Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

WEDI'R BRWYDRO.

COLLFN HETIFEDDIAETH.

News
Cite
Share

COLLFN HETIFEDDIAETH. Y mae'n eglur ddigon bellach fod tymhorau blin o flaen pabl Prydain. 0 dipyn i beth y mae'r Senedd yn cwtogi ar ein rhyddid, a chyn pen hir bydd pob egwyddor fawr o ryddid a. chydraddDldeb a enillwyd i ni gan y tadau wedi eu difodi yn llwyr o'n mysg. Gwelwyd y parygl beth amser yn ol pan oaddid yn gossd treth ar fara y bobl, ac er mai ysgafn oedd y doll ar y pryd, y mae'n ddigon eglur bellach fod y gweithiwr cyffredin yn gorfod dioddef, ac mai efe o bawb sydi yn gorfod dwyn y pan trymaf o'r baich a osodwyd fel hyn ar ei ysgwyddau gorlwythog. y ft Ar y wedd gyntaf nid oes rhyw lawer i'w diyweyd yn erb/n i bawb dalu rhan o gos- tlu'r wlad, ond yn sicr y mie'r cynllun presenol o dolli'r gwan vn rhwym o ddwyn dinystyr yn y man. Wedi dechreu ar y trethiant, nid oes dim un rheswm bellach yn erbyn ei ychwanegu pan ddaw galw am hyny. Yr ydym wedi cydnabod neu ganiatau yr egwyddor, a bellach nid yw ond cwestiwn o pa swm a ellir osod ar fara fel toll, a rheolir hyny yn hollol gan oddefgarwch ac amynedd y werin. Nid oes genym ni ddirnadaeth am y caledi a ffynai yn Lloegr cyn difodiad treth yr yd, ac ni thraffertha y werin i chwilio i fewn i'r hanes. Yr oil a foddlona yn awr yw addaw talu a gadael i gyfoethogion y wlad i'n rheoli fel y mynont. Ca ein rhyddid ergyd arall yn y man pan orphenir gyrfa'r Mesur Addysg gan ddau dy'r Senedd. Ugain mlynedd yn ol ni feidd- iai yr un weinyddiaeth i wthio y fath fesur anghyfiawn drwodd, ond heddyw y mae ein teimladau wedi eu halltudio, a'n cariad at ryddid a chyfiawnder wedi ei bylu i'r fath raddau fel y caniateir gan adran helaeth o'r blaid Rydddfrydiol i'r fath beth a threth yr Eglwys i gael ei gosod arnom, a hyny heb yr un protest swyddogol, eithr gadael haid fechan o bersonau egwyddorol a chyfiawn i wneyd goreu y medront dros eu credo a'u crefydd eu hunain. Y mae'r peth yn warthus, a does dim i'w gas{lu oddiwrtho ond yn unig ein bod yn graddol lithro yn ol i'r un cyflwr truenus ag oeddem ynddo o dan yr hen oruchwyliaeth eglwysig. Ofnwn fod ein haelodau Saneddol bron yn ddieithriaid wedi myned yn swyddgeiswyr ac yn gynffonwyr yn hytrach nac yn bileri cadarn dros iawnderau ein gwlad. Gwleid- yddiaeth a phlaid yw'r peth mawr sydd ganddynt, ac nid cyfi iwnder a rhyddid a'r canlyniad yw yr absrthir pob peth er mwyn cyrhaedd amcanion psrsotiol, neu lesiant y blaid y perthynont iddi. Y mae hyn yn gwneyd y safle yn ansicr iawn, ac ni ddaw ond drwg o'r fath ddaliadau angharedig. Ers amryw wythnosau bellach, y mae'r arweinwyr Rhyddfrydol wedi esgeuluso eu dyledswyddau yn aruthrol drwy roddi rhyw haner cefnogaeth i Fesur Addysg nas gall byth ddod yn boblog- aidd nac yn llwyddiant; ac yn lie ei gondemnio a'i ddiwygio, wele ein Seneddwyr yn ei gefnogi neu ei anwybyddu yn hollol. Y ffaith noeth yw mai nid er lleshad y werin na'r wlad yr aeth y bobl hyn i'w swyddi, eithr er eu lIes eu hunain ac er boddhad i'w natur uchelgeisiol a hunanol. ———— Fe gafodd rhai o'r gweiniad ergyd lied amserol yr wythnos hon. Yn etholiad Leeds yr oedd pob argoelion y buasai y Tori yn cael ei anfon i'r Senedd gyda dros fil o fwyafrif, ac na wnai y Rhyddfrydwr ond brwydro brwydr ofer. Er syndod i bawb, trodd y fantol fel arall. Yn lie cadw ysedd i'w blaid bu y Tori mor anffodus a chael curfa dost. Yr oedd y mwyafrif i'n herbyn y tro o'r blaen yn rhifo dros 2,500, ac wele hwnw yn awr wedidiflanu, a'r ochr arall yn cael y pleser o fod ar ben y pol gyda mwyafrif o 758. Nid yw pethau fel hyn bob amser i'w coeiio hwyrach, ond y mae'n eglur bellach nad yw'r wlad wedi ymollwng i'r un graddau a'r rhai a broffesant fod yn arweinwyr i ni. Os gwel y werin fod ei hawl- I I iau hi yn cael eu sathru dan draed, a phob rhinwedd gwleidyddol yn cael ei anwybyddu, sicr y gwna ddial yn ei dro; ac y mae'r ffaith fod dwy elholiad yn ddiweddar wedi eu henill gan y Rhyddfrydwyr, yn brawf nad yw'r wlad wedi ei Hwyr lyncu gan gynffoniaeth ac ariangarwch. Cyn y ceir etholiad cyffredinol, yr ydym yn gobeithio y caiff Cymru welediad clir ar y pynciau sydd ger bron y Ty ar hyn o bryd. Bydd ei cholled hi yn fwy nag- un wlad arall os cyll ei breintiau crefyddol a rhydiid ei gwerin. Ni chaed yr un wlad lie y cafodd yr yswain a'r offeiriad well mantais i ddang-os eu dylanwad nag yng nghymoedd tawel ein gwlad ni, a gwyddom yn dda beth ydoedd cyflwr ein cenedl pan oedd y ddau ddosbarth yna yn rheoli. Ni chaed gwawr o oleuni hyd nes y daeth y werin i ddangos ei hawliau, ac er iddi frwydro yn galed am hir amser cyn cael yr oil a ofynai, eto, y mae wedi llwyddo yn dra anrhydeddus. Ond y mae'r cyfan yn awr mewn perygl, a. goreu po gyntaf i'n har- weinwyr gydnabod hyny a chodi fel un gwr i amddiffyn ein hawliau; ac os na wnant hyn, bydd eu tynged yn yr etholiad nesaf yn sicr o fod yn un gwir ddifrifol.

[No title]