Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Qddeutu'r Odin as,

News
Cite
Share

Qddeutu'r Odin as, Wel, wel, dyma wyl arall eto wrth y drws, a hyderwn y caiff pob dinesydd gyfleustra i fyn'd am ychydig oriau i'r wlad y Llun nesaf, a chael yno heulwen braf am dro. Gwneir darpariaethau helaeth ym Mharc Hatfield gogyfer a'r wibdaith a el yno. Bydd trens rhad yn rhedeg o King's Cross trwy y dydd, a cheir pob math o luniaeth i'r corff yn y pare. Rhoddir gorchymyn arbenig ar i bawb sicrhau tocynau ym mlaenllaw i fyned gyda'r wibdaith hon. Mae Undeb yr Ysgolion Sabothol am iddi fod yn llwyddiant mawr a'r ffordd i gael hyny fydd trwy i bawb geisio hwylysu y gwaith ynglyn a hi. < < Daw'r hanes o wahanol drefi ac aberoedd Cymru fod y lie, bellach, yn llawn o ymwel- wyr, ac yn ystod yr wythnos hon a'r nesaf bydd mwyafrif y dinasyddion yn cymeryd eu hedyn i hen fro eu mebyd. Da genym ddeall y bydd elw sylweddol yn deilliaw o'r cyngherdd a gaed y dydd o'r blaen yng nghapel Clapham Junction i gyn- orthwyo hen foneddiges haeddianol yn y deheubarth. Y mae hyn i'w briodoli yn benaf i'r ffaith ddarfod i ddwy ferch ieuanc ymgymeryd a'r gwaith o werthu tocynau a gofalu am drefniadau cyffredinol y cwrdd. » » Tra yn son am y cyngherdd hwn nis gellir llai na sylwi mai dyna'r cwrdd olaf y bu'r hen fardd Gwilym Pennant ynddo. Ar ei ffordd adref y cafodd y fath anwyd a droes yn angeu iddo yrnhen'chydigddyddiau wedyn. Ychydig ddyddiau cyn hyn cyfansoddodd ei benillion, Coronation Dinner ac anghywir ydoedd y dywediad yn ein rhifyn diweddaf mai dyna'r peth olaf a gyfansoddodd. Ar y dydd hwnw yr oedd wedi ysgrifenu pedwar penill i'w hadrodd yn y cyngherdd. Penillion o glod oeddynt i'r ddwy chwaer fu yn trefnu y cwrdd, a chan mai dyma ei gynyrch olaf, maddeuer i ni am roddi lie iddynt. # GWAITH OLAF GWILYM PENNANT. CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION. Dwy ysgrifenyddes-au Mewn parch sy'n haeddu clod Am gwrdd mor gymeradwy Yng Nghapel Beauchamp Road: Miss Williams, Miss Jones hefyd, Tom Jenkins er eu ffawd, Sy'n dyner eu calouau I gofio y tylawd. lawn gofio y tylodion Tra byddont ar y llawr, Sy'n weithred Gristionogol Orchymynodd lesu mawr; Mae gan y cyfoethogion Eu byrddau'n llawn er ffawd Ond ni rydd rhai y briwsion I Lazarus dylawd. Ond rhoi y dorth yn gyfan Wna Tom, a'r merohed hael- O'r Nefoedd fe'u bendithir Am gofio y rhai gwael; Diolchwn o'n calonau I'r tri am weithio'n nghyd, Mae Cymry t'lodion Llundain Yn gwaeddi Gwyn eu byd." Y ddwy ferch ieuanc heinyf Sy'n heirdd fel blodau'r ha'- Mae'n hawdd i'r llanciau ddeall Y gwnant hwy wragedd da Tom Jenkins sy'n haelionus, I lawer mae fel banc, Ond syna'r merched ieuainc Ei fod ef yn hen lane. GWIDYM PENNANT. Fel y gellir sylwi, yr oedd yr hen frawd mor ddireidus ag erioed hyd yn oed yn ei benillion olaf. Bellach, boed iddo hedd ar ol ei oes drafferthus a maith. Os mai Americaniaid bia'r Werydd gellid j meddwl mai Cymry bia Llundain. Eu henwau hwy sydd ar barwydydd yr holl dai mas- nachol yma, ac un