Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HEN LUNDEINWYR ENWOG.

News
Cite
Share

HEN LUNDEINWYR ENWOG. PARCH. JOHN MILLS. 1812-1873. [GAN MR. L. H. ROBERTS, CANONBURY.] Er na chyrhaeddodd John Mills boblog- rwydd ei gyf-oedion yn Llundain-sef Owen Thomas, David Charles Davies, ac ereill- eto, gellir dyweyd ei fod, mewn llawer ystyr, yn rhagori arnynt oil. Er ei fod yn bregethwr cymeradwy, a phob amser yn dda, eto, ni chyrhaeddodd yr un enwogrwydd a hwynt; ond fel lienor, yr oedd yn tra rhagori arnynt. Er, efallai, nad oes un o'i weithiau Cymreig i'w gymharu a Chofiantau Owen Thomas; eto, yr oedd ei lafur llenyddol yn fwy, a bydd 61 y llafur hwnw yn aros tra pery yr iaith. Yr oedd ei lyfrau'n benaf yn fath o handbooks," llyfrau elfenol mewn cysylltiad â cherddoriaeth yn fwyaf neillduol, ac hefyd rai ysgrythyrol, Mae ei Berl Ysgrythyrol yn un o'r llyfrau goreu, ac yn gynorthwy nid bychan i'r efryd- ydd ysgrythyrol. Yn nhref Llanidloes ar lan yr Hafren- tref hynod mewn llawer ystyr-y ganwyd ef, ary i2fed o Ragfyr, 1812. Yr oedd ei rieni yn byw yn agos i westy a elwid The Old Swan"—ond yr oedd wedi peidio a bod yn westy yr adeg hono—ac y mae'n debyg mai oddiwrth y lie yma y cymerodd Mr. Mills ei enw barddonol, "Ieuan Glan Alarch." Yr oedd ei deulu yn un hynod, oblegid tarddodd cerddorion enwocaf ein gwlad allan o hono. Ei dad, Henry Mills, ydoedd tad tylwyth y Millsiaid yn Llanidloes, yr hwn, yn ol pob hanes, a feddai lais Ilawn, peraidd, a threiddgar. Eniliwyd sylw Tomos Charles gan lais a dawn canu Henry Mills, a pherswadiodd y swydd- ogion eglwysig i'w alw i'r swydd o arwain y canu. Daeth ei achos i'r Cwrdd Misol, a chadarnhawyd ef yn y swydd ganddynt hwy. Byddai yn myned oddiamgylch i ddysgu canu, ac yn dilyn y cyfarfodydd a'r sassiynau gan arwain y canu ynddynt. Mab i Henry Mills oedd James Mills yr hwn a ddilynodd ei dad fel arweinydd y canu yn Llanidloes, a mab iddo ef oedd yr adnabyddus Richard Mills— yr hwn oedd nid yn unig yn enwog fel athraw cerddorol, ond hefyd yn arweinydd medrus ac yn gyfansoddwr enwog. Efe gyfansoddodd yr anthem "Duw sydd noddfa." Yn ychwan- egol at hyn, yr oedd yn fardd o fri, ac efe enillcdd ar y farwnad i Dr. Owen Pugh yn Eisteddfod Llanidloes; ac yr wyf yn deall fod mab iddo ef yn aros eto, ac yn adnabyddus fel arweinydd medrus cymanfaoedd canu. Felly, nid rhyfedd fod John Mills yn gerddor mor fedrus. Gweddol o ran eu hamgylchiadau ydoedd rhieni John Mills. Yr oedd ei dad, Edward Mills, yn ddyn darllengar, ac yn hoff o'r iaith Gymraeg, yn gymaint felly fel nad oedd ganddo yr un llyfr Saesneg (oddigerth ychydig lyfrau meddygol, canys yr oedd yn boblogaidd fel meddyg esgyrn) a Duwinydd- iaeth oedd ei hoff efrydiaeth. Yr oedd mam John Mills yn wraig fywiog, serchog, a gwir grefyddol; ac, meddai