Hide Articles List

1 article on this Page

HEN LUNDEINWYR ENWOG.

News
Cite
Share

HEN LUNDEINWYR ENWOG. PARCH. JOHN MILLS. 1812-1873. [GAN MR. L. H. ROBERTS, CANONBURY.] (Parhad). Yr oedd amryw o'i gydnabod yn Llanidloes yn Iuddewon, ac yr oedd bob amser yn hoff o honynt; a tbrwyddynt hwy, mewn gwiron- edd, y dysgodd Hebraeg. Yr oedd ei efryd- iaeth—am flynyddau-mewn Duwinyddiaeth Ysgrythyrol, i fesur mawr, wedi ei gyfaddasu i hyn; ac y mae'n debyg fod y syniad am wasanaethu yn eu plith ynddo er pan yn ieuanc. Mae'n debyg mai trwy ddylanwad Dr. Keith o Scotland, yr hwn oedd wedi ymweled a'r Iuddewon ym Mhalestina ac ar y Cyfandir, y daeth y Methodistiaid i benderfynu sefydlu cenhadaeth yn eu plith ac yr oedd y Dr. yn bresenol, ac yn siarad ar y gwaith, yng nghy- manfa Rhuthyn yn y flwyddyn 1845. Sefyd- lwyd y ganghen luddewig yn fuan wedi hyny. Gwnaeth Mr. Mills gais am fod yn genhadwr, a derbyniwyd ef. Penderfynodd, yn gyntaf, wneyd Llundain yn faes cenhadol, a symud- odd yma yn Rhagfyr, 1846. Dylasem sylwi, hefyd, fod y Bwrdd Cen- hadol nid yn unig yn bwriadu iddo lafurio ymhlith yr Iuddewon, eithr hefyd i gynorth- wyo yr achos Cymraeg yn y Brifddinas. Nid oedd gweinidog rheolaidd yma ar ol marwol- aeth James Hughes, ond William Williams ac o'r flwyddyn 1845 hyd ei farwolaeth yn 1873, Llundain ydoedd rnaes llafur Mr. Mills. LJafuriodd yn galed ymhlith yr Iuddewon hyd 1859, yngwyneb gwrthwynebiadau lawer yng Nghymru, am nad oedd ffrwyth bcddhacl i'w ganfod yn y ffordd o ddychweledigion ac addefai Mr. Mills hyny yn rhydd. Un neu ddau, mae'n debyg, a ellir nodi iddo ddych- wellyd; ond, er hyny, nis gellir dyweyd fod ei waith wedi bod yn hollol ofer. Trwy ei ddoethineb, ei amynedd a'i benderfyniad (ac yr oedd o'r blaen yn garedig i'r Cenedl-ddyn) llwyddodd i gael derbyniad i gylchoedd luddewig, a chael ganddynt wrando arno pan na wnaethent wrando ar neb arall; a chyd- nabyddir ei waith-y British Jews "-yn un safonol yn eu plith. Ceisiodd, mewn ysbryd boneddigaidd a Christionogol, leihau rhagfarnau gelyniaethol at Grist a Christionogaeth, drwy ddangos iddynt fod eu Hysgrythyr hwy, sef yr Hen Destament a'r Testament Newydd yn un ac yn gyson a'u gilydd. Yr oedd yn addef gyda hwynt ardderchogrwydd y grefydd luddewig, ac, ar yr un pryd, yn dangos iddynt unol- iaeth y ddau Destament: fel yr oedd y naill yn gofyn am y Hall. Ca'dd lawer o gyfleusderau (gwnaeth yn fawr o honynt) i siarad am Grist a'i bobl with genedl na wrandawai ar neb arall ond efe. Gwnaeth ddefnydd o'u cylch- gronau i ddadleu egwyddorion Cristionogol; a chafodd gyfeillach Iuddewon dylanwadol o bob safle. Daeth i adnabyddiaeth a'r dynion uchaf a mwyaf dylanwadol yn eu plith a chafodd bob mantais i astudio eu harferion yn gymdeithasol, yn eglwysig, a pholiticaidd. Yr oedd yn