Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Hir oes i'n Coronog Frenin. Dyna ddym- uniad pawb ar goroniad Iorwerth VII. Nid oedd teimladau y bobl agos mor frwd- frydig ynglyn a'r Coroniad y dydd o'r blaen ag oeddynt ar adeg y parotoadau cyntaf. Faint o filoedd ddaeth ynghyd i weled yr orymdaith ddydd Sadwrn ? Nis gellir dyweyd i sicrwydd ond mae'n amlwg nad oedd yno agos cymaint ag a ddisgwylid. Bu llawer o'r ymwelwyr mwyaf pybyr" ar lawr drwy'r nos cyn y Coroniad, a chymer- asant eu safleoedd mewn manau cyfleus ar y daith cyn glasiad y dydd, Yr oedd y tyrfaoedd yn llawer mwy lluosog ar noson y Coroniad nag ar hyd y dydd. Er yr ofnid torfeydd y boreu, daeth pawb allan yn yr hwyr i wylied yr addurniadau goleuedig oedd ar brif fasnachdai'r dref. Yn ystod yr wythnos hon yr oedd cryn gywreinrwydd ar ran pawb i gael cip ar Fynachlog Westminster. Dydd Mawrth y cafodd y cyhoedd gyfie i'w gweled, ond codid y tal uchel o goron am y boddhad. Ddoe a heddyw nid oedd y doll ond chwe' cheiniog. Dydd Gwyl oedd y Sadwrn diweddaf ym mhob man. Gan na chyhoeddwyd ef yn wyl y Banciau ond ychydig ddiwrnodau yn flaen- orol, ni chaed un math o rialtwch cenedl- aethol arno. Oherwydd meithder yr oriau fu raid i'r milwyr ac ereill aros ar yr ystrydoedd dydd Sadwrn, bu i nifer fawr o honynt lewygu wrth eu gwaith, nes y bu raid eu cymeryd allan i leoedd agored i ddadebru. Buwyd yn ffodus iawn i gael tywydd tym- herus ar ddydd yr orymdaith i Westminster. Yr oedd awel lem drwy y boreu, ac ofnid unwaith neu ddwy y buasai'r gwlaw yn disgyn, ond yn ffodus cadwodd hwnw draw nes yr oedd y Brenin wedi cyrhaedd ei balas yn ddiogel. Ar ol hyn, caed cawod lied drom dros ran o'r ddinas. Mae'r bont addurnedig a godwyd gan Canada yn Whitehall wedi ei thynu i lawr, a dywedir fod trefniadau wedi eu gwneyd i'w chadw yn barhaol yn y Palas Grisial, fel math o adgof i'r anghyfarwydd am y dalaeth yng Ngogleddbarth America. Ar adeg Coroniad y Brenin, fel ar adeg ei esgyniad, ni ryddhawyd yr un carcharor. Er hyny, diau fod yr amgylchiad presenol wedi bod yn un ffafriol iawn i'r carcharorion rhyfel o Affrica, gan y bydd iddynt gael gwell trin- iaeth a rhyddhad, feallai, ar ol i bob helynt ddarfod yn y dalaeth. Cymer pedair o etholiadau le o hyn i ben ychydig ddyddiau. Y mae nifer o seddau wedi eu gwaghau yn ddiweddar drwy gyf- newidiadau yn y Weinyddiaeth ac achosion ereill. Daw son am amryw o ddamweiniau i deith- wyr ar ben yr Alpau eleni eto. Rhyfedd y fath swyn sydd mewn peryglu einioes er enill y gamp o ddringo i ben mynydd anhawdd a chribog. Dydd Sadwrn diweddaf bu farw Miss Annie Rees o Abeitawe. Hi oedd yr olaf o'r teulu, a chladdwyd ei gweddillion dydd Mercher, ynghanol arwyddion o alar mawr. Yn ol pob hanes, fe gaiff y ffermwyr Cym- reig flwyddyn gnydiog arall eleni eto. Nid oes llawer