Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
I BYRDDAU YSGOL CYMRU. I
BYRDDAU YSGOL CYMRU. I A fydd en difodiad gan y Mesur Addysg presenol yn anfantais ? Yn ol fel y saif y Bil Addysg ar hyn o bryd, y mae'r Ysgolion Byrddol i gael eu trawsnewid yn hollol. 0 hyn allan, rheolir hwy gan bwyllgor o'r Cyngor Sir, a bydd cyfnewidiadau dirfawr yn sicr o gymeryd He ynglyn a phob adran o honynt. Rhaid aros am y Bil yn ei ddiwyg olaf er gweled yn glir pa le yr ydym yn sefyll; ond y mae'r ffaith fod Ysgolion Byrddol Cymru i iyned o dan gyfnewidiad pwysig yn beth y jnae'n weddus rhoddi ystyriaeth iddo, pa un ai er gwell ynte er gwaeth fydd y newidiad hwn. Dywed Idriswyn yn ei lith wythnosol nas gall pethau fyned yn waeth yng Nghymru, a chred ef fod y Byrddau presenol wedi es- geuluso eu gwaith yn warthus. Dyma ddywed am y Byrddau Ysgol:— Rhoddwyd cyfleusderau lawer yn eu ffyrdd disgwyliwyd pethau mawrion oddiwrthynt; a throdd y cyfan allan yn siomiant. Yr oedd cyfle i'r lleiafrif gael eu cynrychioli ar y Byrddau Ysgol; gallai pob enwad gael ei dyn i mewn, os dewisai; ac nid oedd dim yn iluddias i'r tylotaf yn y wlad fod yn aelod o Fwrdd Ysgol. Yn eithaf naturiol, yr oedd genym bob sail i ddisgwyl fod cyfnod euraidd wedi gwawrio arnom, ac y byddai ysgolion elfenol y wlad yn gryfder ac yn fagwrfa i'n nodweddion goreu ac yn symbyliad i'r teimlad cenedlaethol. Ond beth a welsom ac y buom yn dystion o hono ? Pobpeth Cymreig yn cael eu troi dros y drws; Saeson yn cael eu dewis yn athrawon, a hyny pan fyddai Cymry yr un mor alluog yn y gystadleuaeth; a phob dirmyg yn cael ei daflu ar hanes a llenydd- iaeth ac iaith y wlad. O'r braidd y medr plant wedi eu haddysgu yn Ysgolion y Bwrdd yngan enw Cymraeg yn gywir; galwant Bryn- mawr yn Brynmor," Porthcawl yn Porth- col," Pontypridd yn Pontyprid," a Braich-y- pwll yn Brack-y-pool ac y maent wedi eu dysgu felly gan eu hathrawon a'u hath- rawesau. A phe gofynid iddynt am hanes rhyw gyfnod neu arwr yn hanes Cymru, dyweder, Owen Glyndwr, hwy atebent mai adyn 0 wrthryfelwr diegwyddor, creulon, ac anynol ydoedd; a'u dysgawdwyr sydd yn gyfrifol am hyny. GWNEYD PARROTS O'R PLANT. Pan roddwyd rhyddid, rhyw ddeuddeng mlynedd yn ol, i wneyd defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, a phan y caniatawyd, ymhellach, i ddysgu y Gymraeg fel pwnc neillduol a bod tal am hyny, credid y buasai Byrddau Ysgol Cymru yn cymeryd Hawn fantais ar y cyfleusderau a'r manteision a roddid yng nghyraedd plant bach ein gwlad i ddod i sylweddoli yr hyn a ddysgid iddynt ac yn feistriaid ymhob cangen o wybodaeth. Siomwyd ni yn druenus yn hyn eto, ac ychydig iawn a wnaeth un sylw o ddarpar- iaethau neillduol. Swyddfa Addysg ynglyn a Chymru; gwell oedd ganddynt