Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutulr Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeutulr Ddinas. Yn ol pob argoelion bydd Awst gfed yn ddydd gwyl eto yn Llundain ond gan y bydd llawer ar eu gwyliau ni fydd o gymaint niwed i fasnach. # Nid oes ond ychydig o eisteddfodau Ileol eleni i dynu'r Llundeinwyr i lanau mor Cymru. Ychydig- flynyddau yn ol, nid oedd dim ond eisteddfodau i'w cael ymhob llan a thref, ond bellach y mae eu nifer wedi lleihau yn fawr. Bwriada pobl Llangeitho wneyd eu gwyl hwy yn atdyniadol ar wythnos y gwyliau-yr wythnos gyntaf yn Awst; a chan y bydd diwrnod y coroni ymhen deuddydd neu dri ar ei hoi, priodol iawn ei gelwir yn "Eisteddfod Gcronog." *■ Fe gollodd Cymry Llundain hen gymeriad poblogaidd ym marwolaeth Gwilym Pennant. Yr oedd yn mynychu y cyrddau Uenyddol a'r gwahanol eisteddfodau yn dra fTyddion, ac yr oedd pawb yn ei hoffi am ei ddonioldeb a'i wreiddiolder barddonol. < Ym mynwent Llancynfelyn, ger y Borth, y claddwyd gweddillion y Parch. Evan Jones- diweddar ficer St. Benet-dydd Iau cyn y diweddaf. 'Roedd torf fawr wedi dod ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, a'r prif alarwyr oedd ei fab Mr. R. E. Jones, a Mrs. Bradford ei ferch. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Evans, ficer Llanfihangel, ac ereill, 0 « Un o efrydwyr Coleg St. Bees ydoedd y diweddar Evan Jones, ac er nad yn ysgolor mawr yr oedd yn bregethwr hynod o gymer- dwy. "Mid o id! Ilisver o ol pirotoai ar ei bregethau, ac, fel rheol, traddodai hwy heb bapyr gyda chryn dipyn o hwyl cyn tynu tua'r terfyn. Yt oeld weii cyrhaedd ei 70 mlwydd o oedran, ac yn ystod ei arosiad yn Llundain yr oedd wedi llwyddo i enill swm helaeth o gyfoeth y byd hwn. w Bu Mr. Balfour yn siarad yn ardal Fulham ddydd Sadwrn diweddaf. Hon ydoedd ei araeth gyhoeddus gyntaf ar ol caei ei ddyr- chafu i fod yn Brifweinidog. Wrth ei glywed yn siarad, gallesid meddwl ei fod yn myned i wneyd melin ac eglwys o waith y Senedd cyn diwedd y flwvddyn nesaf. Mae yntau, fel pob swyddog newydd arall, yn meddwl y daw a'r cyfan i'w le drwy siarad yn unig. Druan o hono, fe gaiff agoriad ilygaid cyn bo hir. » Ail-ddechreuir y parotoadau ynglyn a gwyl y coroni yn ardal Westminster eto. Os na ddaw rhyw anffawd arall, fe wneir cais i goroni Iorwerth ar y gfed o'r mis nesaf. Ni fydd y bobl mor anturiaethus y tro hwn, ond hwyrach y gwneir cryn rialtwch ar y noson hono os bydd yr awdurdodau yn Hac eu rheolau. Dyma fel y canodd awen (t Cwcwll pan glywodd am farwolaeth sydyn ei hen gyfaill awengar, Gwilym Pennant. Bu "Cwcwll ac yntau yn ffryndiau am ddegau o flynyddoedd, a chwith gan yr hen fardd oedd colli cyfaill mor ddiddanus :— GWILYM PENNANT. Pwy hunodd, ai Gwilym Penuant-paraidd Fardd parod adloniant ? Angau oer ag ing ei warant Heddyw do, ddistawodd ei dant. Dyrwyfa gofid rhyfedd-a miniog j I'n mynwes o'r ceufedd 0 wlad y boen yng ngwaelod bedd, j Y mae y dewr yn mud orwedd. Drwy holl adwyfch ei drallodion-y rhodiodd I rydiau yr afon, Aeth ef ar-ymohwydd ei thoa—wedyn rhydd Fawlgan newydd i'r nefol ganeuon. CWCWLL. < Dymunwn alw sylw ein darllenwyr at yr Ysgol Ganolraddol a hysbysebir yn ein col- ofnau yr wythnos hon. Mae yn hen ysgol sydd wedi rhoddi cychwyniad llwyddianus i ugeiniau o fechgyn a merched i'r colegau yn Rhydychen a Chaergrawnt a manau ereill, a gwneir trefniadau arbenig at roddi addysg fasnachol ar raddfa helaeth yn y lie. Rheolir yr ysgol gan