Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

\ CYNYRCHION YR EISTEDDFOD,

[No title]

Oddeu tu'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeu tu'r Ddinas. Os oedd haner y dinaswyr allan yn y wlad ar eu gwyliau adeg y coroniad, daeth digon o'n cydwladwyr o'r hen wlad yma. i lanw eu lie. Yr oedd rhestr go dda o'n pobl fawr yn Mynachlog Westminster dydd Sadwrn, llawer o honynt mewn gwisgoedd na welsant eu bath o'r blaen. < Mae'n debyg i'r Marcwis o Fon gael cryn rialtwch wrtho ei hunan pan yn dychwelyd o'r Fynachlog, a chredodd plantos y ddinas mai perchenog rhyw 'punch and judy show' ydoedd end o ran hyny y mae'r Marcwis yn lied hoff o chwareu. Mae cor o ferched Americanaidd yn bwr- iadu talu ymweliad a'n dinas un o'r dyddiau nesaf yma ar eu ffordd i Eisteddfod Bangor. Arweinir hwy gan Mrs. Casssli—iynes yn hanu o deulu Cymreig yn sir Fynwy. » Ar eu gwyliau y mae nifer o'n gweinidogiorl Cymreig y dyddiau hyn. Yn mhellafoedd sir Benfro y mae'r Parch. D. C. Jones yn mwyn- hau su y don, ac ar draethell y gogledd y barddona Machreth. Yn beirniadu mewn eisteddfod yr oedd y Parch. Richard Roberts pan glywsom ddiweddaf son am dano, a Garmon Owen yn enill cadair am bryddest. Y canlyniad yw mai pregethwyr o'r wlad sy'n Ilanw ein pwlpudau y dyddiau hyn, a buont oil yn Iled deyrngar y Sill di- weddaf yn pregethu am neu dros y Brenin. Er hyny, y peth mwyaf gwrthurl ar y Sill mewn capel Cymreig yw clywed y bobl yn ceisio canu God save the King." Yr ydym fel eglwysi yn ceisio bod yn deyrngar dros ben, ac wedi boi yn fawr ein pryder dros iechyd ein Brenin yn ystod y Suliau a aeth heibio; er hyny, ychydig yw ein gwaith a'n pryder ar ran y miloedd o'n cydgenedl colledig yn y ddinas yma. Yr eglwysi sydd yn canu « G-od save the King amlaf yw y rhai mwyaf esgeulus i ofyn ar i Dduw achub rhai o'n brodyr a'n cyfeillion agosaf. Ond y rheswm yw, y mae y naill yn beth ffasiynol tra nad yw y llall yn werth sylw. "Nid oes un rheswm," meddai'r Parch. D. Adams, "Haw en," y dydd o'r blaen, "yn erbyn i Ymneullduwyr fod yn deyrngar." Nac oes yn sicr, ond i'r teyrngarwch hwnw beidio mynd yn waseidd-dra. Yn y dyddiau hyn perygl mawr ein harweinwyr Ymneullduol yw myned yn rhagrithwyr gwasaidd i'r Brenin a'n llywodraethwyr am ei fod yn beth poblog- aidd gan aberthu pob rhith o egwyddor ar allor ffasiwn. # Dydd Llun diweddaf, Awst 12, bu farw, yn Taliesin, Ceredigion, Mr. John H. Morris. Bu Mr. Morris yn flaenor blaenllaw yn eglwys Holloway, ac wedi hyny yn Falmouth Road, Adnabyddid ef fel dyn ieuanc o alluoedd meddyliol cryfion, a chymeriad unplyg. Yr oedd yn ddirwestwr brwd, ac erys yr adgof o'i areithiau gryrnus a'i apeliadau taer at bobl ieuainc yn hir mewn cof. Anami y ceid ei gydmar mewn dadl. Bu yn arwain amryw Eisteddfodau, ac yn ffyddlawn iawn ynglyn a. Chymdeithas Cymru Fydd ar ei chychwyniad cyntaf; ond, beth amser yn ol, torodd ei iechyd i lawr, ac er holl ymgais meddygol, nid oedd gwella i fod gwaethygu yr oedd; a dydd Llun cafodd fynediad helaeth a thang- nefeddus i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd. Gobeithiwn alw sylw pellach ato yn un o'r rhifynau dyfodol. Duw fyddo yn nawdd i'w weddw a'i ferch.