ymwelydd cyson a'u hysgolion dydd- iol, amryw o ba rai sydd yn Spitalfieids, a thraddododd lawer o ddarlithiau iddynt yn hen gapel St. Mary Axe—rhai ar farddon- iaeth a cherddoriaeth Hebraeg, ac amryw ar Wlad Canaan. Iuddew o ddylanwad fyddai yn y gadair bob amser. Ymwelodd a Gwlad Canaan ddwywaith- .unwaith cyn tori ei gysylltiad a'r genhadaeth, ac unwaith wedi hyny. Y mae hanes y daith gyntaf i'w chael yn bur helaeth yn y Ilyfr Cymraeg a gyhoeddodd wedi cyrhaedd adref, sef "Palestina"—y llyfr cyntaf o'r fath yn yr iaith. Prif neillduolrwydd y Ilyfr hwn ydyw y goleuni y mae yn ei daflu ar gyflwr a banes yr Iuddewon yn eu hen wlad eu hunain. Y inae ei ddesgrifiad o un noswaith, pan ar ymweliad a Gardd Gethsemane, yn hynod o darawiadol. Prydnawn yr ail Saboth yr oedd yn Jerusalem. Desgrifia ei hun yn eistedd o dan yr hen olewydden ac yn dechreu darllen hanes y Ceidwad yn yr ardd. I, Cyn hir," meddai, aethum yn rhy drwm i ddarllen, a gorfu i mi gau fy Meibl a rhoi fy fIrwyn i fy myfyrdodau. Wrth fyfyrio, enynodd tan ynof, ac wrth i hwnw gryfhau, torais allan i ganu hen benill Williams Pantycelyn- Ai Iesu mawr, ffrynd dynolryw A welaf fry, a'i gnawd yn friw A'i waed yn lliwio'r He, Fel gwr dibris yn rhwym ar bren A'r gwaed yn dorthau ar ei ben Ie, f'enaid, dyna Fe.' Yr hen don felus, Croeshoeliad," oedd gan- ddo ar y geiriau. Canodd hi drosodd a throsodd drachefn; a phan ynghanol ei hwyl- iau myfyrdodol, pwy ddaeth ar ei draws ond rhyw Arab mawr a golwg dychrynllyd arno. Ofnai Mr. Mills, ar y cyntaf, fod ei fywyd ef mewn perygl ond, erbyn deall, yr hyn oedd ar y creadur eisieu ydoedd cardod. Dychwelodd Mr. Mills adref yn y flwyddyn 1855, ac, am ychydig amser, ail-ymaficdd yn ei waith fel cenhadwr. Erbyn hyn, yr oedd y gwrthwynebiadau, oherwydd nad oedd ffrwyth weledfg ar ei ymdrechion, yn cryfhau yn rhai o'r siroedd, ac yr cedd rhai personau -yn enwedig un yn sir F6n—wedi ymgymeryd o ddifrif a'r gwaith o'i wrthwynebu yn y Bwrdd Cenhadol ac yn y Gymdeithasfa, am nas gallent weled ei fod yn cymeryd y ffordd oreu-yn ol eu barn hwy—i geisio dychwelyd yr luddewon i'r ffydd Gristionogol. Er y buasai, yn 01 pob tebyg, wedi cael y mwyafrif o'i blaid ar y Bwrdd Cenhadol yn nechreu y flwyddyn 1859, torodd ei g) sy lItiad a'r gen- hadaeth a rhcddodd ei waith i fyny; ac er yr holl driniaeth a gaft dd, yr cedd yn hoik 1 ddistaw, ac ni ddywedodd yr un gair yn eu herbyn. Yr cedd un o'r rhai mwyaf blpenllaw o honynt—er yn perthyn i un o sircedd y Gogledd-yn treulio y rhan fwyaf o'i amser yn Llundain, a thystioiaethai hwnw bob amser ei fod wedi synu at htnan-feddiant, boneddig- eiddrwydd ac ysbryd gwir Gristionogol Mr, Mills drwy yr holl ymdriniaeth a gafodd. Gadawodd y genhadaeth gydsg edmygedd a pharch yr oil o'i gyfeillion a'i wrthwynebwyr hefyd. Ond