Hide Articles List

2 articles on this Page

CORONIAD IORWERTH VII.I

CHWARELWYR BETHESDA.

News
Cite
Share

CHWARELWYR BETHESDA. EU HACHOS 0 FLAEN Y BRENIN A'R SENEDD. Ychydig amser yn ol anfonodd chwarelwyr Bethesda ddeiseb at y Brenin i ofyn iddo wneyd ei oreu i ddwyn yr helynt presenol i derfyn. Credent mae'n debyg y gallasai efe ddyweyd gair o'n tu wrth Arglwydd Penrhyn, ond gwelodd ei Fawrhydi yn ddoeth i beidio ymyryd rhwng meistr a gwas, ac anfonodd y ddeiseb at Fwrdd Masnach er mwyn iddynt hwy wneyd a allont rhwng y pleidiau. Ni ddaeth dim o'r ddeiseb, ar dydd Mer- cher cyn y diweddaf, pan gaed cyfle i ddwyn y mater unwaith eto o flaen y Senedd, bu Mr. William Jones, A.S., yn gosod cwyn y chwar- elwyr anffodus hyn o flaen y Ty. Dywedai yr aelod tros arfon ei fod yn rhwym o alw sylw y Ty at y camddealltwriaeth rhwng Arglwydd Penrhyn a'i weithwyr, ac y mae yn awr dros un mis ar hugain er hyny. Yr oedd yn codi y mater i fyny yn awr yn fwyaf neillduol oherwydd y ddeiseb a anfonwyd at y Brenhin ychydig wythnosau yn ol gan gymdeithas an- wleidyddol yn Llundain yn gofyn i'r Brenhin gyfryngu yn y mater. Anfonodd y Brenhin atebiad caredig a chydymdeimladol at y deisebwyr, yn gcfidio oherwydd parhad yr anghydfod a'i anallu ef i gyfryngu, ond yn awgrymu ar fod i'r ddeiseb gael ei hanfon i Fwrdd Masnach. Yn naturiol yr oedd y rhai a gymerent ddyddordeb yn y mater yn tybio fod hyny yn awgrymu rhwymedigaeth ar ran Bwrdd Masnach i gymeryd y mater i fyny. Hoffai efe wybod beth oedd barn Adran Llafur y Bwrdd Masnach am lytbyr y Brenhin. Gwyddent oil i'r Llywodraeth Doriaidd, yn 1896, basio Deddf Cymod a hoffai efe hefyd wybod a oedd y Bwrdd Masnach wedi ym- drechu, yn yr achos yma, i arfer yr awdurdod sydd yn eu meddiant o dan y Ddeddf yma ? Yna nododd Mr. Jones y gwahanol adranau yn y Ddeddf o dan ba un y gallasent gymeryd y pwnc mewn Haw. Yr oedd tair ymgais wedi eu gwneyd gan awdurdodau oddi allan i gael terfyniad hedd- ychol, ond drwg ganddo ddyweyd i hyny fethu. Gwnaed y cais diweddaf yn mis Chwefror gan Gynghor Sirol Caernarfon, y rhai a nodasant ddau foneddwr i fod yn gyn- rychiolwyr. Yr oedd un o honynt yn Uchel Sirydd y Sir, ac o'r un daliadau crefyddol a gwleidyddol ag Arglwydd Penrhyn, a'r llall yn Rhyddfrydwr ac yn gyn- Gadeirydd y Cynghor Sir. Yr oedd y ddau foneddwr yma yn ynadon, ac yn ddynion yr oedd nid yn unig y Cynghor Sir ond yr oil o Gymru yn meddu yr ymddiried mwyaf ynddynt. Buont yn gohebu er ceisio cael y pleidiau at eu gilydd. Yr oedd cyn- rychiolwyr y Cynghor Sir yn sicrhau Arglwydd Penrhyn mai unig amcan y Cynghor Sir oedd cynyg gwasanaeth gyfeillgar ar bob tu, ac ni fwriadent mewn un modd ymyryd rhwng meistr a gweithiwr. Gofynasant, yn gyntaf oil, am gael ymddiddan gyda chynrychiolwyr penodedig y dynion, a chydsyniwyd a hyn ar unwaith. Yna gohebwyd ag Arglwydd Penrhyn. Yn ei atebiad diolchodd Arglwydd Penrhyn iddynt am eu cwrteisrwydd yn y dull y daethant at y mater, ond dywedai ei fod o ddechreu yr anghydfod wedi gwrthod cyd- nabod HAWL NEB I YMYRYD nad oedd ganddo neu ganddynt gysylltiad a'r chwarel. Ar yr un pryd, ychwanegodd Arglwydd Penrhyn, Yr wyf yn cyflawn werthfawrogi bwriad da y Cynghor yn dymuno cymeryd unrhyw gwrs yn eu gallu a fuasai yn tueddu i ddwyn yr anghydfod anedwydd yma i derfyniad; ac os tybiwch yr atebir pwrpas da drwy gael ymddiddan, gan fy mod, drwy afiechyd, yn analluog i adael fy ystafell, cyfarwyddais Mr. Young (y prif oruchwyliwr) i'ch cyfarfod chwi." Mewn atebiad i gais ar fod iddo ganiatau ymddiddan bersonol ag ef, ysgrifenodd Arglwydd Penrhyn fel hyn:- Yr wyf yn argyhoeddedig y byddai i ym- ddiddan o'r natur yna gael ei gamddeongH; fel