Hide Articles List

3 articles on this Page

HEN LYFRAU NEWYDD.

News
Cite
Share

HEN LYFRAU NEWYDD. ["YNY LLYVYR HWNN" 0 dan olygiaeth Mr. J. H. Davies, M.A., a "OLL SYNWYR PEN KEMBERO Y GYD dan olygiaeth Mr. J. Gwen- ogfryn Evans, D.Litt. Cyhoeddedig gan Jarvis a Foster, Bangor. 1902.] Dyma ddwy gyfrol hir-addawedig wedi eu cyhoeddi o'r diwedd. Tybir yn gyffredin, mai hwynthwy oedd y ddau lyfr cyntaf a argraffwyd erioed yn y Gymraeg; ond i ba un y perthyn yr anrhydedd o fod y llyfr cyntaf "nis beiddiwn farnu, oherwydd y mae dau lyfrbryf mor enwog a golygwyr yr ar- graffiadau presenol yn methu'n lan a chytuno. Myn Mr. J. H. Davies mai i'w gyfrol ef y priodolir, yn gyffredinol, yr urddas o fod yn rhag-redegydd ein llenyddiaeth; tra, ar yr ochr arall, y mae Mr. Gwenogfryn Evans yn dadleu mor fanwl a thwrne mai i'w lyfryn ef y dylid rhoddi hyny o glod. 0 dan nawdd Urdd y Graddedigion Cym- reig y cyhoeddir y cyfrolau yn awr, a rhaid dyweyd fod yr Urdd wedi gwneyd yn ddoeth i sicrhau y cywreinion hyn, gan eu dwyn o fewn cyrhaedd i efrydwyr ieuainc ein hanes a'n Henyddiaeth. Prin y gellir eu galw yn llyfrau gwerthfawr o ran eu cynwys rhagor na'u bod yn hen ac yn ddyddorol, a'r unig beth pwysig i'r lienor ynglyn hwy yw yr iaith a arferir ynddynt a'r dullwedd cyffredinol o gyflwyno llenydd- yddiaeth y genedl yn moredydd yr argraff- wasg. Am y gyfrol fechan a adnabyddir o dan yr enw Yn y Llyvyr hwnn," y mae'r llyfryddion hyd yma wedi cymeryd yn ganiataol mai hon yw cynyrch cyntaf y wasg Gymreig, ac mewn rhagymadrodd galluog a hanesyddol, y mae Mr. Davies yn yr argraffiad presenol yn cad- arnhau hyny mewn modd sydd anhawdd i ni beidio a'i dderbyn. Nid yw hanes y cyfnod ei argraffwyd yn rhyw eglur iawn yn llenydd- iaeth ein gwlad, ond y mae meddwl am 1546 fel y flwyddyn y gwelodd oleuni dydd yn ein harwain yn ol i bellderoedd tywyll y gor- phenol. Nid yw'r cyfrolau a drowyd allan y pryd hwnw mor gyffredin a nofelau chwe- cheiniog heddyw, ac am hyny, nis gellir casglu prawfion a ffeithiau ynglyn a hwy mor ami ag y gellid ddymuno. Hyd yn ddiweddar, nid oedd neb yn y genhedlaeth hon na llawer un o'i blaen wedi gweled y gyfrol hon. Nid oes, mor bell ag y deallwn, ond un copi ar glawr, ac y mae hwnw wedi dod i feddiant Syr John Williams mewn dull hynod iawn. Yn ol rhagdraeth Mr. Davies ceir cyfeiriadau at y llyfr mewn amryw hen nodiadau llenyddol, tua'r blyn- yddoedd 1567, 1648 a 1717 ac hefyd yn 1749, ond o'r fiwyddyn hono ymlaen collwyd pob golwg arno nes deuwyd o hyd i gopi yn liyfrgeil Castell Shirburn, rhan o hon a bryn- wyd yn ddiweddar gan y Barwnig Feddyg Cymreig enwog. Mae'r ffaith fod y llyfr yn cael ei restru o dan yr enw Beibl" yn y cyfeiriadau olaf a nodwyd, yn brawf nad oedd yr ysgrifenwyr hyny wedi gweled y gyfrol, oherwydd nis gellir ei restru o dan y fath enw o gwbl. Math o almanac crefyddol ydyw, yn cynwys y Deg Gorchymyn, y Gredo a phethau cyffeiyb, ac ni roddes yr awdwr yr un enw arno rhagor na gosod gwyneb-ddalen yn traethu beth oedd prif gynwys y llyfr, gyda'r dyddiad (1546) ei argraffwyd yn Llundain. Un Syr John Prys oedd yr awdwr, a gwr enwog yn y gyfraith ac yn hanu o deulu yn y Deheudir ydoedd, ac y mae'r hanes dyddorol a roddir am dano ef a'i gyfnod gan Mr Davies yn ddarllenadwy dros ben. Mae ol ymchwil- iad dyfal yn y cyfan, ac yr ydym yn diolch o galon i'r Urdd a'r golygydd am gyflwyno y fath eglurdeb i lenorion presenol ein gwlad. Yn ychwanegol at II y llyfr cyntaf," ceir adargraffiad o'r pamphled cyntaf" a ar- graffwyd yng Nghymraeg, a gelwir hwn o dan y teitl rhyfedd "Ban wedy i dynny." Priodolir hwn i William Salesbury, ac achos J ei gyhoeddiad oedd syniadau newydd yr eg- lwys Babaidd ynghylch priodas, &c. Am "Oil Synnwyr pen" &c., gellir ei alw yn gasgliad o ddiarhebion Cymreig, a dydd- orol yw sylwi mor hen yw llawer o'n dywed- iadau heddyw, megis "Rhwng y ddwy stol ydd a'r dyn i lawr. Hir pob aros. u Haws doedyt mynydd na myned trostaw. "Deuparth gwaith ei ddechreu." Casglwyd y rhai hyn, mae'n debyg, gan Gruffydd Hiraethog, prif fardd Gwynedd, a chopiwyd hwy gan William Salesbury. Fel y sylwyd eisoes, ni wyddis yn sicr p'un ai hwn ai y llall yw y llyfr cyntaf, ond cydnebydd Mr. Evans nas gallasai fod wedi ymddangos cyn 1546 ond mai'r tebygolrwydd yw iddo ddod o'r wasg tua'r un adeg a Yn y llyvyr hwnn." Os felly, priodol iawn oedd cyhoeddi y ddau lyfr eto am yr ail waith ar yr un adeg. Fel y Hall, nid oes ond un copi o'r gyfrol hon eto ar gael a chadw. Y mae ein cenedl o dan ddyled drom i'r ddau chwilotwr dyfal am gymeryd y fath drafferth gyda'r llyfrau dyddorol hyn, a hyderwn y rhoddir iddynt groesawiad calonog gan nifer fawr o lengarwyr ein gwlad. Cyhoeddir hwy mewn modd destlus gan Mri. Jarvis a Foster, Bangor, mewn tri o wahanol argraffiadau, (I) Japanese vellum, bound limp or half morocco, 12s 6c. (2), Hand made paper edition, 7s 6c. (3), Ar- graffiad y bobl, llian, 2s 6c net.

[No title]

Advertising