yr oedd lies y genedl luddewig, hyd ei farwolaeth, yn ages iawn at ei galon. Glynodd wrth y gwaith hwnw gymaint a allsi bob amser a chadwodd eihun, fel y dywedir, mewn touch a'r holl gwestiynau luddewig, ac yr cedd rhai o'r prif Iuddewon yn gyfeiIlion mawr iddo ar hyd ei oes. Talodd ei ail-ymwelicd a Pha]estina yn 1859 -1860, er mwyn, yn benaf, chwilio i mewn i hanes a defodau crefyddol y Samariaid. Ys- grifencdd yr hanes yn gyflawn mewn llyfr a gyhoeddwyd gan Murray, sef Three months' residence at Naolus and an account of the Modern Samaritans." Y mae'n debyg mai hwn yw'r mwyaf dysgedig o'i lyfrau ar Pales- tina. Ceir ynddo ddesgrihad cyflawn o Naolus hen Sichem y Patriachiaid, lie yr oedd cym- aint ohelyntion cysegredig wedi cymeryd lie. Cydnabyddir y Ilyfr yn awdurdod ar y gwa- hanol faterion a drinir ynddo; ac y mae Dean Stanley yn cyfeirio ato yn ei lyfr ar Pales- tina. Wedi dychwelyd o'r daith yma, darllenodd Mr. Mills amryw o bapyrau o flaen y R.G.S., a gwnaed ef yn Fellow o honi. Daeth yn adnabyddus hefyd fel lienor ac ysgolhaig Beiblaidd ysgrifenodd lawer o erthyglau i'r u Cassell's Bible Dictionary," ac hefyd unar- ddeg o erthyglau i'r Imperial Bible Diction- ary a olygwyd gan Dr. Fairbairn. Ysgrif- enodd amryw erthyglau i'r Gwyddoniadur," ac, fel y nodais o'r blaen, yr oedd ei ysgrifau yn ymddangos yn ami yn y Traethodydcfe-' ar gerddoriaeth ac mewn cysylltiad a'i deith- iau. Dylaswn grybwyll am ei gyfeillgarwch a Torhana El Karey, yr hwn a gyfarfyddodd pan ar ei daith. Bu Mr. Mills yn foddion ei ddychweledigaeth at Gristionogaeth. Addysg- odd ef a daeth ag ef i Lundain am ychwaneg o ddysg; a bu yn foddion i'w anfon fel cenhadwr i blith ei bobl yng ngwlad ei ened- aeth, lie y mae'n llafurio yn awr. Ar ol ei ddychweliad daeth Mr. Mills yn fwy llafurus ac amlwg yn Llundain fel pre- gethwr, E rhoddwyd ef yn rheolaidd ar y cylch. Llafuriai bob Sabcth yn ei dro yn. Jewin, Nassau-street, Wilton-square a Phoplar -yn pregethu bob Saboth ac yn arolygu ft"; y lleill. Yr cedd ef, Dr. Owen Thcmas, Dayid, Claries Davies a Robert Owen yn cael eu cydnabod fel gweinidcgicn, a'u talu o'r gionfa gyffredinol; ord fel yr cedd yr eglwysi yn cynyddu, daeth teimlad cryf Ern gael bugaj} ar bob eglwys, a Wilton Square cedd y gYIJtaf i amlygu hyny. Ceisiwyd yn gyntaf gan y bugeiliaid fugeilio yn eu cylch am chwe' mis a bu Mr. Miils yn fugail ar Wilton Square am hyny o amser. Pan yma da wed d Dr. Thomas am Lerpw]; amlygcdd eglwy s Wilton Square ei hawydd- fryd i gael Mi. Cberles Davies, ond efe a ddewisodd Jewin Crcscent, yr hon eglwys a wrthededd gymeryd Mr. Mills, end dewisodd eglwys Nassau Street efyn dra urifrydot a derbyniodd fglwys Wilton Joshua Davies c Birkenhead. Llafuriodd Mr. Mills yn Nassau Street c 1863 hyd ddiwedd ei ces. Bu farw