datganiad fy mod i yn awr yn barod igyd- nabod ymyriad allanol fel yr wyf yn gofidie nad wyf yn alluog i roddi i chwi ymddiddan. Ychwanegodd Arglwydd Penrhyn, ac y mae'r geiriau yma yn rhai arwyddocaol, Fodd bynag, yr wyf yn mhell o ddymuno gosod rhwystr ar y ffordd i'm diweddar weithwyr gael y lies o'ch cynghor; ac os gallwch fy sicrhau i y bydd i chwi lynu yn ffyddlon at eich datganiad na bydd i chwi ymyryd, bydd yn dda gan Mr. Young eich cyfarfod yn ei swyddfa, a rhoddi i chwi hysbysrwydd pellacfe a all eich cynorthwyo, ar y dealltwriaeth fod yn rhaid i'r cais am gael gwaith yn fy chwarel gan rai o'r dynion ag yr wyf fi yn barod iV derbyn, ddyfod oddiwrth y dynion eu hunain, ac nid drwy gyfrwng trydydd plaid." Teim- lodd cynrychiolwyr y Cynghor Sirol, yn naturiol, yn SIOMEDIG WRTH YR ATEBIAD YMA, yn neillduot ar ol i Arglwydd Penrhyn ddiolcb iddynt ar y dechreu. Gyda golwg ar ym- ddygiad y dynion, rhoddodd y ddirprwyaeth gofnod ar lawr fod y dynion wedi rhoddi i fynu bob pwynt ag a fuasai yn rhwystr ary ffordd i gyfarfod Arglwydd Penrhyn. A oedd modd cyrhaedd unrhyw derfyniad boddhaol pan nas gallasai y gynrychiolaeth ond ymddiddan a Mr. Young, gwas Arglwydd Penrhyn, a'r hwn a feirniadiwyd mewn cysylltiad ag arolygiaethi y chwarelau ? Ysgrifenodd cynrychiolwyr y Cynghor Sirol fel y canlyn at Arglwydd Penrhyn Ysgrifena eich Arglwyddiaeth fel pe y disgwyliech i ni gymeryd ochr a chynghori y dynion yn unig, pryd y ceisiasom weithredu ar benderfyniad y Cynghor Sir drwy weled y ddwy blaid." Yn eu llythyr diweddaf priodolent eu haflwyddiant i waith, Arglwydd Penrhyn yn gwrthod rhoddi iddynt ymddiddan bersonol, a rhesymau a nodwyd mewn llythyr blaenorol. Yr oedd ym- ddygiad y dynion, y rhai oeddynt yn barod i'r achos gael ei roddi i gyflafareddiad neu o flaen bwrdd cymod yn cael ei gymeradwyo gan y Cynghor Sirol, ac hefyd gan bob Undeb Llafur yn y wlad; ac yn adroddiad Cynghrair Cyffredinol Undebau Llafur sylwirr Credwn fod chwarelwyr Bethesda yn ymladd dros yr hyn sydd yn gwneyd Prydeinwr yn deilwng o'r enw-ei anibyniaeth a'i dynol- iaeth" (cymeradwyaeth). Drosodd a thros- odd drachefn y dywedodd y dynion wrtho ef (Mr. Jones) ac ereill EU BOD YN BAROD i osod yr holl achos o flaen dynion anmhleidiol, ac eto dyma'r modd yr ymddyga Arglwydd Penrhyn at bob cais i gymodi. Yn ystod yr 2 lain mis yma bu caledi mawr yn yr ardaL Aeth rhai dynion yn ol i'r chwarel; ond o'r 2,800 a weithient yno gynt, ni ddychwelodd y ddwy fil. Y mae oddeutu saith gant yn gweithio yno, ond nid oes fwy na haner o'r rhai hyn yn streicwyr. Y mae nifer luosog o weithwyr medrus wedi gadael eu cartrefi, a adeiladwyd, lawer o honynt, gan y dynion eu hunain ac wrth gwrs, nid oedd y rhai a aeth- ant i Dde Cymru a manau ereill ond yn enill cyflog ansicr. Gwaith am dro oedd canoedd o honynt yn ei gael, a byddai raid iddynt gadw eu hunain oddicartref tra yn anfon cym- horth adref i'w teuluoedd. Ac yr oedd yn deg dyweyd, allan o'u cyflogau, hwy a anfonasant arian, yn ystod y sefyll allan i gynorthwyo eu hysgolion a'u capelau. Ymddangosai y dyrysbwnc ym Methesda iddo ef yn fwy an- hawdd a phoenus oherwydd ymlyniad gredd- fol wrth Bethesda lie y gwnaethant eu cartrefi ac y codasant eu sefydliadau. Yn yr Almaen ac America yr oedd prif ddyn- ion pob plaid yn myned i mewn i gwestiynau i geisio dwyn heddwch i ryfelllafur. Nid oedd ar y dynion yma eisieu dim ond yr un hawl a breintiau ag a fwynheir gan eu cydweithwyr drwy yr oil o Loegr. Mewn gwirionedd, gof- ynant am lai na mwnwyr sir Efrog, Durham, a Northumberland, a rhyfeddai chwarelwyr Bethesda at yr hawliau a feddai eu cydweith- wyr Seisnig. Dymunai ddyweyd fod pob peth