Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas.

GWIBDAITH GYFFREDINOL CYMRY…

News
Cite
Share

GWIBDAITH GYFFREDINOL CYMRY TYLODION Y BRIFDDINAS I ARDAL CHINGFORD. Cymerodd y wibdaith uchod le ddydd Mercher cyn y diweddaf. Yr un fwyaf ei nifer a gafwyd yn hanes y Genhadaeth Ddinesig: rhifent dros bum' cant a haner. Gadawyd gorsaf Liverpool Street am ddeg o'r gloch y boreu o dan lywyddiaeth hwylus y cenhadon. Breintiwyd ni a thywydd dymunol, a hawdi ydoedd deall oddiwrth wynebau yr hen a'r ieuainc eu bod wrth eu bodd yn mwynhau awelon iachus Coedwig Epping. Dyddorol iawn oedd taflu golwg dros y pleser-geiswyr yn eu mysg yr oedd amryw o ddeillion, bydd- ariaid a rhai anafus. Dywedai un dall, pan ymholid ef pa fodd yr oedd yn mwynhau ei hun, "Wel t Mae Chingford yn He braf, ond I buaswn yn caru cael newid yr wyf wedi gweled yr hyn sydd i weled yma." 'Doedd neb yn mwynhau y wibdaith yn fwy na'r hen I dadau a mamau o'r gwahanol elusendai Llun- deinig. Am dri o'r gloch, cyfarfyddwyd yn Jubiiee Treat Hawkwood i de. Na, mewn gwirion- edd, yr oedd yn giniaw rhagorol, oherwydd gofalwyd am damaid o gig blasus i'n cyfeill- ion. Golygfa na welid ei thebyg oedd gweled y canoedd wrth y ford; a rhyfyg ar neb fuasai ceisio desgrifio'r fath olygfa gydag ysgrifbin. Gofalwyd am y byrddau gan nifer o fonedd- igesau sydd bob amser wrth eu bodd yn gweini ar y tylawd. Un o'r neillduolion hynotaf y wibdaith oedd y cyfarfod yn yr awyr agored o dan y coed. Trwy garedigrwydd Mr. Earl, gofalwyd am ugeiniau o feinciau fel y gallai y bobl eistedd i fwynhau y wledd feddyliol; a chwrdd peni- gamp a gafwyd. Yr oedd adsain yr hen donau a'r emynau cysegredig i'w clywed am bellder. Llywyddwyd gan un o gefnogwyr goreu y wledd, sef Mr. Benjamin Rees, Carthusian Street, blaenor hynaf y Tabernacl, King's Cross. Gwnaeth ei ran yn hynod o dda a theimladwy, a pharodd i ni deimlo yn fwy cynhes tuag ato nag erioed o'r blaen. Siaradwyd yn effeithiol ac yn rymus gan y Parch. Thomas Stephens, B.A., F.S.A., Camberwell. Dywedai na fu mewn cwrdd tebyg o'r blaen: cymanfa Gymraeg yn Llun- dain; ac yr oedd yn teimlo i'r byw wrth edrych ar wynebau hen Gymry y tywydd garw. Siaradwyd hefyd yn dyner iawn gan flaenor arall. Araeth dda dros ben gafwyd gan Mr. Anthony, Shirland Road. Yn sicr, gwnaeth ei fare, a bydd raid, os bydd ef byw, iddo ein hanerch ni eto. Yr oedd yn cyffwrdd &'n calonau. Cafwyd hefyd anerchiad gan Mr. Thomas, y cenhadwr hynaf, yr hwn sydd wedi treulio dros 40 mlynedd yn y genhadaeth. Efe sydd yn gofalu am gasglu yr arian a mawr yw ei bryder rhag ofn i ddim fod yn ol ynglyn a'r trefniadau a'r gost drom o'i chario allan. Mae ei galon wedi ei cholli yn y gwaith. Dywedodd rai ffeithiau cenhadol y dylai'r byd eu gwybod, o effeith- iolrwydd y gwaith cenhadol. Yn wir, nid oes dim yn hanes y cenhadaethau tramor yn fwy cynhyrfus a bendithiol; mewn gwirionedd, nid yw Cymry Llundain eto wedi iawn ddealt gwerthfawrogrwydd y gwaith sydd yn cael ei gario ymlaen yn eu plith, ie, ymysg Cymry colledig-nid Saeson. Yr oeddem yn cyfarfod o dan nawdd freiniol, oherwydd hysbyswyd ni gan Mr. Thomas fod Tywysog Cymru wedi anfon tanysgrifiad at y wibdaith. Danfonodd Syr John Puleston lythyr teim- ladwy iawn yn datgan ei ofid am nas gallai fod gyda ni, oherwydd anhwylder. Adnab- yddir ef fel tywysog-gyfaill y tylawd yn y Brifddinas. Yr oedd amryw ereill o'n tanysgrifwyr yn bresenol, ac yn eu plith yr oedd Mr. Richards (England Row), Hampstead a Mr. Price, L.C.C. Gofynwyd iddynt gymeryd rhan yn y cwrdd, yr hyn a wrthodasant; ond gwnaeth- ant beth sydd yn glod i'w calon, sef talu a rhoddi treat i amryw o'r hen Gymry mewn cerbydau trwy'r Goedwig. Aethpwyd adref heb yr un anhap. Taled yr Arglwydd yn ddauddyblyg i'r cyfeillion. caredig sydd yn rhoddi o'u modd tuagat y gwleddoedd hyn. Dadganwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss James o'r West a Miss Jennie Jones o'r Boro, a dechreuwyd y canu gan Mr. Rees-un o flaenoriaid parchus y Borough. Gweddiwyd ar y dechreu ac ar y diwedd gan y Cenhadon R. S. Williams a J. T. Davies. Gweithiodd Mr. Jones, cenhadwr y West, yn ddiwyd, a thrwy ei offerynoliaeth ef y daeth y Parch. Mr. Stephens a rhai o'r cantoresau i'r He. Diolch iddynt oil am eu sirioldeb a'u caredig- rwydd. GQKEBYBD NEILLDUOL.