Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
ARel k Byd y Ban.
A R el k Byd y Ban. u Gan PEDR ALAW. ["PENDENNIS," LOUGHTON.] Yn mis Awst cynhelir cystadleuaethau cerddorol yn Geneva. Byddant yn parhau am dri diwrnod, a chymerir rhan yddynt gan bron yr oil o gymdeithasau cerddorol Switzer- land. Darllenwn fod dros 250 o'r cyfryw gymdeithasau yn bwriadu cystadlu. Bydd yno gystadleuaethau offerynol hefyd. Y mae'r boneddigesau yn prysur ddod i'r amlwg fel cyfansoddwyr; a phe caniateid iddynt gan y rhyw wrywaidd, credwn y bydd- ent yn fwy yn yr amlwg nag ydynt ar hyn o bryd. Y maent wedi profi y gallant ddringo yn uchel ymhob ajran o ddysgeidiaeth, o'r bron; ac yn y byd cerddorol-er nad oes yr un foneddiges eto wedi dangos gallu fel yr eiddo Wagner a'r cewri ereill—y mae amryw wedi dringo yn bur uchel erbyn hyn. Y ddiweddaraf yw Miss Ethel Smyth, awdures yr opera newydd, Der Wald a dderbyn- iwyd gyda'r fath ffafr yn Covent Garden, y nos o'r blaen. Dyma'r opera gyntaf, o waith un o'r rhyw deg, i'r Royal Italian Opera yn Llundain ei chyflwyno i sylw. Dyma'r ail opera i'r awdures hon gyfansxldi, ac y mae wedi ysgrifenu nifer o ddarnau ereill a fuont yn llwyddianus. Bu Miss Smyth yn astudio yn yr Almaen, ac yn ddiau gwnaeth hyny i bwrpas da. Yn rhestr y boneddigesau ceir fod y rhai canlynol yn cyfansoddi:—Madam Sainton Dolby, Mrs. Meadows White a Miss Ellicott. Dyna hefyd Madam Liza Lehmann a Madame Chaminade. Y mae darnau mwy, nac eiddo un o'r bonedd- igesau a enwyd, wedi bod, ac yn parhau i hawlio llawer o sylw ac edmygedd y byd cerddorol. Yn y Musical Times am y mis presenol ceir darluniau o Syr Walter Parrat, y cerddor enwog sydd yn edrych ar ol 'Cerddoriaeth y Brenin.' Ganwyd ef yn Huddersfield yn y flwyddyn 1841. Fel ei dad, Thomas Parratt (yr hwn fu yn organydd Eglwys blwyfol Huddersfield am haner can' mlynedd), y mae Syr Walter yn organydd, ac ymhlith goreuon ein gwlad fel y cyfryw. Darllenwn ei fod yn addaw pethau gwych pan yn bur ieuanc. Pan yn bum' mlwydd oed gallai chwareu y Gwas- anaeth Eglwysig 1 a phan yn ddeg oed gallai (meddir) chwareu yr oil o'r Preludes a Fugues o'r eiddo J. S. Bach-48 o honynt-yr oil heb gymhorth y llyfr Yr oedd yn organvdd pan yn unarddeg oed, a'i gyflog ydoedd £10; a pheth feddyliai'r darllenydd ydoedd enw y person (parson) perthynol i'r Ejlwys lle'r oedd y bachgen- organydd ? Wel, Windsor ydoedd; ac mewn lie o'r enw Windsor y mae yr un (hen) fach- gen yn organydd yn awr. Yr oedd Syr Walter yn organydd yn Llundain pan yn 12 mlwydd oed. Yn sicr, yr oedd yn meddu cof anghyffredin j pan yn ieuanc. Un tro yr oedd gwr yn ymgeisio am y swydd o brif fas i'r cor, ac yn "y prawf" nid oedd gan y cantor ond un copi o'r gan-fel nad oedd copi wrth law