Gorphenai 28am, 1873, wedi bed yn wael am yn agos I bedair blynedd, o ganlyniad i anwyd trwm a gafodd tra yn teithio ar ran y Feibl Gym- deithas yn 1869. Claddwyd ef yn Abnev Park. Yr wyf, yn ystod fy rnhapyr, wedi sylwi pa fath un ydoedd o ran ei gymeriad ond o ran- ei berson yr cedd braidd yn dal, pryd du,, llygaid byw, gloyw, ei wallt yn fawr ond yn arianaidd, yn gwisgo ei farf yn hir (ar ol ei daith olaf), golwg pur drwsiadus arno bob amser, araf ei dduil, yn foneddwr trwyadl, ac (fel y dywedais o'r blaen) yn naturiol o dym- her gwyllt ac afrywiog', ond trwy benderfyniad gorchfygodd ei hun a daeth yn un hynod c lariaidd. Er y gailai. amddiffyn ei hun, a dy- wedyd geiriau cryfion, eto yr oedd yn gwneyd hyny mewn hollol hunan-feddiant—yn dewis geiriau nad allent frifo neb. Yr oedd ef, hefyd. yn hynod drefnus (methodical) gyda'i ddydd., lyfr &c. Yr oedd ei ymddygiadau bob amser yn dangcs ei foneddigeiddrwydd ac hefyd ei fuchedd sanctaidd. Fel cyfaill, yr oedd yn bur a ffyddlawn-yn ymddiddanwr rhydd a medrus, byth yn ysgafn, ond eto bob amser ynsiriol. Yr oedd ei wybodaeth yn helaeth, ac yn hyn 'roedd yn rhagori ar y gweinidogion treill. Dywedir wrthyf ei fod yn un o'r critic5 goreu ar arluniaeth yn ei oes. Yr oedd vn gerddor rhagorol, a synodd llawer wrth weled y Methodistiaid yn gadael John Mills allan c bwyllgor y llyfr hymnau a gasglwyd yn amser Ieuan Gwyllt. Synwyd lawer at ei wybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg, ac fel adroddwr, barddoniaeth Gymraeg nid oedd yn ail i neb, Cafodd lawer o wrthwynebiadau. Mae hanes amungwrthwynebiad iddo o achos darlithiau a draddododd yn Llundain ar gerddoriaeth. Dygwyd ef o flaen y Gymdeithasfa. Cy-, hoeddodd yntau hwy fel eu traddodwyd; a phaDr ddaeth o flaen y Sassiwn, cododd yr hen John Hughes, Pont Rhobert, i'w amddiffyn, Dywedodd ei fod wedi eu darllen drwyddynt ac nad cedd ef yn gweled dim o'i le ynddynt, Feallai," meddai, "mai gweil fuasai altrc enw un o'r hen donau, Marked a goilodd ei gardas,' ond mater o chwaeth yw hyny, ac nid dim arall." Troion gwyllt iawn iddo oedd yr amseroedd gyda'r Bwrdd Cenhadol. Caf- odd lawer o brofedigaethau yn ei deulu, colli- ei ferch fechan ar ddechreu ei weinidogaeth, a cholli ei wraig ychydig wedi cyrhaedd' Llundain. Ail-bricdodd yn 1851 a Miss Hopkins, yr hon sydd yn fyw, ac y mae ei" desgrifiad o Mr. Mills yn ei deulu yn un o'r pethau goreu yn ei Gofiant. Nid oedd yn lfortunus o ran iechyd. Yr oedd golwg wael iawn arno ym mlynyddau diweddaf ei oesr ond dioddefodd yn ddistaw a dirwgnach a chydag amynedd bron yn berffaith. Fel pregethwr, yn nechreuad ei weinidog- aeth, yr oedd yn hynod o nerthol a thanllyd, • ac yn ami yn cael oedfeuon grymus iawn; ond; wedi dyfod i Lundain, newidiodd ei arddulk bron yn hollol. Yn araf, didrwst, distaw,