Hide Articles List

4 articles on this Page

11AInf',i Bgd y t) Gan.

[No title]

rrr-T Y FUGEILIAETH.

News
Cite
Share

rr r-T Y FUGEILIAETH. Y mae y fugeiliaeth wedi sefydlu yn lied gyffredinol ym mhlith y Methodistiaid Calfin- aidd mewn tref a gwlad; ac y mae mawr angen am dani yn y trefydd mawrion, lie y mae yr ieuengctyd fel dieithriaid ar wasgar, yng nghanol temptasiynau, a lie y mae Satan yn trigo, a chanddo lid mawr. Cydnabyddaf mai dyledswydd fawr gyntaf pob gweinidog ydyw darpar yn dda ar gyfer y pulpud oherwydd mewn llawer lie nid oes fynediad rhwydd iddo at fwyafrif yr aelodau ond os bydd yn gryf yn y pulpud cyferfydd a phawb, a gellir disgwyl iddo fod yn weddol gryf ym mhob cylch arall. Hefyd, anfynych y cydgyferydd y cymhwysderau pregethwrol a bugeiliol yn yr un person. I wneyd i fyny y diffyg onid oes genym flaenoriaid, neu fe ddylai fod, yn gystal ag aelodau eraill, parod ac ewyllysgar i wneyd llawer o'r gwaith bugeiliol ? Yn wir, un o wendidau y fugeil- iaeth yw dirprwyo gwaith pawb yn ormodol i un. Ar yr un pryd, y mae angen am fugail i arolygu yr holl drefniadau, ac i edrych ar fod pob symudiad daionus yn cael ei ddwyn ym mlaen i derfyniad Uwyddianus. Ond nid wyf yn meddwl fod y fugeiliaeth wedi ei gosod i orphwys ar seiliau diogel a pharhaus. Enwaf ddau ddiffyg. Yn gyntaf, y mae eisieu mwy o awdurdod dros symudiadau y bugeiliaid o'r naill eglwys i eglwys arall, ac o'r naill gyfarfod misol i gylch cyfarfod misol arall. Ni ddichon bugail ddyfod i unrhyw eglwys heb dderbyn cadarnhad y cyfarfod misol i'r alwad hono. Paham na arferir yr un awdurdod ar ymadawiad bugail, os bydd yr eglwys yn par- hau yn ymlyngar wrtho. Yn wir, yn ol rheol y cyfundeb, nid oes gan neb ryddid i fyned ar daith y tu allan i gylch ei gyfarfod misol, heb, yn gyntaf, dderbyn caniatad y cyfarfod hwnw. Ond yn awr, y mae y bugail yn edrych allan am y sefyllfa oreu. Wedi i eglwys, dyweder wan, ei gymeryd dros fisoedd mabandod a blynyddoedd ieuengctyd, ac iddo yntau ddechreu magu plu, y mae yn cymeryd ei adenydd, ac yn ehedeg ymaith. Gwn yn dda fod rhai wedi eu cymhwyso i droi mewn cylchoedd eang, ac eraill mewn rhai fyddo llai. Ond tri pheth pwysig i ddyn ydyw adnabod ei hun, adnabod ei waith, ac adnabod ei Ie. Fe fuasai barn onest rhai mewn awdurdod yn gymhorth sylweddol iddo i wneyd hyny. Fe erys rhyw anesmwythder yn yr eglwysi hyd nes y ceir rhyw gynilun i reol- eiddio symudiadau gweinidogion fydd yn gym- eradwy, ac i symud rhai nad ydynt felly. Gallwn dybied na chyfyd anhawsder i hyn o gyfeiriad y gweinidogion a'r bugeiliad, oher- fe'n dysgir ganddynt beunydd fod gwir ryddid, bob amser, yn gweithredu o fewn terfynau rhwymau, ond beth bynag fyddo y position gocheler dra-arglwyddiaeth. Yn ail, Dylai fod mwy o arolygiaeth dros dreuliadau y weinidogaeth, a rhanau eraill o'r gwasanaeth dwyfol. Gallwn dybied am eglwys yn ei sel dros gyfundraeth, neu berson, yn codi cyflog y gweinidog heb ymgynghori a neb y tuallan iddi ei hun, ac yn talu swm mawr o arian am amser maith heb dderbyn dim gwasanaeth yn gyfnewid am dano. Neu gallwn feddwl am eglwys fyddo yn ymylu ar fod yn desperate-yr arweinyddion ddim yn arwain a'r dilynwyr ddim yn canlyn-er mwyn rhyddau ei hun o'i sefyllfa helbulus yn rhoddi cydnabyddiaeth uchel i'r neb a ddeuai ati. Y mae hyn mewn perygl o arwain i ddau o gan- lyniadau gofidus yn un peth, y mae mewn perygl o roddi gormod o faich ar yr eglwys ac os a y fugeiliaeth yn feichus bydd ei defnyddioldeb, i fesur mawr, ar ben. Etto, os gadewir penderfynu safon