Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y FUGEILIAETH.

Advertising

CHWARELWYR BETHESDA.

News
Cite
Share

y tuallan i'r Llywodraeth a'r Senedd wedi ei wneyd i geisio terfynu yr anghydfod ond yr oedd pob ymdrech o'r fath wedi methu ac yn awr yn y flwyddyn yma o ras, sydd yn dynodi cyfnod yng ngwareiddiad y byd, tra y dygwyd y rhyfel helbulus yn Ne Affrig i derfyniad—diolch i Arglwydd Kitchener ac ereill—ac i heddwch parhaol gael ei sicrhau efea obeithiai, pryd o fewn ychydig ddyddiau i Goroniad y Brenin, a heddwch wedi ei gy- hoeddi, a rhyddid wedi ei groesawu drwy'r tir, eto ynghanol hyn oil y mae yr anghydfod yma yn sefyll ar ei ben ei hun. Ai tybed fod pob moddion wedi ei ddihysbyddu ? Ai tybed nad oedd yn iawn iddynt hawlio, drwy Dy'r Oyffredin, gydyrndeimlad yr holl wlad, ac fod i'r. Llywodraeth, hyd yn oed yn ei safle swyddogol, arfer pob moddion posibl i ddwyn y pleidiau i gyd-ddealldwriaeth, i adfer mil- oedd i'w cartrefi, i ddwyn masnach i gymyd- ogaeth dawe!, ac i beri i lwyddiant a heddwch wenu unwaith eto ar ardal anedwydd Beth- esda? (cymeradwyaeth). MR. GERALD BALFOUR (Llywydd y Bwrdd Masnach), mewn atebiad, a ddywedodd na ofynwyd i'r Bwrdd Masnach gan yr un o'r pleidiau i gyfryngu ac heblaw hyny, nid oedd arwyddion y byddai cyfryng- lad yn dderbyniol nac yn effeithiol. Yr oedd- ynt yn barod i wneyd eu goreu os oedd unrhyw obaith y gwnelent ddaioni. MR. KEIR HARDIE a ofidiai oherwydd ymddygiad Llywydd y Bwrdd Masnach ar y mater yma. Gallasai na ddarfu i'r un o'r pleidiau wneyd cais am gyfryngiad y Bwrdd Masnach yn yr anghyd- fod yma. Os na wnaeth y dynion hyn, y rheswm ydoedd nid nad oeddynt yn awyddus i gael y mater, o'u rhan hwy, i gyflafareddiad, ond oblegid y gwyddent drwy brofiad os cynygient hwy rhyw gwrs i ddwyn yr anghyd- welediad i derfyniad, y gwrthwynebid hyn sgan Arglwydd Penrhyn, am yr unig reswm mai y dynion oedd yn ei gynyg. Ymddang- osai yn rhyfedd iddo ef (Mr. Keir Hardie) fod Arglwydd Penrhyn, yr hwn nad yw un mym- ,ryn gwell na'r tair mil dynion a glodd allan, yn abl i herio nid yn unig ei weithwyr ei hun, ond y Llywodraeth gryfaf yn y dyddiau hyn, a hono wedi ei harfogi a Deddf Seneddol arbenig. Pan ofynodd Arglwydd Penrhyn am y milwyr i fyned i lawr i amddiffyn ei ,chwarelau, un cais yn unig oedd eisieu oddi- wrtho ef, ac anfonwyd y milwyr. Ond, fodd by nag, pan oedd yn gwestiwn o gael cymod- wr, er hyrwyddo heddwch a therfynu yr anghydfod mwyaf anffodus, yna yr oedd y Llywodraeth yn ddiallu, er i'r dynion ddym- «ino ar i gyflafareddiad gymeryd lie. Felly, gadewir i'r chwarelwyr eto barhau ,eu brwydr, ac yn sicr y maent yn haeddu pob eefnogaeth yn yr anghydfod blin hwn.