i'r organydd. Gan hyny gofynodd i'r cantor adael iddo edrych dros y gân, yr hyn a wnaeth. Rhoddodd y copi yn ol i'r cantor a chyfeiliodd y darn drwyddo. Wedi gorphen, galwodd sylw'r dadganydd at ddau wall yn y dadganiad Yn y flwyddyn 1860, ymgeisiodd am y swydd o organydd yn Newcastle, ond ni ddewiswyd ef. Wedi hyny, ymgeisiodd am swydd gyffelyb yn Leeds, ond eto ni ddew- iswyd ef. Ac, fel y dywed ysgrifenydd yr erthygl yn y Musical Times, da ydoedd y siomediga ;thau hyn, hyd yn oed i Syr Walter ei hun, ca. iys pe llwyddasai yn yr ymgeisiadau hyn, dtcho.i na fuasai mor ddefnyddiol ag y mae wedi bod yn Llundain ac, yn sicr, ni fuasai mor enwog nac o bosibl yn gallu ym- falchi'o yn yr anrhydedd o osod y syr" arno. Drwy symudiad Dr. Stainer i St. Paul, Llundain, penodwyd Syr Walter yn organydd Coleg Magdalen, Rhydychen; ac ar ol deng mlynedd o lafur caled yno, cafodd yr anrhyd- edd o ddilyn Syr George Elvey, yn y swydd o organydd yn St. George's Chapel, Windsor. Yn y flwyddyn 1883, penodwyd ef yn brif broffeswr yr organ yn y Coleg Brenhinol; ac y mae y dosbarth corawl o dan ei ofal ef. Nis gallwn fanylu ymhellach ar hanes dyddorol y cerddor poblogaidd hwn, ond rhaid crybwyll y ffaith mai o dai ei gyfar- wyddyd ef y bu yr organydd Cymreig, Mr. B. Trehearne, yn ymbsrffeithio fel organydd, tra yn y Coleg Brenhinol. Fel hyn, gwnaeth Syr Walter rywbsth i helpu Cymro a gwel- som y dydd o'r blaen ei fod yn arholydd i Brifysgol Cymru
Bwrdd jf I Colt.
Bwrdd jf I Colt. Ergyd trwm gafodd y frawdoliaeth farddol yr wythnos ddiweddaf ym marwolaeth yr hen a'r diddan Wilym Pennant. Yr oedd arwyddion amlwg o'r hiraeth am dano yn y cwrdd diweddaf, ac nis gallai yr hen feirdd oedd yn aros ond yn unig syohu dagrau a dyweyd poor fellow Un o'r pethau diweddaf a wnaeth," meddai Tom Dafis, "oedd canu i'r coronation dinner'; ond fel pob bardd eisteddfodol, sydd yn canu yn ddifyfyr, yr oedd wedi eu parotoi ddeuddydd neu dri cyn yr wyl." Parhaodd yn lied sionc hyd y diwedd ac er fod pwysi blynyddoedd wedi gwneyd ei lesgedd yn fwy yn ddiweddar, eto, parhai ei awen yn Hed fywiog. Wn i ddim p'le mae dechreu son am dano," ebe yr hen Gwcwll, waeth yr o'em mor adnabyddus o'n gilydd, a phan own i yn byw yr ochr arall i'r afon, 'doedd dim byd mwy pleserus genyf na bod yn ei gwmni, a dyna lie byddem am oriau yn towlu allan gyplau cynghaneddol ac yn oydfwynhau ffrwyth yr awen. Pe bawn wedi eadw rhai o'r I titbits' hyny, gwnelsent ddigon i lanw cyfrol dda." Gofalodd Mr. Gyrn Davies am gasglu Ilawer o'i weithiau ynghyd, a chanddo ef a'r Parch. D. 0. Jones y mae mwyafrif o'r hyn a gynyrchwyd gan awen Gwilym. Feallai y deuant a chasgliad bychan o'i weithiau allan. Buasai yn sicr o fod o werth, a, chydag ychydig