Mr. Mills ei hun, ni chlywodd ef neb yn canu cystal a'i fam, yr oedd llais mor rhagorol ganddi; ac fe lwydd- odd i raddau helaeth i ddwyn ei mheibion i fyny yn grefyddol. Daeth un o honynt yn seryddwr gwych ac yr oedd y mab ieuengaf Richard Mills-yr hwn a fu farw yn ddi- weddar-yn lienor gwych, ac am flynyddau lawer bu yn un o flaenoriaid mwyaf ei allu a'i ddylanwad yn Llanidloes, ac yr oedd yn hyn- afiaethydd rhagorol. Ymddangosodd erthygl 9 lel- arno yn y Traethodydd, gan ei weinidog- Mordaf (Thomas Pierce).—Rhoddodd rhieni Mr. Mills yr addysg oreu ag oedd yn eu cyrhaedd iddo. Mrs. Cleaton oedd ei athrawes gyntaf, yr hon oedd yn un hynod o dirion wrth y plant. Bu gyda hi am ddwy nynedd ond pan yn chwech oed, anfonwyd ef i ysgol gweinidog yr Anibynwyr—Parch. David Wil- liams-yr hon oedd yn ysgol ragorol. Pan yn ddeg oed, symudwyd ef i ysgol gweinidog y Methodistiaid-Parch. D. Williams-a bu gydag ef hyd nes yr oedd yn dair-ar-ddeg oed. Dyna oedd yr oil o ysgol a gafodd. Am ychydig amser dilynodd ysgol nos ei athraw diweddaf. Yr oedd y ddau Williams yn meddwl yn fawr o hono a'i alluoedd, a dang- osodd ei fod yn rhagori mewn dyfalwch, yni, a phenderfyniad di-ildio. Pan yn dair-ar-ddeg oed, prentisiwyd ef yn wehydd, a phan wrth ei waith fel gwehydd y darfu iddo ddysgu cerddoriaeth. Ar ol cael hyd i weithiau Cymreig ar y gelf hono, yr oedd llyfr yn ei law bob amser, ac yr oedd wedi dyfeisio rhyw fath o ffram i ddal ei lyfr tra yr oedd yn gweithio y peiriant weuol, a ffram arall i ddal ei lyfr tra yn ei wely y nos. Ei brif lyfrau oeddynt, gweithiau Dr. Owen, Geiriadur Tomas Charles, Gorphwysfa y Saint," a gweithiau Gurnal, ac, meddai ef ei h., y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arno ef oedd 11 Todd's Student's Guide (pa un, wedi hyny, a gyfieithodd i'r Gymraeg). Gwnaeth astudiaeth drwyadl o hono, a dysgodd iddo lwyr lywodraethu ei hun. Yr oedd, yn natur- iol, o dymher afrywiog a gwyllt, ond gorch- fygodd ei hun yn lan, ac hyd ddiwedd ei oes yr oedd ganddo berffaith feddiant arno'i hun, ac ni chafodd neb gyfleustra i'w gyhuddo o wylltineb. Daeth yn un o'r Ilareiddiaf a'r mwyaf o ddynion. Tua'r amser hyn, yn benaf, trwy ddarllen Esboniad Peter Williams a chanfod brawddegau Lladin a Groegaidd, daeth i astudio yr ieithoedd hyny, gan ddyfod yn hyddysg iawn ynddynt. Gyda llafur, daeth yn un o ysgolorion goreu ei ddydd yn yr Hebraeg, a hyny heb yr un cynorthwy gan athraw, oddigerth rhyw Iuddew oedd yn ei adnabod. Oddeutu'r amser yma y daeth i deimlo argraffiadau crefyddol gyntaf," yn benaf trwy offerynoliaeth ei fam, a dyfnhaodd ei argraffiadau drwy efrydu duwinyddiaeth. Byddai y syniad ei fod i fyw byth-i fodoli am Ndragwyddoldeb," medd ei fywgraffydd, bron a'i lethu weithiau; ond ymlonyddai yr ystorm yn ei feddwl wrth gofio fod Iesu