o'r golygfeydd harddaf yn Oxford Street y dyddiau hyn yw gweled siop Mr. Lloyd, y draper, wedi ei haddurno mor dda yn Gymraeg. Mae Draig Goch danllyd, fawr, ar y parwydydd, ac uwchben y drysau y mae'r weddi Duw GADWO'R BRENIN," mewn Ilythyrenau breision sydd yn mesur amryw droedfeddi o uchder ac amryw o latheni o hyd. <t Un o fechgyn ardal Llanybyther yw Mr. Lloyd, ac y mae wedi dringo i fod yn un o fasnachwyr mwyaf llwyddianus yn Oxford Street, Llundain-prif heol y dref fawr hon. Mae gweled personau fel hyn mor wladgarol ac iaithgarol ar ol dringo i safleoedd uchel, yn argoeli yn dda am ddyfodol y genedl. » » Mae llawer o honom yn cofio am y Parch. W. Rees yn gweinidogaethu yn hen eglwys y Bedyddwyr, Eldon Street. Ar hyn o bryd, mae maes ei lafur yn Hopkins- town, Pontypridd; ond y mae iddo gylch eang o gyfeillion o hyd yn y ddinas yma. Adwaenid ei wraig dalentog, gynt fel Miss Cordelia Edwards; ac ychydig wythnosau yn ol bu hithau ar ymweliad a Llundain ac yn treulio oriau melus yng nghwmni ei hen gyd- nabod yma. Parodd ei llythyrau i'w phriod gartref danio awen y bardd-bregethwr; a dyma fel y canodd iddi yng ngwres ei adgof- ion ac yn ei unigedd yn ei gartref. Fe ddywedir ymhellach mai dyma ei gais cyntaf at farddoni. Os feily, rhaid addef eu bod yn wir dda:— "FY NELL." Mae'm meddwl gyda. thi, fy Nell, Yn gyson gyda thi, Pe medrai'm meddwl gludo'm corph Fe'm gwelsit, coelia fi Ti gawset fy nghymdeithas lawn B'le bynag elit ti, Fe gawswn ddod, mi wn y cawn, A dedwydd fyddem ni. Nid dedwydd bod fel hyn, fy Nell, J Un yma a'r llall draw- Mae'r plant a minau'n gwel'd o hyd Dy eisieu ar bob Haw; I'n nefol Dad 'rym ar bob pryd Yn diolch yn ddi-daw, Pod gobaith cryf yn hyn o fyd Dy gwrddyd maes o law. Mae dy lythyrau byw, fy Nell, Fel toriad boreu wawr, A phawb am wybod beth yw'th hynt Tra yn y ddinas fawr Diolchgar y'm fod ffryndiau gynt A'u croesaw cynhes llon Mor hael a'r awel ar ei hynt I'th loni'r ymdaith hon. Mae'r hanes am y plant, fy Nell, Yn llonder mawr i ni, A chyfaddefant oil yn rhwydd Eu dyled fawr i ti; Canfyddant 'nawr, mai er eu llwydd, Y mae'th ymdrechion lu, Dy ofal doeth am bob rhyw nwydd Ar gyfer dy holl dy. Ni chefaist gyfoeth mawr, fy Nell, Un adeg ar dy oes Ond cefaist fendith ar dy waith Bob amser, Duw a'i rhoes Nis gall un dyn fyth ro'i mewn iaith, Dy werth mewn rhin a moes, A pheidio'th ganmol amser maith F'ai gam a thi, a loes. Eist oddi cartref 'nawr, fy Nell, j Nid i foddloni'th hun, Ond er cael gweled sut mae'r plant Gwnest hyn er colli'th htin, J A dioddef poen mewn tyllog ddant, Sy' ddirfawr loes i ddyn, Gad hwn ar ol mewn pwll neu bant A brysia'n ol dy hun. Mae'n rhyfedd genyf fi, fy Nell, I'm gael fath fendith fawr— Cael gwraig nad oes ei gwell yn bod Yn unman ar y llawr Un sydd a'i Ilygaid ar y nod— Anrhydedd lesu mawr. Gwraig sy'n amcanu byw er clod i Ei Harglwydd ar bob awr. j Gan Dduw y cefais di, fy Nell, Mi'th geisiais ganddo Ef, Anturiais ato'n ol ei Air Cyfodais lef i'r nef Gwrandawyd fi, a dyna bair I'm ffydd, er nad