o achos cwyno ganddynt yn ddi- weddar, oherwydd er's pedair neu bum' mlyn- edd, bellach, y mae amaethyddiaeth wedi bod yn talu yn dda. Mae'r fuddugoliaeth a enillwyd gan y glowyr ar y meistri ynglyn ag helynt y diwrnod di-waith yn peri cryn siarad ymysg Undebau Llafur. Yr oedd eu bodolaeth mewn perygl o'r blaen, ond feallai y ca'nt beth am- ddiffyniad bellach. Y Mesur Addysg a'i anghyfiawnder ydyw pwnc siarad y cylchoedd Ymneullduol heddyw, ac mae'n eglur fod pob gwr gonest yn gweled y perygl sydd i Ymneullduaeth os derbyniant y Mesur fel y saif ar hyn o bryd. Bydd raid iddynt drethu eu hunain er mwyn cynorthwyo sefydliadau Eglwysig, ac os gwnant hyny, wel ffarwel am byth i egwyddorion. Mae pobl Cyngor Sir Arfon wedi datgan yn groyw nas gallant hwy byth ganiatau i dreth gael ei gosod ar y sir at achosion nas gallant hwy reoli yr arian ynglyn a hwy. Os na wnant hyny, yna bydd Mesur Addysg yn ddirym yn y sir; ond diau fe ddaw gorfodaeth arnynt o rywle neu gilydd gan nad yw yr Eglwyswyr i gael dioddef dim o hyn allan tra bo'r fath Weinyddiaeth Doriaidd a hon mor barod i'w cefnogi. Yn ardal Abersoch y mae Dr. Horton yn treulio ei wyliau eleni, a deallwn fod y pre- gethwr enwog yn mawr fwynhau golygfeydd rhamantus Lleyn yn ogystal ag yn cael budd oddiwrth awelon pur ardal mynyddoedd yr Eryri. 11 Mae gwahaniaeth barn," ebe Mr. S. T. Evans, A.S., ym Mrawdlys Caerdydd, y dydd o'r blaen, ynghylch euro plant yn yr ysgol, ond y mae prifathraw un ysgol Seisnig fawr yn bostio ei fod wedi euro pob un sydd yn awr ar fainc yr esgobion." Dyna brawf nad yw'r curo o nemawr les Hysbysir fod Arglwydd Rosebery i dra- ddodi araeth wleidyddol arall yn fuan yn yr Alban. Wel, y mae'r gwr wedi siarad cym- aint yn ddiweddar, ac wedi cyflawni mor ychydig, fel mai ofer yw disgwyl y daw un daioni oddiwrth ei areithiau rhagor na rhoddi gwaith i wyr y papyrau. Nid oes yng Nghymru, meddir, ond un aelod yn glynu yn ffyddlon wrth gredo Ar- glwydd Rosebery, a hwnw yw Mr. Vaughan Davies, yr aelod tros wlad y Cardis. Mae pobl Aberteifi wedi cael y fath amrywiaeth i'w cynrychioli o bryd i bryd fel nad yw'n syndod eu bod yn berffaith ddifater am gredo Mr. Davies. Yr oil a ofynant hwy oddiwrtho yw ar iddo roddi fot weithiau yn rhai o'r prif ymraniadau. Yn eu cyfarfod chwarterol yng Nghwmy- glo, penderfynodd Anibynwyr Arrfon i wneyd ( yr oil a allent er atal y Mesur Addysg,' os ei pasir yn y dull presenol. Dywedai cad- eirydd y cynulliad-Mr. Hugh Owen, Llan- dudno, y cawsent werthu ei eiddo ef cyn byth y talai efe y dreth er cynal yr ysgolion Eglwysig. Bu un o gorau pobl y Penrhyn ar ymweliad a rhanau o Lundain yr wythnos hon, a mawr edmygid eu canu rhagorol. Y mae'r gweith- wyr Seisnig yn hael iawn yn eu cyfraniadau tuag atynt, ac ar y cyfan llwydda'r cor i gasglu cryn swm i gronfa y chwarelwyr.