Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
HHBsnnanBnnHHnHHR i HUGH DAVIES'S I COUGH MIXTURE NO MORE Difficulty of Breathing. NO MORE Sleepless Nights. NO MORE Distressing Coughs. I DAVIES'S COUGH MIXTURE for COTOHS > DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS « DAVIES'S COUGH MIXTURE for ASTHMA I DAVIES'S COUGH MIXTURE for BRONCHITIS DAVIES'S COUGH MIXTURE for HOARSENESS s DAVIES'S COUGH MIXTURE for INFLUENZA ii DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS s DAVIES'S COUGH MIXTURE for SORE THROAT < DAVIES'S COUGH MIXTURE-Most Soothing DAVIES'S COUGH MIXTURE warms the Chest DAVIES'S COUGH MIXTURE dissolves the Phlegm DAVIES'S COUGH MIXTURE—for SINGERS s DAVIES'S COUGH MIXTURE-for PUBLIC DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS THE GREAT WELSH REMEDY. < I3\d. and 219 Bottles. Sold Everywhere. Sweeter than Honey. Children like it. HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. London Agents- Mr. R. THOMAS, Chemist, Upper Baker Street. Mr. H. MORGAN, „ 34, Tavistock Plaoe Mr. EDW. JONES It 232, Kilburn Lane, W CrRBDLIER & SON Welsh Printers, 211, GRAY'S INN ROAD, W-C A Large Staff always ready for all Classes of Work. Y Dyfodol. [tir Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn Khoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ——— Awst. 4. Pleserdaith Cymry Llundain i Hatfield Park. „ 6. Eisteddfod Llangeitho. Tachwedd. „ 6. Cyngherdd a Chystadleuaeth Capel Mile End Road yn y People's falace. „ 19. Swper Goffi Agoriadol Clapham Junction „ 27. Cyngherdd Dewi Sant yn y Queen's Hall. Rhagfyr. j, 17. Swper Goffi Clapham Junction THE LONDON KELT (CELT LLUNDAIN). A. WELSH WEEKLY FAMILY NEWSPAPER EVERY SATURDAY. ONE PENNY. The only Welsh Paper Published in London. Circulates among 50,000 Welsh residents in the Metropolis, and has a large and influential circulation throughout Wales and the Provinces. THE LONDON KELT is a high class Family Paper, and counts among its con- tributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. It is acknowledged as the most Literary of all Welsh Papers. It is an unfque Advertising medium as all its columns are READ. ADVERTISERS obtain highly satisfactory results from the KELT, and continually repeat their orders in it. 'PREPAID WANTS. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. Initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. 0 Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. 12 words; Once 6d. Three times 1/- 20" „ 3d. „ „ 1/3 28" „ t/- „ „ 1/6 36 I, f 1/3 „ „ 1/9 44" » 1/6 „ „ 2/- Every additional 8 words 3d. DAIRY.-Two Young Ladies wanted one to assist JJ in house-work.—Write, J. M. C., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. A PARTMENTS.—A. large Bed-sitting Room to Let, A suit two friends.-14, Qastdrant Road, Canon- bury. DA.IRy.-Young Woman wanted for housework and D assist in shop. Good reference. Apply Evans, 444, Leytonstone Road, Stratford, E. YOUNG Woman wanted, to serve in a Dairy.— Y Apply Williams, 57, New North Road, N. A WELSH Homa in King's Gross, London, for four Welshmen (musical preferred), (piano). Very moderate inclusive terms.-Apply by letter, "Cymraes," Kelt Offioe, 211, Gray's Inn Road, W.C. DAIRy.-Wanted a Young Woman to assist in D Shop, and do little housework.—Apply, 348, Caledonian Road, N. WANTED a Young Woman, from 25 to 30, to take charge of a Milk Shop.—Apply J. J., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C.
CWYMP CHAMBERLAIN.