gefnogaeth, gallasent fentro ar y gorchwyl ynddibryder. Rhaid tewi son am yr hen bererin bellach. Gwel odd ddyddiau blin, ond fei llawer i fardd o'i flaen- pe yn fwy gofalus o'r presenol a byw yn llai yn y dyfodol pell-gallasai fod wedi newid cryn lawec ar- ei sefyllfa ar ddiwedd ei oea. Yn y prudd-der a dda.eth dro3 y cynulliad o gylefe y bwrdd, dyma fel y canodd Trebor Aled:- DAW FE DDAW! Daw'r llygad gloyw Dremia'n glir I'r llwch a'r lludw Cyn bo hir Daw'r gwyneb hyfryd Swyna'r llu j I gleidir oerllyd Daear ddu I Daw'r tafod arian Swynol, drud, I'r gweryd aflan, Pydra'n fud! Daw'r glust wrandawgar Deneu, glir, Yn angau'n fyddar Cyn bo hir I Daw'r llaw wna'n gelfydd Gywrain waith, I'r segur-lonydd Fynwent laith. Aniwall fynwent I Cais o hyd I Cofleidia dalent Loywaf byd. Llansarman. Trebob Aled. Daw, daw, fe ddaw'r oil i ben ryw ddiwrnod ebe'r Hen Domos," ac y mae clywed am yr hen gymeriadau yma yn myn'd o un i un yn gwneyd i ddyn fyn'd i feddwl yn ddifrifol." Gyda Haw, gadewch i mi" ebe H. J., eich llon- gyfarch ar yr erthyglau a gyhoeddwch o bryd i bryd ar yr Hen Lundeinwyr' yma. Mae ca.el personau fel Mr. Roberts, Oanonbury, i roddi eu hadgofion yn ddyddorol iawn, a hyderaf y ceir nifer fawr o honynt o hyn i'r gauaf, oherwydd bu llu mawr o Gymry glew yma cyn i chwi a minau, Mr. Gol., wneyd ein hym- ddangosiad." Wedi yohydig drafodaeth ar y gwyliau, dygwyd y cwrdd i ben, ac adda,wodd nifer o'r cyfeillion anfon gair o'r hen wlad a hanea eu teithiau yn ystod yr wythnosau dyfodol.
Advertising
j The' Principality' Note. I 0 Q) t::S ft œ 0 8 CD a'1 r "t:1 t-'1 'f a> CD toot Q) tt1 0 E-I To be obtained only of SEND FOR ESTIMATES. Wholesale and Retail Stationer, Pointer & Account Book pake*, W. ISACKE, Milk Ledgers, and Round Bookg, Pa.93 Book Lettered on side from 2s. 6d. per dozen. 2", Edgware Rd., W.
GWILYM PENNANT YN EI FEDD.…
haul a llygad goleuni, gan ei weinidog y Parch David Charles Jones. Dyma ei fedd rhif 26,356. Safai' Cwcwll' a Risiart Maldwyn,' Mr W R Evans, D R Jones, James Jones, G Jenkins, D J Pritchard, G Davies, J T Davies, ei weddw, a'i chwaer Catrin, ac ereill, yn gylch cyfrin o gwmpas ei fedd pan ollyngwyd Gwilym Pennant i lawr i fro y meirw. Darllenai yr haul y geiriau hyn ar ei arch yng ngwaelod y bedd :— WILLIAM POWELL, Bu farw Gorphenaf 16eg, 1902, Yn 71 oed. Ei eiriau olaf wrth yr ysgrifenydd oedd y rhai hyn Mewn coffin cul o bren ca'i fod, Heb allu symud Haw na thro'd, A'm corff yn llawn o bryfaid byw, A'r enaid bach lie myno Duw." Mor wir onide Claddwyd ei rieni yn Llan- fihangel-y-Pennant a Gwilym yn Nunhead. A oes cwrdd tudraw i'r afon ? Nodded Duw fo dros ei weddw fu mor ffyddlon iddo ac hefyd dros ei chwaer, a'i blant, a man fechan ei fedd. AWEL Y GLYN.