Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CORONIAD IORWERTH VII.I

News
Cite
Share

CORONIAD IORWERTH VII. GOLYGFA ARDDERCHOG YN LLUNDAIN. MYNED ADREF A'R GORON AR E1 BEN. Coronwyd lorwerth VII. yn frenin ar Bry- dain dydd Sadwrn diweddaf, Awst 9fed. Yr oedd yn frenin cyflawn i bob galwad gwlad- wriaethol oddiar ei esgyniad i'r orsedd, ar ddydd marwolaeth ei fam, y Frenhines Victoria ond yn y Coroniad y mae'r bobl yn cadarnhau ac yn cydnabod ei awdurdod ac yn gofyn ar i'r Goruchaf fendithio ei fren- hiniaeth. Diwrnod mawr oedd y dydd hwn yn Llun- dain. Trefnwyd iddo fod yn ddydd gwyl, a throdd miloedd o fobl deyrngar a chywrain allan i longyfarch eu Brenin ac i gymeryd rhan yn y gwaith o goroni eu Teyrn. Yr oedd Mynachlog henafol Westminster wedi ei thrawsnewid am y dydd a'i dodrefnu mewn modd gorwych, a llanwyd pob congl o honi gan fawrion ein tiriogaethau ac uchelwyr ein g-wlad. Tyrasant yno yn foreu, ac erbyn wyth o'r gloch yr oedd pob lie a chilfach wedi ei lanw a'r rhai oeddynt wedi eu gwahodd i weled yr orymdaith a'r gweithrediadau ynglyn a'r Coroniad. Cyn haner dydd, yr oedd y Brenin a'r Frenhines wedi dod i'r lie, ac ynghanol gol- ygfa ardderchog, na welwyd ei chyffelyb erioed o ran gwychdra ac urddasolrwydd, y cyhoeddodd Archesgobion Caergaint ac Efrog fod Iorwerth y VII. a'i briod Alexandra yn Frenin a Brenhines Goronog ar Brydain Fawr a'r Iwerddon, a'r gwledydd tuhwnt i'r mor. Yr oeddid wedi trefnu i Wyl y Coroni gael ei chynhal ar y 26ain o Fehefin diweddaf. Fel bu'r anhap y tro hwnw cymerwyd y Brenin yn wael, a bu raid iddo fyned o dan driniaeth feddygol lied lem, a bu ei adferiad yn lied amheus dros amryw ddyddiau. Erbyn hyn, a thrwy ofal rhyfeddol ei feddygon, y mae wedi cael ymwared o'r anhwyldeb blin, a mawr oedd y boddhad wrth ei weled mor dda dydd Sadwrn ar waethaf ei gystudd maith. Nid yw, wrth gwrs, wedi cyflawn enill ei iechyd da blaenorol, ond y mae'n amlwg fod gwreiddyn y drwg erbyn hyn wedi ei symud ac y gall Iorwerth eto weled dyddiau lawer i reoli ei wlad ac i fod yn amddiffynydd i'w ddeiliaid fel yr addawodd fod dydd Sadwrn di- weddaf. Taith fer a gymerodd tua'r Fynachlog y waith hon; oherwydd ei wendid naturiol, fe gwtogwyd y gwasanaeth gan adael allan y Litany ynghyd a'r bregeth oedd yr Archesgob wedi ei threfnu. Drwy hyn, deuwyd allan yn gynarach nag y disgwylid, er, ar yr un pryd, iddynt gymeryd tuag awr yn fwy o amser nag a drefnwyd gan yr awdurdodau. Ond priod- olir hyny yn benaf i lesgedd a henaint yr Archesgob yr hwn nid oedd yn abl i gyflawni yr oil fel ag y gobeithid. Caed gorymdaith fawr yn ol i'r Palas Bren- hinol o'r Fynachlog. Marchogai y Brenin a'r Frenhines mewn hardd-gerbyd goreurog gyda'u coronau ar eu pen. Blaenorid hwy gan ganoedd o uchelwyr y wlad a chan y bobl filwrol, a dilynwyd hwythau gan Dywysog a Thywysoges Cymru ac ereill. Cawsant dder- byniad croesawgar iawn gan y miloedd a ddaethant ynghyd ar yr amgylchiad, a sicr yw fod Iorwerth ar ddechreu ei yrfa mor boblogaidd ag unrhyw frenin a fu erioed ar orsedd Prydain Fawr. Hir oes iddo, a boed iddo gael sylweddoliad priodol o'i safle a'i gyfrifoldeb, ac na foed i'r wers bwysig a gaf- odd yn ddiweddar gan y Duw ei hun fod yn wers heb ei dysgu ganddo.

CHWARELWYR BETHESDA.