CWYMP CHAMBERLAIN. Un o'r dynion mwyaf anffodus ym Mhry- dain, heddyw, yw Mr. Chamberlain. Er ei holl yni, ei dalent, ei deulu a'i boblogrwydd, nid oes neb wedi b)d mor anffodus ag efe fel dyn a gwleidyddwr er's amryw flynyddau, bellach. Ar ol maith gynllunio a gweithio yn ddygn am fisoedd a blynyddau ynglyn â gwa- hanol anturiaethau, y mae'n syndod fel y mae rhyw law gadd yn taro pob cwpan oddiwrth ei fin pan ar ddrachtio o'u cynwysiadau melus. Y mae ffawd fel pe wedi gwgu arno, ac yn y gwg hwnw yn ei ddyrchafu bron i ben pob pinacl er mwyn g^vneyi ei gwymp bob tro yn fwy enbyd i'r byd i'w gaifod. Beth sydd i gyfrif am hyn, a phi wers sydd i ni gasglu oddiwrth y digwyddiadau rhyfedd hyn yn hanes y gwr craf fo Firmingham ? Y mae ei ymadawia i a'r blaid Ryddfrydig yn hen hanes, bellach. Eto, y mae un peth yn ddigon tanbaid yn aros ar gof pawb, sef mai prif amcan Mr. Chimberlain, y pryd hyny, oedd cael cefno^aeth gref y wlad fel ag i ffurfio plaid Ryddfrydol o'r newydd, hollol anibynol i ganlynwyr Gladstone. Pe llwydd- asai ei gynllun ar y pryd, a phe bae'r wlad wedi rhoddi'r fath ymidiriedaeth ynddo ag a gredid gan ei gefnogwyr agosaf y gwnelsai, buasai y gwleidyddwr o Firmingham wedi enill y fath fuddugoliaeth a'i galluogai i ar- wain cad anibynol ar lawr Ty'r Cyffredin a hawliai bob gwarogaeth oidiar law y Toriaid a'r Ymreolwyr. Nid oedd ond un canlyniad yn bosibl, sef mai efe fuasai Prif Weinidog Prydain, ac mai Birmingham fyddai canolfan gwleidyddol y byd. w Ond, ow'r siom! Pan ddaeth y blaid fechan yn ol o'r etholiad nid oeddent ond catrawd wan. Llogasant eu hunain i elynion rhyddid, ac yn rhengoedd y blaid hono y maent wedi aros hyd heddyw yn anghartrefol, ac yn cael eu diystyru gan bawb bron. Fe fethodd y brad, a gorfu i Chamberlain gyd- fyw gyda'r teuluoedd y bu yn difrio cymaint arnynt, a chymerwyd iddo amser maith i sef- ydlu yn gysurus yn eu plith. Dro arall, bu yn cynllunio a Cecil Rhodes am feddianu gwlad y Transvaal a gyru yr hen Kruger o'i le. Mae'r stori yn wybyddus i bawb. Cafodd ef ei gadw o'r tu ol i'r prif gymeriadau, ac ar waethaf pob gwadiad y mae'n eglur bellach fod Chamberlain yn gwybod llawer am ruthrgyrch Jameson ond trodd hono yn fethiant truenus, ac yn lie bod yn un i longyfarch yr haid ladronllyd hono ar lawr Ty'r Cyffredin bu raid iddo eu con- demnio yn ymddangosiadol, yr hyn a wnaeth ar ol hir oedi, fel y cofir. Wedi hyny, aeth i ryfel a'r Transvaal, gan feddwl mai ychydig ganoedd o fobl a gawsent eu difetha ac mai ychydig wythnosau o amser a gymerasid i enill y cyfan. Ond, ow'r siom eto Pan yn llawenhau fod rhyfel wedi ei gyhoeddi ac fod ei boblogrwydd ar ei eithafbwynt, wele hanes- ion yn dod am ein gorchfygiad ac am dair blynedd o amser, bu raid i Chamberlain oddef cael ei feirniadu gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Er's misoedd, bellach, yr oedd son fod Salisbury ar ymddiswyddo. Yr oedd pawb wedi penodi olynydd iddo yn Chamberlain. Yr oedd wedi gwneyd y fath lu o barotoadau ynglyn a'r Trefedigaethau gogyfer a'r Cor- oniad, fel mai efe fyddai arwr y dydd. Ni fuasai yr un siawns gan-Balfour o gwbl o flaen y fath berson ag ef. Ond dyma ergyd arall iddo pan ar enill ei gamp! Cwympodd gerllaw Pont Canada-yr hon a adeiladwyd trwy ei gynorthwy-a chyn gynted ag y deallwyd fod ei ddolur mor fawr fel ag i'w gadw yn ei wely am rai dyddiau, wele Salisbury yn ymddiswyddo ac yn penodi ei nai ei hun yn olynydd iddo Ow'r fath g-wymp Ac heddyw y mae Chamberlain yn gorfod cynllunio i ranu yr ysbail yn y man swyddi, tra yn ceisio ymddang-os yn deyrngar i'w lywydd newydd. 0 < Y mae un peth nas croniclwyd genym. Gwr yw Chamberlain sydd wedi gwneyd gwleid- yddiaeth yn fath o hap chwareu. The game of politics" yw'r cyfan iddo ef oddiar yr ymwadodd a'i hen blaid, a bellach ni saif na gwirionedd nac eg-wyddorion ar ei ffordd pan yn ceisio am ei ddyrchafiid ef a'i g-anlyn- wyr gwasaidd. Ai dyna sydd yn cyfrif am ei aflwydd ? A oes Haw uwch yn rheoli y gwr- yma, ac yn dysgu gwers iddo yn raddol am beidio cellwair a rhyddid dynoliaeth. Gwydd- om i Pharaoh gynt orfod dioddef o dan y ¡ Haw hono, ac er mai-hen chwedl feiblaidd yw | yn ol barn pobl fel Chamberlain, feallai fod mwy o genadwri yn yr hen chwedlau hyn nag a freuddwydiodd efe a'i debyg erioed. Peth mawr yw rhyfygu yn erbyn gwirioneddai* bywyd, ac yn sicr y mae yn y digwyddiadajf hyn gyngor a gwers i bawb a aroso i ystyried.