hwy fyned ymlaen fel y gwneir yn Lloegr, lIe nad yw y plant yn gwybod yr un iaith ond y Saesneg, tra nad yw plant Cymru yn gwybod yr un ond y Gymraeg. Ymddygasant mor aneallus a difeddwl fel ag i gredu y gallent wneyd ys- golheigion o'r plant trwy eu dysgu i ddyweyd eu gwersi a swnio pob gair Saesneg yn union fel y Saeson; ond ni ddychymygasant eu bod yn gwneyd dynwaredwyr o honynt, a bod parrots," wedi eu dysgu, yn medru dyweyd brawddegau yn glir a chroyw tra nad ydynt yn deall eu hystyr. Felly yn union y mae Byrddau Ysgol Cymru wedi troi allan filoedd ar filoedd o blant yn flynyddol er's dros ddeng mlynedd ar hugain-nid oedd ganddynt y ddirnadaeth leiaf am yr hyn oeddynt wedi bod yn ddysgu trwy'r blynyddoedd, YCHWANEG, EU DYSGU I DDIBRISIO TRADDOD- IADAU EU GWLAD. Amhosibl ydyw cael plant bach Cymru i j sylweddoli yr addysg a gyfrenir iddynt gan | eu hathrawon cs na wneir defnydd o iaith eu cartrefi a'u chwareu a'u Hysgol Sul a'u capel; yn wir, ni freuddwydiodd addysgwyr un wlad heblaw Cymru eriotd am anwybyddu iaitb y plant wrth eu haddysgu. Ycbwaneg na bod eu haddysg yn amherffaith, cs nad yn ddi- fudd, y mae'r dibrisdod a'r sarhad hwn ar bethau goreu a hanfodol ac anwylaf cenedl yn peri i'n plant fyned i edrych yn isel ar iaith a llenyddiaeth a hanes eu gwlad ac i amharchu ei thraddodiadau a'i sefydliadau, ac ni chym- erant ddyddordeb mewn dim byd cenedl- aethoh Yn lie bod eu hysgol wedi agor cil y drws iddynt i ystorfa lenyddol eu cened), rfcoddcdd nod gwaradwydd arno yn lie taflu llygedyn o oleuni ar ei hen hanes gogcneddus yn y gorphenol, diffoddwyd pob awyddfryd allai fod mewn plentyn wrth natur i wybod rhywbeth am ei henafiaid a'u cymeriadau a'u gweithredoedd a'u gwrhydri; ac yn lie croes- awu iaith y plant i'r ysgol, hyrddid hi dros y drws fel esgymunbeth diwerth ac aflan. Ed- rychodd y rhan fwyaf o Fyrddau Ysgol Cymru yn dawel a digyffro am fwy na deng mlynedd ar hugain, rai o honynt, ar y camwri hwn yn myned ymlaen o dan eu llygaid ac yn unol a'u cyfarwyddiadau a'u gorchym- ynion. BETH YW Y RHAGOLYGON ? Y mae'n anbawdd dyweyd, ond nis gall fod yn salach a gwaeth i ni yn genedlaethol nag ydoedd o dan awdurdod a theyrnasiad y Byrddau Ysgol. Trosglwyddir gwaith y Byrddau i'r Cynghorau Sirol a bwrdeisiol; ac er y gwneir y rhai hyny i fyny bron o'r un dosbarth a'r Byrddau Ysgol, credaf y cawn well triniaeth ganddynt, am eu bod, yn y cyffredin, yn ddynion mwy deallgar ac eangfrydig ac mewn mwy o gydymdeimlad gwirioneddol ag addysgiant yr oes sy'n codi. Yr oedd y gyfraith yn caniatau i'r pleidleisiwr roddi ei holl bleidleisiau i'r un person neu eu rhanu fel y gwelai'n dda rhwng y gwahanol ymgeiswyr, ac yr oedd hyny wedi bod yn offerynol i ganoedd gael eisteddleoedd ar y