Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

! HYN A'R LLALL.)'

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. )' Yr ymholiad cyffredinol y dyddiau hyn yw, a goronir Iorwerth ar y 9fed o Awst fel yr hysbysir? Mae'n amiwg nad yw ei nerth cystal ag y disgwylid, eto, hyderir y gall ddal goruchwyliaeth y coroniad heb lawer o nivic-d i'w anhwyldeb. Byddai yn alaethus o beth pe gorfedid y meddygon i'w atal allan eto ar yr awr olaf, fel o'r blaen. Nid yw Mr. Balfour eto wedi trefnu ei Dy yn gyfiawn mor bell ag y mae a wnelo a'r swyddi yn y Weirydfiiaeth. Hysbysa Syr Michael Hicks Beach ei fed yn jiredael a'r gwaith o fod yn geidwad y god en," a thipyn o gamp fydd cael gwr cymhwys i lanw ei Ie. 0 un i un daw cadfridogion y Boeriaid i'r wlad hon am dro a gwneir llawer iawn o ffys ynglyn a hwy. Pan ddaw De Wet a Bctha droscdd ca'nt gymaint o groesaw a Kitchener ei hun. 'Dyma'r bobl a gyfrifid yn anwariaid creulon ddwy flynedd yn ol, a gwnaeth y wasg Jingoaidd ei goreu glas y pryd hyny i'w melldithio. Bellach, eledforant hwy fel arwyr a 'does dim digon o sebon i'w gael ym Mhrydain i dywallt ar ben y bobl hyn. Rhyf- edd mor anghefus a dauwynebog y gall y Sais fod. Mae'r Llywodraeth ar ei heithaf yn gwthio y Bil Addysg drwy'r Senedd. Ond er cym- aint yw mwyafrif y blaid Doriaidd, nid yw yn cael y ffordd yn glir ar lawr y Ty i wneyd fel y myn. Parhau yn gyndyn y mae'r blaid Ymneullduol fechan a arweinir gan Mr Lloyd George ac ereill, ac oni bae am eu gweith- garwch hwy, buasai y Mesur wedi myned drwodd er's tro. Ni fu er's amser maith y fath ymladd ar fesur ag a wneir ynglyn a hwn. Gwella yn raddol y mae Chamberlain, a dywed ei feddygon nad yw wedi cael llwyr wared o efleithiau yr anhap ddaeth i'w ran beth amser yn ol. Diau fed y siom a dder- byniodd ddiwrnod neu ddau ar ol y ddamwain wedi bod yn gymaint o niwed iddo a'r anffawd ei hun. Beth bynag am hyny, y mae'n eglur fed y gwr o Firmingham wedi heneiddio yn fawr yn ddiweddar. Bu farw'r Parch. O. Morfab Jenkins, Llan- gefni, dydd Gwener diweddaf, ar ol cystudd maith. Ganwyd ef yn ardal Aberporth, Aber- teitl, rhyw 60 mlynedd yn ol, ac aeth drosodd i'r America yn bur ieuanc. Yn y wlad hono y dechreuodd bregethu, end dychwelodd i Gymru yn 1884, ac o'r adeg hono hyd yn awr bu yn gefalu am eglwys anibynol Llan- gefni gyda llwyddiant a boddlonrwydd cyff- redinol. Yn ol pob argoelion, ceir Eisteddfod bob- logaidd ym Mangor y mis nesaf. Y mae nifer fawr o wyr pwysig wedi addaw bod yn bre- senol, a'r olaf o'r dieithriaid sy' wedi datgan eu bwriad i fod yn yr Wyl, yw, Mr. Seddon- prifweinidog enwog trefedigaeth New Zea- land. Ymysg y buddugwyr am y gradd o B.D. yn arholiad diweddar Prifysgol Llundain, gwelwn enw y Proff. J. Young Evans, M.A., o Goleg Trefecca. Yn Llys Methdaliadol Lerpwl yr wythnos o'r blaen, cynhaliwyd archwiliad i gyfrifon un Mr. O. E. Owen-y gwr a athrod- odd y Parch. W. O. Jones, ac a ddir- wywyd yn drwm am hyny. Yn lie talu Mr. Jones y mae Mr. Owen wedi gwneyd ei hun yn fethdalwr. Buasai y Cyfundeb yn Lerpwl ar ei enill ac yn llawenhau yn fawr pe bae Mr. Owen wedi cario'r gamp yn y treial hwnw ac onid doeth fyddai iddo yn awr ro'i help i Mr. Owen i gyfarfod a'i ofynion yn hytrach na gadael iddo fyned yn fethdalwr. Yn ei awydd i wneyd lies i'r Hen Gorff y syrthiodd y gwr ieuanc i flinder. Gofidus yw deall fod Mr. Hughes, ficer newydd Llandudno, wedi ei ddal gan anhwyl- der blin. Cymerwyd ef i'r gwallgofdy. Cyd- ymdeimlir yn ddwys a'i deulu. Adferiad buan a gaffo.

Advertising

Qddeutu'r Odin as,