Hide Articles List

3 articles on this Page

Byd g Ban.

News
Cite
Share

Byd g Ban. u Gan PEDR ALAW. F" PENDENNIS," LOUGHTON.] L —————————————————————————————— Mewn llyfr a ddarllenasom yn ddiweddar ceir y sylw a ganlyn In all ages of the Church, more proselytising seems to have been effected by hymns than by any other means." Nis gwyddom a ydyw y sylw yn un hollol gywir ai peidio, ond hawdd credu fod peth gwirionedd ynddo, canys cydnebydd y byd fod cerddoriaeth yn allu ymhob man, ac ar bob adeg, pan y defnyddir hi yn ei phur- deb; ac nis gallon ddirnad fod cerddoriaeth yn fwy teilwng- o honi ei hun nag yng ngwas- anaeth eglwys Dduw. Prin y mae sylw fel hwn yn debyg o gymell ei hun i lawer o'n cenedl ni, yn enwedig y rhai nad ydynt yn hoffi cerddoriaeth. Gwyddom am rai dynion duwiol nad oes ganddynt ond ychydig o gydymdeimlad a cherddoriaeth, ac y mae" y canu" yn rhywbeth goddefol-yn rhywbeth "llanw." Dyna ydoedd yn marn pregethwr Cymreig enwog a drigai yn Ler- pwl ychydig flynyddau yn ol. Cof genym ymweled a Chapal Anfield Road un nos Sul. Ychydig ar ol dechreu'r sïat, hysbysodd un o'r blaenoriaid fod un yn bresenol a fu yn aelod o'r hen gapel yn Cranmer Street, a dvddorol fyddai cael gair neu ddau gan y Llundeinwr-gair o brofiad neu ychydig eiriau i'r cerddorion, neu iddo arwain ton neu ddwy. Ond ni chawsom y cyfle, gan ddarfod i'r pre- gethwr roddi i'r brodyr anerchiad mor faith fel nad oedd amser i ganu nac i son am ganu a'r modd y cafodd y cerddorion eu ffordd ydoedd drwy gynhal cwrdd canu ar derfyn y siat—a chwrdd mawr ydoedd. Ond diangodd y pregethwr cyn y cwrdd canu. Y mae, gan hyny, yn ddiogel ini ddod i'r casgliad fod y gwr y cyfeirid ato yn un nad oedd canu yn apelio ato. Pan sefydlwyd Cristionogaeth, caffai cerdd- oriaeth le yng nghyrddau crefyddol pobl Dduw; ac mor belled ag y darllenasom, y mae wedi parhau yn ddi-dor yn rhan o waith y cysegr hyd yn awr. Yr oedd hefyd yn rhan bwysig o wasanaeth y Demi, ymha un yr oedd cerddoriaeth offerynol yn cael lie mwy pwysig nag a gafodd yn y cyfnod Cristionogol, er fod rhai yn tybied nad ydoedd cerddoriaeth yr amserau cyn-Gristionogol agos mor wych a pherffaith ag y tueddid ni i gasglu. Ond y cwestiwn yw, nid pa mor bwysig ydoedd (ac ydyw) lie cerddoriaeth yng ngwas- anaeth y cysegr, ond a fu (ac ydyw) CANU HYMNAU y gallu penaf yn nhroedigaeth per- sonau? Yr ydym ni wedi arfer credu mai argyhoeddiad dwfn, a gallu Duw yn cael ei amlygu drwy ei bregethau a'i weddiau oedd- ynt yn peri fod Luther, a'i gyd-lafurwyr, yn dylanwadu mor fawr ar wrandawyr nes peri iddynt waeddi am faddeuant. Gwir fod cerdd- oriaeth yn helpu ac ni wyddorr. am gyfrwng cerddorol mwy priodol i hyny na'r corale Ellmynaidd ond helpu yn unig ydoedd hi. Felly, hefyd, yng Nghymru adeg y diwyg- iad: mawr ydoedd y gorfoleddu, fel y dar- llenasom; ac er fod Duw yn amlygu ei hun mewn modd arbenig a diamheuol yn y cyfnod hwnw drwy y bregeth, y weddi, a'r emyn, eto nis gallwn weled fod yr emyn yn brif gyfrwng yn yr amlygiad." Y mae y weddi, mewn rhai gwasanaethau crefyddol, mor "Surnol"fel y gall y bobl gymeryd rhan ynddi; ond gwell genym ni y weddi gyhoedd o'r pwlpud a gweddiau distaw yn y seddau. Yn y ffordd hon y mae'r bre- geth a'r weddi yn foddion i ddwyn supply i'r enaid, tra y mae'r gan yn foddion ymwaghad iddo; ac y mae moli Duw yn arddangosiad, o leiaf, o ystad yr enaid. Rhaid felly wrth y 1 gan neu'r emyn, ond ni thybiwn ddarfod i ganu, yn unig, argyhoeddi neb erioed o bechod. Ni ddymunwn ddibrisio gallu cerdd- iaeth, ond, hyd y gwelwn, llawforwyn ydyw, ac v bwriadwyd iddi fod, i'r bregeth. Ni fuasem yn ymdrin a mater fel hwn yn y II golofn ond am fod digwyddiadau cerddorol mor brin ar yr adeg hon o'r flwyddyn. I

YSGOL Y NERCHED CYMREIG,I

Advertising