Byrddau nad oedd ynddynt yr un cymhwysder -dim ond eu bod yn awyddus i ddangos eu hunain a bod plaid neu enwad o bobl yn ddigon diystyr o addysg eu plant fel ag i bleidleisio drostynt. Bydd yr elfen hon bellach wedi ei thynu ymaitb, a bydd y rhai fydd yn gofalu am addysg wedi eu hethol gan fwyafrif yr etholwyr yn gyffredinol, ac nid gan ran o honynt oedd yn meddwl mwy am anrhydeddu dyn nac am addysgu plant. Ond dylem fod yn effro ac yn fyw i sefyllfa addysg elfenol yn gyffredinol trwy Gymru. Yn bresenol, nid arferir synwyr cyffredin gan y rhan luosocaf o'r Byrddau Ysgol, a gweithredir yn hollol groes i awgrymiadau boneddwyr fel yr arolygwyr sydd wedi treulio eu hoes yng ngwasanaeth addysg, y rhai sy'n ddieithriad yn a nog ar fod yr iaith Gymraeg i gael ei dysgu i'r plant, ac y dylid talu sylw neillduol i lenyddiaeth a hanes ein cenedl. EIN DYLEDSWYDD. Rhaid gofalu nad etholir dynion nad ydynt mewn cydymdeimlad a Chymru ymhob dim ac yn credu fod dyfodol disglaer o'i blaen rhaid rhoddi heibio ymholi o bartb eu credoau cref- yddol a gwleidyddol; rhaid cael cenedlaeth- olwyr ar y Cynghorau Sirol a sicrwydd cyn gweithio a phleidleisio drostynt eu bod yn benderfynol o weled plant bach Cymru yn cael chwareu teg yn yr ysgolion dyddiol. Os nad arferir pob gofal a doethineb a chraffter wrth etbol y Cynghorau Sirol, ni bydd addysg elfenol yn well ei chyflwr nag o dan y Byrddau Ysgol; ond os cawn gynrychiolwyr yn argyhoeddedig o'u cyfrifoldeb i'w gwlad a'u cenedl, fe gyfyd cenedlaeth ar ol cenedl- aeth o wroniaid ac arwyr yng Nghymru- meibion a merched wedi gwneyd eu n6d yn y prifysgolion ac yn dal y swyddogaethau uchaf mewn byd ac eglwys, ond eto yn caru eu gwlad ac yn ymffrostio yn ei thraddodiadau ac yn barod i roddi eu bywydau dros ei budd- ianau uchaf.
PROFIADAU IAGO GOCH DAN LAW…
PROFIADAU IAGO GOCH DAN LAW YR EILLIWR AR El YMWELIAD4 A LLUNDAIN. Un o foys Cwm Rhondda yw Iago, wydd- och. Os carech fwy o fanylion am dano, weir dyma nhw. Dyn o ran maint yn cadw tua'r canol-heb fod yn dal iawn nac yn fychan iawn ychwaith-yn berchenog balch o bar c ysgwyddau llydain a chadarn ddaliant i fyny ben teidi a hynod o shapus," fel y bydd y Deheuwyr yn dyweyd. 0 dan ei drwyn amlwg ceir moustache melyngoch cyflawn: naill ochr i'w drwyn, llygaid, wrth gwrs, fel yr eiddo pob dyn arall, ond gyda hyn o wahan- iaeth-yn llygaid Iago canfyddir byth ac hefyd ryw sereniad doniol-" rwpath i god: sprydod yn ol Iago. Sylwch arno yn cerdded, ac yn nghyntaf beth, craffwch ar ei law-rod. Aiff lago byth allan heb umbrella, doed a ddelo; ac wrth edrych arno yn rhodiena ystrydoedd y Brifddinas gyda cham ffirm a. beiddgar, ei law-rod yn nghrafanc ei ddwrn deheu, gan adael y gwyfrau ar led i gyd, anhawdd, yn wir, yw