Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinas. Cafodd y Cymry Tylodion wibdaith hwylus y dydd o'r blaen i Epping Forest, a chawsant fwynhad mawr. Deallwn fod rhai o'n cydwladwyr Llundeinig wedi anfon eu henwau i mewn i gystadlu yn Eisteddfod Bangor. » • • Cafwyd Eisteddfodau Ileol yma ac acw yn y wlad yn ystod y gwyliau, a gwelwn fod rhai gwobrau wedi dod i Lundain. Yr oedd cor chwarelwyr Bethesda yn canu yn Finsbury Park prydnawn Sul diweddaf. Daeth rhai cyfeillion yno i'w cynorthwyo drwy gymeryd rhan yn y rhaglen. Credwn i'r casgliad fod yn bur sylweddol; a rhoddwyd iddynt dderbyniad cynhes. Parhau yn anymunol y mae pethau ym Methesda o hyd. Nid yw'r cais a wnaed at y Brenin ar iddo wneyd ei oreu i ddwyn oddi amgylch waredigaeth wedi dangos dim effaith hyd yn hyn. 0 Yr ydym yn deall fod y cylchoedd cerdd- orol Cymreig yn y ddinas fel pe yn deffro o drwmgwsg. Ymddengys fod y wobr an- rhydeddus a gynygir gan gyfeillion Dewi Sant yn eu cyngherdd blynyddol yn eu temtio gryn dipyn ac os gwir yr hyn a glywsom, bydd yno gystadlu o'i hochr hi. m Gwyl y banciau arall 1 Mae'n bryd i wneyd rhyw gyfnewidiad a'r gwyliau hyn yn Llun- dain. A barnu oddiwrth dydd Llun diweddaf nid oedd ond diwrnod i loddesta a meddwi gan y mwyafrif mawr o blant y lie. < < Da genym ddeall fod y Parch. J. E. Divies, Shiriand Rjad, yn parhau i wella, a gobeithio y caiff adferiad llwyr, a hyny yn fuan, oher- wydd nis gellir gwneyd heb weithiwr fel efe o'n maes yn Llundain ar hyn o bryd. Os oes rhywrai am ddysgu Cymraeg yn unol a'r dull safonol o ddysgu ieithoedd yn gyffredin, nis gellir gwneyd yn well na gohebu a'r gwr sy'n hysbysebu yn ein colofnau yr wythnos hon. m Cynyddu mae'r galw am y Gymraeg yn Llundain yma a gwelwn fod Mr. J. G. Jones, Oxford Street, wrth agor siop newydd at yr hen oedd ganddo, yn hysbysu wrth y Cymry yn ogystal a'r Ffrancod a'r Almaenwyr, y siaredir eu hiaith frodorol hwy yn y ne. Pan drowyd masnachdy Mr. T. J. Harris yn gwmni cyfyngedig yr wythnos diweddaf, yr oedd mwy na chymaint arall ag oedd eisieu o geisiadau wedi eu gwneyd am gyfranddaliadau yn y fusnes. Caed priodas ddyddorol yn Hendon ar y 17eg o Orphenaf, pryd yr unwyd Miss Jennie Parker Dunlop, merch ieuangaf Mr. Andrew Dunlop, o Hendon, a Mr. Gwilym Arthur, mab Mr. William Evans, Penfro, Hendon. Yng nghapel yr Anibynwyr y cymerodd yr uniad Ie, ac yr oedd yr anrhegion ar yr achlysur yn lluasog a drudfawr iawn. # » Cyn ymadael am wyliau yr haf, cynhaliwyd Cyfarfod Misol yng Nghapel Jewin ar y 23ain o'r mis diweddaf, a threfnwyd yno na cheid cwrdd arall hyd y dyddiau olaf yn Medi. ¡ Llywyddwyd gan y Parch. J. Wilson Roberts a Mr. R. L. Whigham, y blaenaf yn rhoddi ei sedd i fynu yn y cynulliad i'w olynydd, Mr. Whigham, a diolchwyd yn gynes gan y frawdoliaeth