yw*n gref, Ddal gafael yn fy Nuw'n mhob pair Am iddo wrando'm lief. 0, boed im' gymhorth mawr, fy Nell, Tra. byddwyf yn cael byw, I'th barchu a'th anwylo'n well Fy ngweddi Arglwydd clyw Boed pen yr yrfa eto'n mhell Drwy fawr ddaioni Duw, A'n henaid, pan ein cyrph mewn cell Yn y Gaersalem wiw. Hopkinstown, Pontypridd. W. BEES. Hyfrydwch genym ddeall fod Mr. Samuel Morgan, mab Mr. Morgan, 53, Southward Park Road, wedi llwyddo i fyned trwy ei arholiadau meddygol cyntaf gydag anrhyd- edd, a bydd yn dechreu ar fyrder yn Ysbytty Guys fel efrydydd. Boed iddo barhau i enill y gweddill o'r gyfres gyda'r un clod. Da genym weled y Parch. Machreth Rees wedi gwella mor rhagorol ar ol yr anhwyldeb a'i blinai cyhyd ddechreu yr haf eleni. Mae ei lais, bellach, wedi ei adfer a phregetha yrv awr mor nerthol ag erioed. Boed iddo flwyddi lawer a pherffaith iechyd i wasan- aethu ei gydgenedl yn y ddinas yma. Yn 01 pob arwyddion, y mae eglwys Char- ing Cross wedi bod yn hynod o ffodus yn newisiad eu gweinidog, ac y mae'r holl- aelodau yn edrych ymlaen am dymhor hynod o lewyrchus tan ofal Mr. Griffiths. Nid gwaith hawdd ar hyn o bryd yw cael gweinidogion i ddod i lafurio yn y ddinas yma, ac os na wneir eu gwaith yn llawer hawddach a'u cyflogau yn llawer uwch, ofer disgwyl y sicrheir y doniau goreu at ein gwasanaeth. w Mae'r Parch. Richard Roberts, Willesden Green yn edmygydd trylwyr o Robert OweB: (y Sosialydd) a'i waith. Rhydd ysgrif amserol arno yn y rhifyn diweddaf o'r Gymru. Perth- ynas Robert Owen a Chymru yw cnewyllyn y papyr; ond y mae yn dangos ar yr un pryd fod llawer o gydymdeimlad yng nghalon yr awdwr at yr hen arwr a weithiodd mewn dull mor hynod er ceisio budd a lleshad ei weith- wyr a'i gyd-ddynion. # Yn y rhestr a gyhoeddwyd yn ddiweddar o'r efrydwyr a gymeradwywyd fel rhai yn deilwng o diploma y "City and Guilds of London Institute mewn "Electrical Engin- eering," gwelwn enw Mr. Ll. T. Edwards- mab hynaf y Parch. Llewelyn Edwards, M.A. Ardwyn. Mae Mr. Edwards wedi bod yn efrydu Electrical Engineering yn y Cen- tral Technical College o dan Proff. Ayrton am yr ysbaid o dair blynedd, ac y mae wedi enill y lie blaenaf mewn "Electrical Design and Drawing," a'r chweched le yn ol teilyng- dod yn rhestr y diploma. Boed i'w lwyddiant barhau nes y delo mor enwog yn y byd trydanol ag y daeth ei hynafiaid yn y byd duwinyddol. # Dydd Iau wythnos i'r diweddaf, gwahodd- odd y Mri. Williams a Davies (drapers, Earl's Court Road) eu holl wasanaethyddion ynghyd a nifer fawr o gyfeillion, i fwynhau prydnawn- wledd felus ym mhalas henafol Hampton Court. Cychwynwyd o Earl's Court oddeutu tri o'r gloch y prydnawn, mewn dau gerbyd mawr, a chafwyd drive o'r fath fwyaf hyfryd a phleserus trwy Richmond Park. Cyrhaedd- wydd Gwesty'r Milgi, Hampton Court, tua chwech o'r gloch, ac yn fuan eisteddwyd i lawr mewn un o'r ystafelloedd hardd ynddo i fwynhau luncheon, o'r fath oreu, oedd wedi ei barotoi ar eu cyfer. Cafwyd gwledd hynod flasus, a gwnaeth pawb berffaith gyfiawnder a'r danteithion.