Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Pan ddychwelodd y Brenin i Lundain dydd Mercher, nid oedd y tywydd yn groesawgar iawn iddo. Bydd cyfleusderau i ddieithriaid weled Mynachlog Westminster ar ol dydd y Coron- iad. Codir tâllled uchel am fyned i fewn, er hyny. Ychydig yw'r dyddordeb a deimlir ynglyn a Choroniad y Brenin yr wythnos hon. Mae'r cywreinrwydd ynglyn a'r holl fusnes wedi ei golli yn y siomiant diweddar. Nid yw'r gwaith a gyflawnodd y Senedd yn ystod y tymhor presenol wedi bod yn fawr. Er yr holl siarad, ychydig yw nifer y mesurau a wthiwyd drwodd. Beth ddaw o'r Mesur Addysg wedi'r cwbl ? Y mae si ar led fod adran luosog o gefnog- wyr Mr. Balfour ei hun yn anghymeradwyo llawer iawn o'i adranau. Diau y bydd cryn ddadleu arno eto yn yr eisteddiad yn yr Hydref. Sonir am roddi Ymreolaeth cyn bo hir i'r Trefedigaethau yn Neheudir Affrica. Mae yr arweinwyr Boeraidd sydd yn Lloegr ac ar y Cyfandir, yn awr, yn gobeithio y ceir cytun- deb a threfn ffafriol iawn i'r bobl cyn pen ychydig fisoedd. Dau bwnc mawr Cymanfa y Wesleyaid eleni oedd, prynu yr Aquarium, ac esgymuno Dr. Beet am heresi. Gwnaed y cyntaf, ond am yr olaf, penderfynwyd i ail-benodi y gwr dysgedig yn athraw duwinyddol yn Athrofa Richmond. Cytunodd y doethawr, er hyny, i beidio gwthio ei syniadau ar ei ddis- gyblion. Cynhelir cymanfa o Hynafiaethwyr Cymru yn Aberhonddu a'r cylch ddiwedd yr wyth- nos nesaf. Mae amryw o haneswyr blaenaf y genedl i gymeryd rhan yn y gwahanol ym- chwiliadau hynafiaethol. Bu farw yr enwog Barch. W. J. Morris, Pontypridd, dydd Mawrth diweddaf. Yr oedd wedi bod yn gwaelu er's rhai misoedd, a chafodd seibiant gan ei eglwys-Sardis, Pont- ypridd-am dymhor, ond er ceisio adferiad i'w iechyd, daeth yr alwad fawr iddo ddechreu yr wythnos hon. Yr cedd yn un o'r dirwest- wyr mwyaf selog yn y Deheudir. Yr oedd yn 68 mlwydd oed. 'Roedd catrawd gref o Lundeinwyr yn Llandrindod yr wythncs hon, ac amlwg oedd wrth eu gwedd, eu bod yn mwynhau y lie ac yn cael budd o'r dwfr a gaed yno. Y mae pythefnos o fywyd Llandrindod yn well na'r un physigwriaeth i lawer o'n masnachwyr llesg, felly, nid rhyfedd eu bod yn cyrchu tua'r Ile. Mae cor o ferched glandeg yr America ar eu taith i Brydain, a bwriadant gystadlu yn Eisteddfod fawr Bangor. Ceir eu clywed yn canu yn ein prif drefi ac yn Llundain a Paris cyn y croesant yn ol tros y Werydd. Merch i Gymro Americanaidd yw arweinyddes y cor. Dydd Mawrth nesaf cauir yr uchel lysoedd yn Llundain, a chaiff gwyr y gyfraith wyliau hyd y 24ain o Hydref. Credir yn gyffredin y cyferfydd y Senedd yn fuan ar ol y dyddiad olaf. I Mae'r Marcwys o Fon yn cadw chwareudy y dvddiau hyn yn ardal Pwllheli. Cefnogir ef gan barti dramadyddol o Lundain, a chyf- lwynir yr elw at achosion dyngarol IIeoi. Fe gyst pont Conwy rhyw bum' mil o bunau