Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYO A'R BETTWS.¡

News
Cite
Share

Y BYO A'R BETTWS. Mae amryw o Americaniaid Cymreig enweg ar ymweliad a'r Hen Wlad y dyddiau hyn. Hysbysir fod nifer fawr o gcrau wedi anfon eu henwau i fewn i wahanol gystadleuaethau yn Eisteddfod Bangor. Anfoncdd chwarelwyr Bettesda gais at y Brenin yn gofyn iddo wneyd ei oreu i der- fynu yr anghydwelediad presenol. Ceir gwel'd a ddaw rhyw les o hyny. Yr wythncs ddiweddaf, cynhaliwyd ym- rysonfa saethu y Saeson yn Bisley. Llundeinwr aeth a'r brif wobr eleni, a chjffredin iawn cedd yr ymddangcsiad a vtraed gan y saeth- wyr Cymreig. r Er fod mis gorphen baf wedi myned heibio nid yw'r haf wedi decbreu eto, a barnu wrth y tywydd a gaed hyd yma. Parhau yn hynod o oer y mae'r btn ond, feallai y daw diwyg- iad cyn diwedd mis Medi. Daw'r adroddiadau o bcb cyfeiriad fod cnydau rbagorol o wair eleni, a bydd yr yd yn Hawn cymaint a disgwyliadau y ffermwyr. Os ceir tywydd ffafriol i gael y cynhauaf adref bydd yn fiwyddyn dda iawn i'r fferm- wyr. Er's amryw ddyddiau, bellach, nid ydyw y Seneddwyr wedi cael ond ychydig o gymhorth i chwerthin, Mae pawb bron wedi myned i wisgo gwtp lied ddifrifol. Y rheswm yw, fod Mr. Alfred Davies wedi methu bod yn bre- senol oherwydd rhyw ychydig o anhwyldeb, a sicr yw fod degau o bobl yn dyheu am weled ei wedd siriol a chlywed ei holiadau difyrus ar draws llawr y Senedd-dy etc, er cael ychydig o hwyl ar y tywydd trymaidd yma. Mae'r Fonesig Eluned Morgan wedi dych- welyd i Gymru o Patagonia eto, a bwriada bellach chwilio am ei chynhaliaeth yn yr Hen Wlad. Parhau yn anffortunus iawn y mae trigolion y Wladfa, a daw'r newydd eto am orlifiad arall sydd wedi ysgubo y dyffryn a rydd fwyaf o gynhaliaeth i'r Gwladfawyr. Nid rhyfedd, yngwyneb yr anffodion hyn, fod yno amryw ganoedd yn dyheu am fyned i ryw wlad arall er chwilio am eu bywiol- iaeth. Mae masnachdy eang Mr. T. J. Harries wedi cael ei brynu gan gwmni cyfyngedig yn ddiweddar, a'r wythncs hen cynygid y cyf- raniadau i'r cyhotdd. Y swm a ofynid am yr eiddo oedd i2i,0C0, a dywedir y gwneir dros ddt ng mil o bunau o elw bob blwyddyn o hono. Yr wythncs hon, cyhoeddwyd dwy gyfrol arall o dan nawdd Urdd y Graddedigion Cymreig. Un o dan olygiaeth Mr. J. Gwen- ogfryn Evans, a'r llall dan olygiaeth Mr. J. H. Davies, Cwrtmawr. Adargreffiadau o'r llyfrau Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd ydynt, a cheir adolygiad ar y gwaith yn ein rhifyn nesaf. Yn ychwanegol at y rhestr faith o noddwyr Eisteddfod Bangor y mae Brenin Groeg wedi caniatau i'w enw gael ei ddefnyddio yn y dosbarth anrhydeddus hwnw. Nid oes berygi y daw y Brenin i'r Wyl, ond y mae cael nawddogaeth gwr fel efe yn fwy pwysig yn ol tyb rhai na chorcn gwladwr a el i'r wyl i geisio am wobr neu roddi cefnogaeth i ym- geiswyr ereill. Yr wythnos hon daeth etifedd ystad Llan- over i'w oed, a mawr oedd y miri yn sir Fynwy i ddathlu yr amgylchiad. Mab y Cyrnol Herbert yw'r gwr ieuanc, a gor-wyr i'r ddiweddar hyglod Gwenynen Gwent." Er fod y teulu yn hen deulu Cymreig, a'r hen Wenynen wedi bod yn gweithio mor galed dros gadwraeth yr iaith, eto, graddol ddiflanu o deulu Llanover y mae ei hacenion per. Rai blynyddau yn ol, Affrica oedd gwlad yr aur, a ffurfid cwmniau wrth y canoedd yn Llundain er cael arian i brynu y mwnfeydd llucsog a sefydlid yn y Transvaal. Yn y dyddiau hyn nid oes ond son am gwmniau i archwilio aurgloddiau Ffestiniog a dywedir fod llawer wedi soddi eu harian ynddynt.