y cyflog i fympwy un eglwys, cyll yr eglwysi, i fesur mawr, y llywodraeth dros eu cyllidau eu hunain, a gosodir hwy o dan anfantais i fanteisio ar y fugeiliaeth o gwbl. Cof genym am un eglwys fechan mewn cymhariaeth, yr hon, wedi hyny, a ddaeth i ychydig o helbul cyllidol, oedd yn cynyg i weinidog haner can punt (sop.) yn fwy na'r un eglwys arall o fewn cylch y cyfarfod misol. Rhoddodd rhywun y rhybudd canlynol, fel yr ymddangosodd yng nghofnodion un o'r cyfar- fodydd misol, o ddeutu diwedd y flwyddyn 1885 :— 1 Tra yn cydnabod hawliau pob eglwys i lywodraethu ei hachosion lleol ei hun, eto, fel yr ydym mewn undeb a'n gilydd, yr ydym yn barnu, er amddiffyn i'r holl eglwysi, yn gystal a'r bugeiliaid, y dylai fod cyd-ddealltwriaeth rhyngom o berthynas i dreuliadau y fugeil- iaeth ym mhob He.' Yr hyn a ddywedwyd ar y pryd ydoedd nad oedd y cynygiad yn rhwymo neb ond yr eglwys oedd yn cynyg ond buan y cafwyd allan nad felly y bu. Nid wyf yn awgrymu, fel rheol, fod y bugeiliaid yn derbyn gormod o gydnabyddiaeth am eu llafur; ond, y mae yn sicr fod llawer ohonynt yn derbyn rhy fach. Feallai y gwnaiff Casgliad y Ganrif wastadhau rhyw gymaint ar yr anghyfartal- edd. Ond hyd nes y ceir mwy o lywodraeth dros symudiadau y bugeliiaid, a gwell deall- twriaeth o berthynas i'r gydnabyddiaeth a roddir iddynt, yr ydwyf yn methu ymddiried fy hun mor llwyr ag y dymunwn i ofal y gyfun- dreth fugeiliol, a chydweithredu yn galonog o fewn cylch ei therfynau. Gocheler arian- garwch. Yr ydym yn awr yn myned i gadw rhyw fath o giwradiaid lied gostus. Nid personau, ond pethau; a phethau sydd yn apelio nid at y deall, y gydwybod, a'r galon, ond yn hytrach at synwyrau y corph, y llygad, y glust, yr archwaeth, &c. Eu hamcan ydyw denu ein pobl ieuaingc yn arbenig i'n capelau, a'u cadw ynghyd wedi iddynt ddyfod. Ar yr un pryd, y mae perygl i'r casgliad- au lliosog ac amrywiol eu tarfu yn y diwedd. Y mae y fath style o gwmpas ein capelau, a'r gwasanaeth ynddynt, a'r gofyni:n mor drymion, fel nad yw y tlodion yn fynych yn derbyn y sylw dyladwy. Fe wnant y tro i chwyddo nifer yr aelodau; ond, am y respectables yr ymofynir. Os bydd eglwys heb dlodion-o drugaredd, y mae genym rai o'r cyfryw ynddi-y mae lie i ofni nad yw hono yn eglwys i Grist; o herwydd un o seil- iau ei Fesïaeth ef ydoedd A'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.' Y mae tair blynedd a deugain (43) er pan y cafwyd diwygiad grymus drwy Dde a Gogledd Cymru, a lleoedd eraill, y cyfnod hwyaf yn hanes crefyddol ein gwlad. Y pryd hwnw y sefydlwyd y fugeiliaeth yn lied gyffredinol yn ein heglwysi. Anogid hwy i fynu pob un ei bugail, i addysgu ac arwain y dychweledigion ieuaingc, &c. Gellid tybied y buasai pob pant yn cael ei godi, a phob bryn ei ostwng, y gwyr yn cael ei wneyd yn uniawn, a'r an- wastad yn wastad; ond dyma ni heb dywallt- iad helaeth o'r uchelder. Y cwestiwn yw, beth sydd yn atal y dylanwadau nefol ? Ni cheisiaf ei ateb ond y mae yn sicr nad ydyw yr holl fai yn gorwedd wrth un drws. Fe ddywed ein harweinwyr fod diwygiad mawr wedi cymeryd lie mewn haelioni crefyddol. Y mae hyny yn eithaf gwir; ond nid yw haelioni arno ei hun, a'r cymmelliadau iselwael a roddir iddo yn fynych yn fendith ddigymysg. Y mae mewn perygl o fateroli crefydd, a pheri i'n heglwysi dybied mai y tri gras mawr Cristionogol ydyw, nid 'Ffydd, Gobaith, a Chariad, ond P. s. c. Y mae yn bossibl y priodola rhai gymhell- iadau isel-wael i mi am ysgrifenu ysgrif fel hon; ond fy amcan ydyw nid dinystrio, ond adeiladu. H. E.

Advertising