Gymro o sir Aberteifi, ym mherson Mr. D. Harries. Mae Miss B. Hamer Jones—y typewriter— wedi trefnu i agor swyddfeydd helaethach yn 59, Chancery Lane. Drwy hyn hydera droi allan gyda phrydlondeb bob math o waith ysgrifenu a ymddiriedir iddi. Gall wneyd y gwaith yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd yn bleser ganddi anfon y manylion ynglyn a'r prisiau i'r sawl sydd a gwaith o'r fath i'w roddi allan. Enillodd Mr. Hywel Owen, rnab Mr. a Mrs. W. Lloyd Owen, 25, Kyverdale Road, Stam- ford Hill, ysgoloriaeth am dair blynedd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychain. Dymunwn i'r gwr ieuanc gobeithiol hwn wir lwyddiant i ddringo llethrau mvnydd uchel gwybodaeth a rhinwedd. Excelsior, Hywel » Gorphenaf 1ge9, bu farw Mr. Rees, Cefn- foelallt, Llanfair Clydogau, sir Aberteifi, arol agos i ddwy flynedd o gystudd caled drwy y cancr y tufewn iddo. Claddwyd ef ddydd Mercher diweddaf yn Llanfair ynghanol ar- wyddion o barch yr ardalwyr i gyd. Yr oedd yn ddyn tawel, hynaws, caredig, yn weithiwr caled drwy ei oes, ac yn ffvddlon i grefydd yng Nghapel Mair, Llanfair. Gadawodd weddw a phlant i alaru ar ei ol. Mab iddo ef yw Mr. William Rees, 57, New Park Road, Brixton Hill. Boed nodded nef dros ei weddw a'r teulu. Gweinyddwyd yn yr ang- ladd gan amryw weinidogion o'r gymydog- aeth. 11 Yr oedd efe yn wr da ac yn ofni Duw yn fwy na llawer." # Parhau yn wanaidd braidd y mae iechyd Mrs. Prytherch-priod y Parch. S. E. Pryth- erch, Falmouth Road. Hyderwn yn fawr y caiff adgyfnerthiad cryf yn y wlad yr haf hwn. Cydymdeimlir a Mr. a Mrs. Prytherch gan Gymry y dref. <t < Lion genym weled Miss S. E. Jones, merch y diweddar Mr. Griffith Jones, Chelsea, wedi dychwelyd o'r America (lie y bu yn teithio am amryw fisoedd) ac yn edrych mor dda. Drwg fydd gan ein darllenwyr ddeall am farwolaeth Blodwen Gwladys-merch fach Mr. a Mrs. John Gay, 85, Berwick Street. Geneth fach hawddgar, gobeithiol a hoffus gan bawb o'i chydnabod oedd hi; ond Duw a welodd yn dda i'w chymeryd ato Ei Hun. Claddwyd hi ddydd Mawrth diweddaf yn Hendon Park Cemetery, a chafodd gladded- igaeth parchus iawn. Cydymdeimlir yn fawr a.'r teulu yn eu trallod. Nodded Duw fyddo arnynt yn eu hawr dywyll. # Mae Temlyddiaeth Dda eto yn fyw, a barnu oddiwrth gyfarfod blynyddol Teml Wilton a gynhaliwyd nos lau, Gorphenaf yr 17eg. Er nad yw y Demi ond biwydd oed, y mae ei haelodaeth yn rhifo dros 70 eisoes, ac yn myned ar gynydd o hyd. Hyderwn y gwna eglwysi ereill ddilyn esiampl Wilton Square a chychwyn temlau cyffelvb. Ar hyn o bryd, hon yw yr unig Demi Gymraeg yn Llundain. j Adeg y pleserdeithiau yw hon, ac nid oes un man mwy dymunol ar y tywydd poeth yma na than ganghenau cysgodol coed glanau'r Dafwys. Y dydd Sadwrn o'r blaen bu Cor Merched y Kymric gyda nifer o gyfeillion am wibdaith i ardal Richmond; ac yno, ar lan- erch brydferth, cafwyd prydnawn hapus dros ben. Yr oedd Miss Rees a'i chor o rianod mor llawen a'r eosiaid ar y dolydd ac ar yr afon bob yn ail; a gofalwyd am bryd hyfryd o de iddynt hwy a'u cyfeillion, gan Mr. B. J. Rees yr ysgrifenydd a Mr. Caleb John. Nid oes neb yn fwy debyniol yn ein cynull- iadau Cymreig na Phencerdd Gwalia a'r Delyn Aur. Y noson o'r blaen yr oedd yng nghwrdd clebran y Cymmrodorion mor hoyw ag erioed, a'i fysedd yn tynu mel o'r tannau man," er mawr foddhad y dorf oedd yno. Boed iddo flwyddi lawer eto i wasanaethu ei genedl a'r gelf y mae mor hoff o honi.

Advertising