dyweyd yn iawn beth yw yr argraff a roddir i ddyn. Weithiau. meddyliaf mai amcan lago yw dangos yn eglur mai efe, ac neb arall, bia'r umbrella pryd arall, credaf mai ei amcan yw herio neb i gwrdd ag ef ar berygl cospedigaeth o gnoc aruthrol oddiwrth y clopa-dyrnod a grym Cwm Rhondda yn ei gwasgu adref. Wel, lago, fachgen, beth wyt ti wedi bod yn ei wneyd yr holl amser hyn ?" gofynwn iddo ar ol awr o aros tuallan i siop barfwr ger Charing Cross. Yr oeddwn yn meddwl na fuaset fwy na deng munyd yn y man pellaf." Torodd gwen o ddifyrwch dros wyneb Iago fflachiodd twinkle ei lygaid. O'r bendith f gad hi fachan," meddai, a gwranda arno 1, i fi gal sbonio, welwch chi, sbonio, sbonio, dyna beth sy' isha yw sbonio." "Wei, ynte," meddwn, u tyr'd naill ochr imi gael lie': chwerthin heb fod dynion yn gweled." Reit" atebai Iago, "cer i'r Hotel Cecil a gwed bo fi'n dod. Na I" ychwanegai eiliad wedyn, gan edrych yn hyncd ddefosiynol a throi ei lygaid tua'r cymylau, "ôs dim iws, nagos ddim o gwpwl, mae gyda fi ffugenw." Yna mewn. stage-whisper, Wyt ti'n gwel'd, mae ffugenw yn golygu cyfrifoldeb difrifol-dyna iti ddou air genuine cyfrifoldeb difrifol. Wiw Dera 'ma 'nawr ta i'r Strand iti gal disglad o de ar y nghefan i." Ar hyn, i fewn a ni ein dau j restaurant ar bwys. Ar ol eistedd lawr a. chael te i'r bwrdd, dyma Iago yn dechreu. "Ngynta', frawd," meddai, "ga' fi weyd cymint a hyn wrthot ti cyn myn'd mlan i sbonio. Dyma fe: wyt ti'n mofyn gwpod gormod byth ac yn dragywydd-wy jest a bod yn bregethwr. Nawr te am y barbwr na. Fachan, dyna ti shaf! Ma fel odd hi On i yn y gatar a mydda fe < shave, sir ?' Yes, please,' myddwn i. A ma fa'n dechra. Odd na ddim ond y sepon mawr i wel'd ar yngwyneb i gyd. "Old on,' myddwn i,' that's- enough,' a stopodd wetyn a myn'd mlan i shafo- fel gwr boneddig. Ar ol iddo fa'n sychu i yn lan, on i yn barod i fyn'd pan ddath e mlan a wod o botal ddiolwg a gofyn ifi os licwn i gal peth. Fact iti o'n i'n meddwl fod a'n cretu mod i'n dost. 'No, thank you," myddwn i, I I have no need of it.' 'Smell/' mydde fe gan ddoti y botal dan fy nhrwyn L Very nice,' myddwn i,' go on, then!' ac yn He arllwys dropyn mas ifi gal i yfed e, dyma fa'n dechre tascu y stwff ar y ngwddwg i. Ond mwn pyn bach, fe sychodd fi'n Ian to, a wetyn dyma fa'n rwto can gwyn ar y ngen i. Yt ti'n gwel'd, odd e' shwd hen ddyn bach piwr, pan ofynodd e' wetyn os licwn i gal tori ngwallt, on i ddim yn lico pido. Yes,' myddwn i, go on.' A mlan a fe, a'r shishwrn yn glic glic yn y nghlustia i trw'r amsar. Ar 01 cwpla snipan, 'Hair-brush, sir?'mydda fa. Oh, yes,' myddwn ine, go on.' A dyma frwsh mawr yn dechra troi yn y mhen i fel brwsh cans. Wetyn, ma fa'n dod a botal arall, a gweyd tho i am i gwynto hi, 'Very