Hide Articles List

6 articles on this Page

YMDDISWYDDIAD SALISBURY.

[No title]

COFGOLOFN I ROBERT OWEN Y…

News
Cite
Share

COFGOLOFN I ROBERT OWEN Y SOSIALYDD CYMREIG. Prophwyd heb ond ychydig o anrhydedd yn ei wlad ei hun ydoedd Robert Owen, y Sosialist." Eto, nid oes yr un Cymro arall ag iddo enw mor adnabyddus a chlodfawr ymhlith cenedloedd ereill y byd. Efe oedd sylfaenydd y cvmdeithasau cydweithredol—y "Co-ops" sydd mor Ilwyddianus a phoblog- aidd ymysg gweithwyr prif drefi Lloegr; ac y mae aelodau y cymdeithasau hyny newydd osod colofn goffa deilwng ar ei fedd ym myn- went y Drefnewydd, sir Drefaldwyn. Yn y dref hono y ganwyd y gwron yn 1771; ac yno y bu farw yn 1858. Daeth cynulliad mawr o bob plaid ac enwad i'r dadorchuddiad ddydd Sadwrn, ac yn yr anerchiadau, rhoed myneg- iad urddasol o'r parch a deimlir gan rai o wyr goreu y deyrnas a'r oes i'r Cymro athrylithgar ac ymaberthol hwn. Iddo ef y perthyn y clod o enyn dyddordeb y cyhoedd yn y wlad hon mewn diwygiadau cymdeith- asol. Nid oes odid unrhyw fudiad dyngarol ac addysgol a gychwynwyd yn y ganrif ddi- weddaf na fu gan Robert Owen ran fiaenllaw yn ei gychwyniad. Gelwid ef gan y bardd Southey yn un 0" brif nerthoedd moesol ei oes." Gelwid ef gan rai yn ddyn o un drych- feddwl. Tecach fyddai dyweyd nad oedd neb yn ei oes a feddai agos gyniter o ddel- frydau ag ef, ac o gynlluniau yrnarferol tuag at eu sylweddoli. Bu penaethiaid y ddaear yn ddisgyblion iddo, a chafodd help tywysog- ion a phendefigfion yn ei ymdrechion. Paham ? Yn sicr, nid am fol gandio gyfoeth, ond am fod ei allu meddyliol, ac yn arbenig ei allu i berswadio ereill, bron yn ddihafal. Aeth cryn nifer o'i gynlluniau yn fethiant mewn rhan a dywed fcrwyr craff mai'r prif achos o hyny oedd fod ynddo duedd i ymddiried yn or- modol i'w gyd-ddynion. Bai, onide; eto, bai urddasoll Owen oedd sefydlydd y fasnach gotwm a ddyry weithian gynhaliaeth i filiynau. Efe oedd y cyntaf i gyffroi'r Senedd i reol- eiddio'r ffactrioedd, lie cyn hyny y gormesid plant a merched fel slafiaid. Efe oedd y cyntaf i ddadleu dros ysgolion i blant ieuainc. Er cymaint ei aidd dros ddiwygiadau, gwr pwyllog a gofalus ydoedd-breuddwydiwr ymarferol, chwyldrowr ymresymol. Nis gellir honi fod Owen yn aiddgar fel Cymro dros hawliau arbenig Cymru. Croesodd Glawdd Off a pan yn llanc, ac ni ddychwelodd nes yr oedd yn henafgwr, Parodd ei syniadau hereticaidd am athrawiaethau crefydd i'w gydwladwyr ei anwybyddu, os nad ei ffieiddio. Bellach, gwelir fod ganddo, gan nad faint ei gyfeiliorn- adau duwinyddol, afael del ar y grefydd bur a dihalogedig gerbron DLlw a'r Tad" y sonia'r Apostol am dani. Daw Cymru cyn hir i gydnabod teilyngiod gwr na fagwyd erioed ei lewach rhwng ei moroedd a'i myiyddau.— (Yr Herald).

DYCHWELIAD YR AFRADLON-

CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION-

HYN A'R LLALL.