Grist yn fath Gyfaill i bechaduriaid." Pan oddeutu tair-ar-ddeg oed y cyfansoddodd ei benill cyntaf:— 0 ddyfnderoedd iachawdwriaeth, 0 ddyfnderoedd Tri yn Un Darostyngiad y Jehofa Gymrodd arno natur dyn Yn y nefoedd fe fydd canu A rhyfeddu yno byth Am Iddo fyned ar y Croea-bren I gadw tyrfa rif y gwlith. Nid oedd ei dad yn proffesu crefydd y pryd hyn, a gwnaeth y fam i'w mhab John gadw dyledswydd deuluaidd, pa arferiad a gadwodd bron yn ddifwlch hyd ddiwedd ei oes. Y mae yn am], yn ei ddydd-Iyfrau, yn cyfeirio at y pleser yr oedd yn ei fwynhau amser y ddyledswydd, hwyr a boreu, ac yr oedd yn canu bron bob amser. Humphrey Gwalchmai oedd yn weinidog yn Llanidloes ar y pryd, ac yr oedd yr hen bobl yn arfer dyweyd mai y tebyca i Mr. Gwalch- mai oedd John Mills. Yr oedd nodweddion pregethwrol y naill a'r Hall yn bur gyffelyb i'w gilydd. Gwnaeth Mr. Gwalchmai i John Mills lafurio gyda'i ysgolion Sabothol. Yr oedd deuddeg o honynt yn y dref a'r cylch y tuallan, ac yr oedd pob dyn ieuanc o allu a chymhwyster yn cael ei osod mewn gwaith a cysylltiad a'r ysgolion hyn, a gwnaeth hyny gyda'r egni a'r brwdfrydedd a'i hynodai gyda bron bobpeth a ymaflai ynddo. Yr oedd dosbarth duwinyddol yn cael ei arwain gan Mr. Gwalchmai, ac yr oedd John Mills yn un o'r rhai blaenaf a mwyaf llafurus ynddo. Yn gyd-aelod ag ef yr oedd y di- weddar Edward Morgan, Dyffryn, un o'r pregethwyr mwyaf seraphaidd fagodd Cymru erioed. Ac yn y dosbarth hwn y dangosodd John Mills ac Edward Morgan y galluoedd a'r talentau disglaer a hynodwyd hwy'n ystod eu hoes. Mr. Morgan, yn ddiau, oedd yr areith- iwr mwyaf medrus a'r siaradwr mwyaf parod, ac yr oedd Mr. Mills bob amser yn barod i gydnabod hyny. Yn y dref, ar yr un pryd, yr oedd Cymdeithas Lenyddol, neu Gymdeithas Gymroaidd, o ba un yr oedd Mr. Mills yns aelod, a gwnaed ef yn ysgrifenydd iddi pan? yn 17 oed. Yn aelodau o honi yr oedd J. Jones, Idrysyn (gweinidog adnabyddus gyda'r Bedyddwyr); Roberts, Tredegar; T. Griffiths- (pregethwr lleol, galluog, gyda'r Wesleyaid),. ac amryw ereill a ddaethant yn ddynion defn- yddiol ac enwog ar ol hyny. Mae hanes y Gymdeithas yma wedi ei anfarwoli yn y Traethodydd, flynyddau yn ol, o dan y teitL Gwyr Ieuainc Llanllenorion." Tra yr oedd yn aelod o'r gymdeithas hon, dechreuodd ysgrifenu i'r wasg dan y ffugenw, "Ieuan Glan Alarch." Anfonodd ei gynyrchion bardd- onol i'r Gwladganor, ac ysgrifenodd, hefyd, i'r Drysorfa ar Bechadurusrwydd dyn." Yn 1838 y dechreuodd ar ei waith cy- hoeddus, yn benaf, mewn cysylltiad a cherdd- oriaeth. Cymerodd daith trwy siroedd Aber- teifi, Caerfyrddin a Morganwg, gan ddarlithio ar gerddoriaeth ac areithio ar ddirwest. Sef- ydlodd gymdeithasau cerddorol, ac efe a, ddysgodd gerddoriaeth gyntaf i Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion); ac yn y flwyddyn