Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

11AInf',i Bgd y t) Gan.

[No title]

News
Cite
Share

YSGOL Y GUILDHALL. Ymhlith enwau y rhai a enillasant wobrwyon yn yr arholiad di- weddaf ceir a ganlyn :— Y Davies" prize £ 5 5s: am ganu unawd bass, rhanwyd rhwng Edwin Evans ac un arall. Aeth James Davis a'r wobr am ganu unawd i denor (Robinson prize, No. I). Enill- wyd ar y ddeuawd i soprano a tenor gan Winifred Saunders a James Davis. Ai Cymry ydyw Mri. Edwin Evans a James Davis? Os felly, carem gael ychydig o'u hanes i'w roddi yn y golofn hon. Drwg iawn oedd genym ddarllen yn y new- yddiaduron fod Mr. Robert Newman wedi gorfod myned yn feth-dalwr. Cysur meddwl, modd bynag, mai nid drwy golledion ynglyn a chynhaliad ei gyngherddau rhagorol ac uwchraddol y daeth hyn oddiamgylch, eithr drwy fenter ynglyn a chwareudy. Gresyn meddwl am y posibilrwydd i gyng- herddau enwog y promenade ddarfod a bod ac os felly y bydd, rhaid dibynu ar gyng- berddau Richter a'r rhai a elwir yn y phil- harmonic am gerddoriaeth gerddorfaol. Y mae gorfod cyfyngu y cyfryw gyngherddau i'r rhai hyn yn beth i ofidio o'i herwydd; ac yn y dyddiau prysur, masnachol hyn, ni ellir yn bawdd fesur y golled a bAr diddymiad cyngherddau y Queen's Hall. Mawr hyderwn y llwyddir drwy ryw fodd i'w cario ymlaen yn ystod y gauaf dyfodol, ac y bydd enw Mr. Newman yn gysylltiedig a hwy. CYNGHERDDAU I'R BOBL. Y mae y cwestiwn yn awgrymu ei hun ini, ai ni ellid cynhal y cyfryw drwy gymhorth tanysgrifiadau cy- hoeddus, neu ynte drwy i'r awdurdodau lleol ymgymeryd a'r gost ? Wrth gwrs, hawdd ydyw awgrymu y dylai y trethdalwyr fyned o dan y baich hwn, ond y mae yn amheus a ydynt yn ddigon cerdd-garol i wneyd y fath aberth; ac nid anhawdd yw profi fod eu beichiau yn drymion iawn eisoes. Eto, ryw- fodd, credwn pe gellid dwyn y bobl yn fwy o dan ddylanwad pureiddiol eerddoriaeth, byddai cymdeithas ar ei mantais a'r trethi, o bosibl, yn llai. YR OPERA. Bellach y mae tymhor yr operaon Italaidd, a roddwyd yn Covent Garden, wedi darfod. Fel arfer, caffai gweithiau Wagner y lie blaenaf ynddynt; ond dywedir nad oeddynt lawn mor atdyn- iadol a chynt. Y mae yn lied fuan casglu fod Wagner, o'r herwydd, yn colli peth o'i bob- logrwydd; ond yn y dyfodol pell, diau na fydd yn ymddangos yn gymaint cawr ag ydyw yn awr. Ynglyn a hyn, gallwn gyfeirio at farn yr enwog Dr. Burney am y cerddor Gluck. Tystiai y Doctor mai hwn ydoedd y cerddor mwyaf yn y byd; ond erbyn heddyw, ychydig iawn o son sydd am Griuck GWYL GERDDOROL CAERDYDD. CynheJir hon ar yr 8fed, y gfed a'r iofed o Hydref. Cenir y gweithiau canlynol: 'Elijah' (Mendelssohn), Song of Destiny (Brahms), Ruth (Cowen), The Beatitudes (Franck), dwy act o'r < Fly- ing Dutchman (Wagner), Stabat Mater z (Rossini),' Orpheus (Gluck),' Faust' )Berlioz). Hefyd, chwareuir amryw o ddarnau cerddor- faol o waith y prif feistri. Cymerir rhan yn nadganiad y gweithiau cerddorol (ymhlith ereill) gan y cantorion Cymreig canlynol: Miss Maggie Davies, Miss Maggie Lewis, Mr. Ben Davies, Mr. Gwilym Richards, Mr. Ffrancon Davies, Mr. D. Hughes a Mr. Ivor Foster. Yn sicr, ni ellir cwyno oherwydd prinder talentau dadganyddol Cymreig yn y rhestr hon.

rrr-T Y FUGEILIAETH.

Advertising