i Mr. Roberts am ei waith a'i I ofal yn y gorphenol gyda'r achos. Darllenwyd llythyrau yn cydnabod cydym- deimlad y C.M. oddiwrth deulu y diweddar Mr. William Jones, Mile End Road, ac oddi- wrth yr eglwys yn Mile End Road. Hefyd oddiwrth y Mri. Faithful ac Owen, cyfreithiwyr, mewn perthynas i benodiad Mr. Owen Williams, Stratford, yn ysgrifenydd gohebol yng nglyn a'r eiddo yn White Horse Lane; oddiwrth y Parch. Peter H. Griffiths, Aber- tawe, yn hysbysu ei fod yn bwrirdu dechreu ar ei waith yn Charing Cross Road yn Hydref nesaf; ac oddiwrth ysgrifenydd yr achos yn Walthamstow gyda golwg ar gyfraniadau tuag at y weinidogaeth. Penderfynwyd cyflwyno y llythyr o Walthamstow i ofal Pwyllgor yr Achosion Newyddion. Rhoddwyd caniatad i gyfeillion Lewisham i arwyddo note of hand am swm neillduol. Derbyn- iwyd Ilais yr eglwysi mewn perthynas i'r Mri. Robert Williams, Charing Cross Road, O. T. Davies, Wilton Square, a D. P. Jones, Falmouth Road, ar derfyn eu blwyddyn brawf. Cafwyd fod yr eglwysi yn ffafriol i'r tri ymgeisydd, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r C.M. Rhoddwyd cyngor buddiol a gafael- gar iddynt wan y Parch. J. Roberts, Corris, a chafwyd sylwadau pellach gan y Parchn. J. E. Davies, M.A., R. H. Jones, B.A., Chicago, a Mr. W. Prydderch Williams. Cafwyd hefyd air o brofiad gan y tri ymgeis- ydd, a datganodd y llywydd ei obaith y buasent yn gartrefol yn y gwaith pwysig y maent a'u hwynebau arno. Anfonodd y Parch. John Davies ei gofion mwyaf sarchog at y frawdoliaeth drwy y Parch. J. E. Davies, M.A., gan ddiolch yn gynes am y llythyr o gydymdeimlad anfon- wyd ato. Llawenydd i'r brodyr oedd deall ei fod yn teimlo ychydig yn well ar ol y for- daith i'r Canary Islands. Hysbysodd y cen- hadon fu yn Tottenham fod 33 o bersonau wedi ymuno a'r eglwys sefydlwyd yno nos Sul, Gorphenaf 13, ac amryw ar ol hyny. Pasiwyd fod yr adroddiad yn cael ei gadarnhau. Cafwyd adroddiad byr o weithrediadau Cym- deithasfa Llangefni gan y Parch. R. Silyn Roberts, M.A. Penodwyd Mr. R. O. Jones, Wilton Square, yn ysgrifenydd y Gymanfa Ganu. Rhoddodd y Parch. David Oliver rybudd y bydd yn cynyg panodiad Pwyllgor Cerddorol yn y C.M. nesaf. Pasiwyd fod Mr. T. J. Anthony i ofalu am ddwyn cenadwriaeth- au Cymdeithasfa Brynmawr o berthynas i'r Genhadaeth Dramor a'r Ysgol Sabothol ger- bron yn y C. M. nesaf. Penodwyd y Parch. David Oliver yn gynrychiolydd i Gymdeithas- fa Pencoed, a Mr. R. O.Jones,Wilton Square, i Gymdeithasfa Caernarfon. Darllenodd Mr. Humphrey Evans restr o gyfraniadau yr eglwysi at gasgliad Diwedd y Ganrif. Hys- byswyd fod cenhadon y Gymdeithasfa wedi bod yn Llundain, Gorphenaf 15, ynglyn a'r achos o apel o Falmouth Road. Diweddwyd drwy weddi gan y Parch. R. H. Jones, B.A., Chicago.

GWIBDAITH GYFFREDINOL CYMRY…