gyflog ddyladwy iddynt, yna fe fydd ein cyfrifoldeb yn ar- uthrol, Gwyr pawb sy'n gynefin a'n hanes, ein bod yn colli llawer o wyr ieuane gobeithiol o'n pwlpud am na roddwn iddynt y gefnogaeth ddyladwy a goreu po gyntaf y dysga H. E. a'i hit y gras o dalu yn dda i bawb a'u gwasanaetho. Pe buasai ein heglwysi wedi ymarfer yn well yn hyn o beth yn y gorphenol ni fuasai ei phwlpud mor wan ag ydyw heddyw, a chredaf y deuai gwell llewyrch ar grefydd pe dysgid ein pobl i anghofio yr hen syniad gwledig fod rhyw r&t yn y mis yn ddigon at draul y gweinidog! Dewch i ni gael meithrin ysbryd mwy rhydd- frydol, ac o bob dim, os am gael llwyddiant a chynydd, gwareder ni o'r llyfetheiriau henafol yna a elwir gan H. E. yn reolau y Cwrdd Misol, ac ymyraeth y blaenoriaid rhagfarnllyd, ac yna fe ddaw I y gobaith am y Diwygiad fel yr hen ddiwygiadau gynt. Yr eiddoch, &c., T. JOHNS.

Advertising

CHWARELWYR BETHESDA.