hon y cyhoeddodd ei Ramadeg Cerddorol "-y cyntaf o'r fath a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg. Cafodd gylchrediad pur helaeth, a chafwyd pedwar o argraffiadau o hono. Yn mis Mai (1838) ymbriododd a Miss Lewis o Lanidloes, ac yn yr Hydref o'r un flwyddyn, dechreuodd bregethu, gam bregethu ei bregeth gyntaf mewn capel bychan yn Mynydd Sychnant, gyda'r Parch. D. Williams, ei athraw. Cyhoeddodd yn y* flwyddyn hon Hyfforddwr yr Efrydydd," sef rhydd-gyifeithiad o 'Todd's Student's Guide." Daeth hwn yn lyfr poblogaidd, gan enilliawer i fod yn efrydwyr, ac o ganlyniad yn gredin- wyr. Yr oedd gan Mr. Mills ei hun feddwfc mawr o hono, a dywedai ei fod wedi cael tystiolaethau lawer o'r lies a dderbyniwyd, drwyddo. Cyhoeddodd, hefyd, tua'r adeg yma, y Geirlyfr Ysgrythyrol," a rhai blyn- yddoedd wedi hyn, Y Perl Ysgrythyrol," yr hwn a gafodd ledaeniad lied helaeth—pedwar o argraffiadau. Amcan y llyfr oedd dwyn yr efrydydd i gael golwg eang a chyflawn ar yr holl Feibl, a'i ddysgu i beri i'r Beibl es- bonio ei hun. Vn 1840, tynwyd ef i fewn i'r ddadl fawr ar" Natur Eglwys" rhwng Dr.. Edwards y Bala ac S. R., Llanbrynmair. Yr achos oedd araeth Dr. Edwards ar Natur Eglwys mewn cyfarfod ordeinio yn y Bala.- ymha un y ceisiodd ddangos rhaporoldeb ac; ysgrythyroldeb trefn eglwysig y Methodistiaid ar y drefn Gynulleidfaol. Atebwyd ef yn gas ac yn haerllug mewn traethodyn arall gan S. R.; ond ni wnaeth Dr. Edwards unrhyw sylw o hono. Pwy ddaeth ymlaen ond Mr.- Mills, ac atebodd ef yn yr un dull ond yn llawer mwy galluog, ac os nad wyf yn cam- gymeryd, Mr. Mills gafodd y gair diweddaf. Yn 1841 derbyniodd wahoddiad i fyned i, fugeilio eglwys Rhuthyn, ac yr oedd Mr. Mills yn un o'r bugeiliaid cyntaf gyda'r Meth- odistiaid yn y lle, ac arosodd yno hyd yr adeg y derbyniodd alwad i fyned yn genhadwr i fysg, yr luddewon, sef yn 1846. Yn ystod ei arosiad. yn Rhuthyn, cychwynodd gylchgrawn newydd misol, sef y Beirniadur Cymreig. Yr oedd y rhan fwyaf o'r ysgrifau wedi eu darparu^ ganddo ef ei hun, yn eu mysg rai ar lenydd- iaeth ysgrythyrol a thraethodau medrus: y rhai a gyfrifid yn wir alluog, a dywed ei fywgraffydd nad oes dim yn yr iaith Gymraeg; yn dynoethi ysbryd ag egwyddorion defod- aeth yn fwy effeithiol na'r hyn a geir yn yr ysgrifau yma; a da pe buasent yn cael ew hail-argraffu y dyddiau hyn. Mae amddiffyn- iad Mr. Mills i athrawiaethau sylfaenol y Diwygiad Protestanaidd yn rhagorol os nad yn anatebadwy. Tra yn Rhuthyn casglodd a chyhoeddodd y "Cerddor Eglwysig "—y casgliad cyntaf yng- Nghymru, yn hollol at wasanaeth y Method- istiaid crefyddol. Ysgrifenodd, hefyd, ddwy erthygl i'r Traethodydd ar ganu mawl. Yr oedd ei arosiad yn Rhuthyn yn dra phrysurr gan ei fod yn cymeryd rhan bwysig mewi^ • materion gwleidyddol a threfol, yn frwdfrydig: