Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
EISTEDDFOD BANGOR.
EISTEDDFOD BANGOR. Y mae Cadfridog yr Anrhydeddus T. L. James (cyn Bostfeistr Cyffredinol yr Unol Dalaethau), wedi ysgrifenu i ddyweyd ei fod igyda phleser yn derbyn gwahoddiad y pwyll- gor i ddyfod i'r Eisteddfod a llywyddu dros an o'r cyfarfodydd. Bwriedir anfon gwahodd- iad hefyd i'r cynrychiolwyr Celtaidd o'r Iwerddon, Uchel-diroedd Ysgotland, Ynys Manaw, Cernyw, a Llydaw, ac yn neillduol i sicrhau gwasanaeth y "Scotch pipers;" a dealtwn y gwneir ymdrech i gael Miss Jessie MacLachan, y gantores Geltaidd flaenaf yn yr Uchel-diroedd, yr hon dderbyniodd orch- ymyn i ganu o flaen y ddiweddar Frenhines Victoria ar amryw achlysuron. Y mae rhestr yr ymgeiswyr am farddon- iaeth, rhyddiaeth, a cherddoriaeth fel y <:anlyn Testyn y gadair, deg o ymgeiswyr; y goron, Mnarddeg; telynegion, dau ar hugain cadwen o englynion, dau ar bymtheg gwawdodyn hir, dau ar hugain; englyn 59; drama, ped- war; prif draethawd, pump; I Huw Morris, pump; 'Hanes unrhyw blwyf yng Nghymru,' 10; 'Traethawd beirniadol ar Daniel Owen,' saith; tair stori Seisnig, un ar bymtheg; tair stori Gymraeg, deg traethawd Inigo Jones/ pedwar; cyfieithiadau-Saesneg i Gymraeg, naw; Ellmynaeg i'r Gymraeg, tri; Cymraeg Saesneg, wyth j cantawd ddramadyddol, dau anthem Gymreig, dau ar bymtheg pedwar- ,a awd linynol, un unawd bass Cymraeg, pedwar.
Y CORONIAD. I
Y CORONIAD. O'r diwedd, y mae hysbysiad wedi ei roddi y cynhelir y Coroniad mor gynar ym mis Awst ag sydd bosibl. Nid yw'r dyddiad wedi ei benodi yn sicr eto, ond digon tebyg mai Thwng yr 8fed a'r 12fed o'r mis y cymer Ie. Ni fydd y seremoni yn un feichus iawn, yn ot ,pob hanes, a gwneir yr oil mor esmwyth ag y gellir fel ag i osgoi rhoddi dim caledwaith ar y Brenin ei hunan. Fe geir math o orym- daith fer i'r Fynachlog ac yn ol, ond nis eir ar y daith fawr a fwriadwyd ar draws Llun- dain. Byddai hyny yn ormod o dasg i'r Brenin, a rhaid, am rai misoedd yn awr, adael iddo ef fod mor llonydd ag sydd modd. Hyd yn hyn, y mae ei wellhad wedi bod yn irhagorol, ac os bydd y cynydd yn y dyfodol mor dda, diau y gall yr wyl gymeryd lie tua'r '.9fed o'r mis nesaf.
Y GWYDDEL A'I LENYDDIAETH.
Y GWYDDEL A'I LENYDDIAETH. Yn ol pob hanes, y mae ein cefnderoedd (y 'Gwyddelod) wedi dod o hyd iddynt eu hunain yn yr adfywiad ar eu nodweddion cenedl- aethol sydd yn myned ymlaen yn eu mysg y 'blynyddau hyn. Yr oeddynt yn wladgarwyr ;penboeth o'r blaen, ond iaith Lloegr a chref- ydd Rhufain oedd ganddynt. Am ryw ys- baid eto deil yr olaf ei gafael yn dyn am danynt; ond y mae'r iaith Geltaidd a ddefn- yddiai eu hynafiaid am ganoedd os nad miloedd o flynyddau yn cael ei hadfer i'w ilafar a'u lien. Siaredir hi yn fwy cyffredinol o ddydd i ddydd ar yr aelwyd, dysgir hi yn yr ysgolion a'r colegau, ac mae'r defnydd a wneir o honi mewn llenyddiaeth wedi cyn- ydduyn ddiweddar ar y ganfed. Argreffir .<lau newyddiadur yn gyfangwbl yn y Wydd- .elaeg, yn y rhai y ceir erthyglau teilwng o brif newyddiaduron y deyrnas; tra y cynwys llu o bapyrau newyddlon ereill golofnau o'r hen iaith frodorol. Y Ilynedd cvhoeddwyd chwarter miliwn o lyfrau a llyfrynau gan Bwyllgor Cyhoeddi un Gymdeithas, ac y maent, medd yr adroddiad, bron i gyd wedi eu gwerthu. Un o arwyddion yr adfywiad ydyw sefydliad yr Oireachtas-copi o Eis- teddfod y Cymry, a'r sylw a'r ffafr a en- illodd eisoes ymysg y werin-bobl a'r uchel- wyr. I Yn wir, y mae'r Gwyddel yn prysur efel- ychu y Cymro, ond yn llawer mwy gydunol. Y politician Gwyddelig ydyw gelyn penaf yr adfywiad hyd yn hyn myn ef, yn ol ei ddull arferol o resymu, mai ystryw y Die Sion I Dafyddion i dynu sylw y bobl oddiwrth eu cwynion politicaidd ydyw'r symudiad llenyddol newydd. Hyderwn y caiff fyw i weled y bydd yr effaith yn hollol i'r gwrthwyneb. Nid oes ond byr amser er pan oedd seneddwyr Cymru yn elynol i lenyddiaeth Cymru heddyw y mae yn eu mysg ei chyfeillion goreu.-Y Gymro.
Advertising
Tie Principalitu Notei 0 C,) m a:> 00 ..p "oJoI P'" o PJ z ::= 41 S. 8 '(1) CJq rJl I-t (3) pq g5 i-t C) td 0 8 To be obtained only of SEND FOR ESTIMATES. Wholesale and Retail Stationer, Printer & Account Book leaker, W. ISACKE, Milk Ledgers, and Round Books, Pass Book 0 Lettered on side from 2s. 6d. per dozen. 211, Edgware Rd., W. A TRIAL ONLY NEEDED. ALL Persons suffering with VARICOSE VEINS, BAD LEGS, and the like complaints should send for a. bottle of "VARICUKA" (Registered) THE NEVER-FAILING REMEDY. Full directions given with each Bottle. TO BE HAD ONLY OF THE PROPRIETRESS- Mrs. M. THOMAS, Ardwick Villa, Builth Wells, AND R. L., 4, Creighton Road. Queen'sliPark, London, W. IN BOTTLES AT 2/3 each, or by Post, 2/9 Testimonials received from all parts of England and Wales. Ar y Gwyliau! Llyfrau i'w Darllen. "HEN DDEWINIAID CYMRU" (GAN PENARDD). Yn Hawn straeon am yr hen ddewinwyr Cym- reig, ynghyd a'u hanes, wedi eu casglu o hen lawysgrifau a llyfrau anghyhoedd. Pris 6/- (Nis argraffwyd ond 50 o gopiau o'r gwaith) » GWEITHIAU ELFED. YN GYMRAEG. Cofiant Dr. Herber Evans 3/6 (nett) Planu Coed a Phregethau Ereill. 3/6 Caniadau Elfed, Cyfres I a 2, 1/- yr un: wedi eu cydrwymo, 3/- Athrylith Ceiriog, ll- YN SAESNEG. Life of Dr. Herber Evans (Hodder & Houghton 6/-(4/6). Sweet Singers of Wales (Religious Tract Society 2/6. I My Christ and other Poems, 2/- (cloth), A few copies only remain. STORIAU CYMRAEG GAN W. LLEWELYN WILLIAMS, B.C.L. Y Storiau mwyaf darllenadwy sydd eto wedu ei hysgrifenu yn nhafodiaith y Deheudir." GWILYM A BENNI BACH PRIS SWLLT. Cyhoeddedigfgan HUGHES a'i FAB, Gwrecsam. <1 Hanes dau o'r cymeriadau mwyaf doniol a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin erioed. Y mae yn werth ei darllen." GWR Y DOLAU NEU FFORDD Y TROSBDDWE. PRIS SWLLT. Cyhoeddedig gan GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL, GYMREIG, CAERNARFON. I'w cael yn Llundain gan W. H. ROBERTS, [0, CECIL COURT, CHARING CROSS RD. i
HEN LUNDEINWYR ENWOG.
sgyda'r Feibl Gymdeithas; ac, hefyd, efe .oedd yr un cyntaf yn Rhuthyn, a roddodd ergyd i'r hen arferiad o offrymu mewn cladd- edigaeth, a hyny ar achlysur claddedigaeth ,ei ferch fechan-ei gyntaf-anedig "^Gadawodd Rhuthyn am Lundain yn 1847, -fel cenhadwr ymhlith yr luddewon ac fel ■Cenhadwr Iuddewig, mae'n debyg, yr adnab- jtr ef oreu. (Viu orphen yn y nesaf).