Hide Articles List

3 articles on this Page

ANEURIN FARDD A'R "CELT."

News
Cite
Share

ANEURIN FARDD A'R "CELT." Ychydig wythnosau yn ol, cyhoeddwyd yn y Drych-papyr Cymreig America-rai syl- wadau oddiwrth yr hynafgwr uchod yn beirn- iadu llyfr Mr. O. M. Edwards ar "Hanes Cymru." Yr oedd ei gasgliadau mor anheg, a'i nodiadau mor fombastaidd, fel y galwyd sylw ato yn ein colofn fel a ganlyn Mae Aneurin Fardd yn curo yn drwm ar lyfr Hanes Cymru Mr. O. M. Edwards, yn y Drych, Nid yw O. M. yn hanesu wrth ei fodd, a gwell gan Aneurin, Carnhuanawc a'i Ml. Nid rhyfedd yw hyn, pan feddyliom mai rhyw fath o Gwilym Cowlyd yr America yw Aneurin Fardd. Dyfynwyd y nodiad yna yn y Drych, ac yn y rhifyn diweddaf o'r papyr sydd mewn Haw y mae Aneurin druan yn ceisio esbonio ei safle ac yn dylorni y CELT am wneuthur cam Ai sylwadau. Dyma ddywed :— Ymddengys oddiwrth y dyfyniad o'r CELT yn y Drych diweddaf fod yr ychydig nodiadau o'm heiddo ar adclygiad llyfr O. M. Edwards a ymddangosodd yn y New York Times' Saturday Bevieiv, wedi peri yn folwst i'r CELT, yr hyn sydd beryglus y tymhor hwn o'r flwyddyn. Ond pe bae rhyw wahaniaeth am farn y CELT, y mae yn fy nghamgyhuddo o guro yn drwm ar lyfr Hanes Cymru O. M. Edwards yn y Drych.' Y ffaith yw mai ar yr adolygiad o hono yr oedd fy nodiadau, gan dybied a gobeithio hefyd nad oedd O. M. Edwards yn euog o gynwysiad yr adolygiad yr hwn oedd yn ei fradychu i'm tyb i ar y pryd o anwybodaeth, anwladgarwch ac an- Nghymreigiaeth. Nid ydwyf hyd eto wedi gweled y llyfr, ond y mae'r CELT yn profi fod yr adolygiad yn y Times' Saturday Review yn deilwng o hono, gan ei iawn ddesgrifio ac yn dangos fod fy nghred yn, a'm hewyllys da dros O. M. Edwards yn gamosodol. Mi a grybwyllais am hysbysiad blaenorol o'r Ilyfr yn ei osod allan I Yr Hanes Cymru Gwirioneddol Cyntaf the first authentic History of Wales., Ac fel y mynegais mai anhuedd- garwch i wrthwynebu O. M. Edwards, beth bynag fuasai cynwysiad ei lyfr, a'm hataliodd i amheu yr haeriad hwnw ar y pryd, yr hyn a brawf, tybiaf, nad oedd ynof unrhyw rag- tarn yn erbyn yr awdwr. Nis ymddiheurais enwi Carnhuanawc yn un i brofi'm gwrth- ddadl, gan gyfeirio at O. M. Edwards ei hun fel un hysbys o hono, o dan y dyb eto ei fod yn cael ei gamddeall. Ond dyma'r CELT nid yn unig yn arddel yr adolygiad fel cynrych perffaith o'r llyfr a safle O. M. Edwards fel yr hanesydd Cymreig gwirioneddol cyntaf, a hyny ar drothwy yr ail filflwydd o'r cyfnod Cristionogol! Ymhellach, nid yw y CELT yn ymfoddloni ar fy ngosod megis yn camsynied, ond rhaid iddo ymostwng, pe bai Ie, i ddiystyru gwrth- rych fy awdurdod yn y geiriau, 1 Nid yw O. M. Edwards yn hanesu wrth ei fodd, a gwell gan Aneurin Carnhuanawc a'i hil.; O. M. Edwards eto yn lie yr adolygiad a feiddiais ei adolygu. Yn awr, bydded hysbys yngwyneb baul a llygad goleuni,' fy mod yn cydnabod ac yn arddel cyhuddiad y CELT o fod yn cym- eryd Carnhuanawc fel y safon deilyngaf fel beirniad a dadblygydd hanesiaeth Gymreig, am y rhesymau canlynol yn bresenol, gan fanylu eto, er y gallwn enwi Edward Llwyd, Ieuan Brydydd Hir, lolo Morganwg ac ereill fel rhai ag y mae llenyddiaeth Gymreig yn ddyledus iddynt am gael allan lawysgrifau, ac wedi gwneuthur nodiadau teilwng arnynt, i Carnhuanawc yr ydym yn benaf yn ddyledus am y prif ddadrysiad o'r gwir oddiwrth y gau, y ffaith hanesyddol oddiwrth y ffug- chwedlog a'r rhamantus, a'i lafur yn llafur cenedlaethol, gwladgarol, a Chelt-Brython- awl-Gymreigawl er mwyn teilyngdod gwir hanesiaeth ar ei safon ei hun, ac ni chymer- asai ef y greadigaeth am sefyll yn yr esgidiau y mae y CELT yn eu rhoddi yn eiddo O. M. Edwards, o fod yn hiriedigyn i un cyhoeddwr Cockneyaidd, nac un hysbyswr Yankeeaidd, y cyfryw nad oes ond budr-elw yn eu golwg ar draul diraddio Celtiaeth er dyrchafu Anglo- Saxoniaeth fel etifeddiaeth anghyfreithlawn Rhufeinig. Am ensyniad y CELT fy mod yn rhyw fath o Gwilym Cowlyd, rhaid i mi adael hyny i'r cyhoedd, gan nad wyf ond tra anhysbys o newyddion Cymreig ond yn unig a ddetholir i'r JDrych. Eithr gan fod y CELT wedi cam- syniad fy amcan, fy mwriad yn awr ydyw meddianu y llyfr a'i adolygu yn fanwl yn Gymraeg ac yn Seisnaeg gyda'r penderfyniad o roddi i hyny y cylchrediad helaethaf, heb y meddwl lleiaf o wneyd cam a'r awdwr, ond yn benderfynol i'w atal yntau, mor bell ag y medraf, wneyd un cam ag hanesiaeth Gym- reig yn unrhyw gyfnod." Wrth hyn, fe welir fod y critic o'r Merica yn pwyso a mesur y llyfr heb erioed ei weled na'i ddarllen! a chymer tua dwy golofn o'r Drych i egluro yr hyn a amcanai ddyweyd ar y cyntaf. Mae'n wir mai adolygiad papyr American- aidd arall o'r llyfr a fu'r achlysur o lith y gwr, ac mai rhyw fath o "daro'r post er mwyn i'r anifail glywed a wnaeth. Ond y mae meddwl am neb yn rhedeg i brint a phasio barn ar lyfr pwysig fel hwn heb yn gyntaf ei ddarllen yn dangos anhegwch neu ragfarn eithafol. Ar ol hyn, dylem ymddiheuro i Gwilym Cowlyd, oherwydd y mae efe yn ceisio darllen ychydig, beth bynag, cyn tori pawb allan o'r cylch barddonol fel hereticiaid ac anwybodus- ion. Nid oes ond Americanwr a wnai fel arall.

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.

[No title]