i'w hadgyweirio a'i gwneyd yn berffaith ddiogel i ddal trafnidiaeth arferol yr ardal. Ar hyn o bryd, ni chaniateir i Iwythi trymion fyned drosti. Dydd Mercher diweddaf bu Mr. William Jones, yr aelod tros Arfon, yn pleidio achos y chwarelwyr o flaen Ty'r Cyffredin unwaith yn rhagor. Ceisiai gan Fwrdd Masnach wneyd rhywbeth i ddwyn y pleidiau at eu gilydd a rhoddi terfyn ar yr anghydfod ond ni addawai Mr. Gerald Balfour ddim ac nis gallai daflu yr un gobaith y gallai ei adran ef fyth benderfynu rhwng Arglwydd Penrhyn a'i bobl. Yr oedd y milwyr Indiaidd, a ddaeth dros- odd i'r wlad hon at y Coroniad, i ymweled a Llandudno ddydd Mawrth yr wythnos ddi- weddaf. Cyrhaeddasant i Lerpwl o Lundain nos Sul blaenorol yn yr agerlong Hardinge." Cawsant fordaith dipyn yn ystormus, fel nad oedd arnynt awydd am ragor o saldra mor. Yn Llandudno yr oedd darpariadau wedi eu gwneyd ar eu cyfer, a disgwylid trens rhad o amryw fanau. Ceisiwyd gan yr awdurdodau ddod a hwy gyda'r tren, ond ni fynai'r Indiaid mo hyny, Siomwyd pobl graff Llandudno yn fawr. Mae amryw ddamweiniau wedi digwydd yn ddiweddar i bleserdeithwyr yng Nghymru, a rhaid i'r awdurdodau lleol ddihuno o ddifrif, beliach, gan mai eu hesgeulustra hwy sydd fynychaf yn gyfrifol am y digwyddiadau an- nymunol a geir flwyddyn ar ol blwyddyn yn ein prif aberoedd. Yr wythnos hon anafwyd pedwar o bersonau trwy i gerbyd redeg yn wyllt yn agos i Landudno a tharo yn erbyn y gwrych mewn man cul ar y ffordd fawr. Yr oedd cais wedi ei wneyd er's tro am ledu'r ffordd yn y man hwnw; ond nid cyn y cymer damwain le y daw ein gwyr cyhoeddus i weled eisieu gwelliant. Dydd Iau yr wythnos ddiweddaf, fel yr oedd cerbyd a phedwar o ddynion yn dychwelyd o Lanerchymedd, mewn trofa sydyn sydd yn y ffordd ger Ty'nygate—milldir o Lanerchy- medd-dymchwelodd y cerbyd gan daflu y dynion i'r llawr. Diangodd yr oil yn ddianaf, oddigerth un, Mr. Richard Griffith, Tymawr, Llandyfrydog. Disgynodd ef ar ei ben, gan dderbyn y fath niweri fel y bu farw ymhen ychydig oriau, er gofal a thriniaeth Dr Huws a'r Nurse Williams. Yr oedd yr ymadawedig oddeutu 38 mlwydd oed, ac yn byw yn y Tymawr gyda'i chwaer. Yr oedd yn ddyn diwyd, caredig, sobr, ac yn gymydog hynaws, ac y mae cydymdeimlad mawr a'r chwaer unig. Sonir y dyddiau hyn fod cais arall i gael ei wneyd gan Ymherawdwyr y Cyfandir i sefydlu cynllun o gyflafareddiad rhyng- wladwriaethol a rhoddi terfyn ar ryfel. Bu cryn siarad am y peth o'r blaen rhyw bedair blynedd yn ol, a chaed cynhadledd fawr yn yr Hague i ymdrin a'r mater. Cyn i ddorau y gynhadledledd hono gael eu cau wele'r anghydfod yn tori allan yn Affrica, ac un- waith y caed cyfleusdra i ryfela, wele anghofiwyd pob peth ynglyn a chyflafaredd- iad! Gobeithio mai nid cynllun i achosi rhyfel arall yw y cwrdd a fwriedir gael yr Hydref hwn eto.