Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

WEDI'R BRWYDRO.

News
Cite
Share

WEDI'R BRWYDRO. Y mae'r rhyfel wedi gorphen yn Affrica er's amryw wythnosau, bellach, ac o dipyn i beth dechreua'r brodorion ddychwelyd i'w cartrefi a'u hardaloedd cyntefig. Mae'r golygfeydd, meddir, a welir mewn rhai o'r prif drefi yn doddedig i'r eithaf. Daw car- charorion adref o un i un, a milwyr yn ol o iaes y gad wedi eu llwyr gyfnewid gan y ddwy flynedd o driniaeth galed y buont drwyddynt; ac y mae'r gwragedd druain heb weled eu gwyr oddiar y torodd y rhyfel allan. Mae'r golled ar eiddo wedi bod yn ifawr; ond y peth sydd yn clwyfo ddyfnaf galonau y milwyr yw, clywed am farwolaethau y plant bach ac anwyliaid ereill dan galedi y gwersyll garcharoedd. Er fod yr heddwch wedi ei sicrhau, y mae'r galar a ddygodd yn ei gol i ganoedd o deuluoedd y Transvaal, yn &eth nas gellir ei anghofio am flwyddi lawer. Y nos o'r blaen, yn Nhy'r Cyffredin, hys- bysodd Mr. Chamberlain fod rhagolygon lied addawol am gydweithrediad rhwng y pleidiau gwrthwynebol yn y Transvaal. Nid oes eto le i amheu cywirdeb y gosodiad yna, ond y mae'n eglur ddigon fod yna lu o beryglon o flaen ein Gweinyddiaeth os na ymddygir yn hynod o ryddfrydol tuagat y Bauwyr, fel y rhoes ar ddeall iddynt yn y cytundeb agored ;gan Arglwydd Kitchener dro yn ol. Y peth mawr, fel y sylwyd yn y Ty, yw gosod i'r Bauwyr fesur lied helaeth o hunan-lyw- odraeth; ac os gwneir hyn, diau y llwyddir i dori i lawr lawer o'r gwahanfuriau cenedl- aethol sydd mor amlwg yn y lie. Mae'r arweinwyr yn Affrica a'r arweinwyr yma i gyd-gyfarfod eto er penderfynu ar fanylion y cytundeb, ac ond i ni ei ddarllen gydag ys- bryd eangfrydig a dyngarol diau y sicrheir yr undeb agosaf a ellir gael rhwng yr Ellmyn ,a'r Prydeinwyr yn y wlad anffodus sydd ym Mhenryn deheuol Affrica.

COLLFN HETIFEDDIAETH.

[No title]