Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y rfodaim

Advertising

HEN LUNDEINWYR ENWOG.

News
Cite
Share

yth yn gwaeddi. Yr oedd ganddo lywodraeth liollol ar ei lais. Yr oedd ei bregethau yn ddeallus iawn o ran cyfansoddiad, iaith rag- orol a phur. Yr oedd hanesyddiaeth yr Hen Destament yn hoff bwnc ganddo. Yr oedd yn ddesgrifiadol ac yn hynod dlws, brawdd- egau byrion ond llawn mater. Nid oedd fel y Heill yn pregethu yn faith, ac nid oedd yn boblogaidd, ond v mae hyny i'w briodoli fwyaf i'w arafwch yn hytrach na dim arall. Un hynod a phoblogaidd ydoedd fel dar- iithydd. Cawsai lond capel ar noson waith yn St. Mary Axe pan yn areithio ar gerdd- oriaeth, a byddai ganddo gor plant bob amser i gymeryd rhan yn y cyfarfod. Yr oedd yn un o'r cynrychiolwyr goreu a feddai y Feibl (xymdeithas, a buasai wedi ymgymeryd mwy a hi oni bae am ei orehwylion llenyddol, pa rai oeddynt yn angenrheidiol oblegid fod ei gyfiog fel bugail yn fychan iawn. Fel llywydd cyfarfodydd llenyddol a dar- Hen nid oedd yn ail i neb: beirniadai bob amser yn dyner ond yn hollol onest, a chym- erai drafferth gvda'r ieuenctyd-pa fodd i pyfansoddi a thraethu idaynt. Yr oedd yn siriol bob amser mewn cyfarfodydd o'r natur yma a phan y Hywyddai efe, gallasai pawb fod yn sicr na ddywedid yr un gair o'i le-y rhaglen bob amser yn chwaethus a da. Nid oes yr un o'i bregethau ar gael; ond y mae cyngor ganddo i'r efrydwyr yn y Bala ar gael, ac yn ddangoseg bur glir o'i arddull. Mae'n rhaid addef na welwyd mo hono gan <ei genedl. Dylasai fod wedi ei ganfod yn well a'i werthfawrogi yn fwy. Bydd ei lyfrau yn fyw tra parhao'r iaith ac, er wedi marw, mae ei weithredoedd yn aros. Cofiwn am dano, a dilynwn ei lwybrau ef.