Hide Articles List

4 articles on this Page

A8I Byd y fian. j

News
Cite
Share

A 8 I Byd y fian. j Gan PEDR ALAW. [« PENDENNIS," LOUGIITON.] Y mae y gwr y buwyd yn ysgrifenu ychydig yn ei gylch yn y golofn hon, sef Richard Strauss-y cyfansoddwr mawr Ellmynaidd diweddaraf-yn parhau yn destyn ymddiddan, os nad ymryson, yn y wasg Seisnig. Rhai a ymgrymant ger ei fron, ereill a'i gwawdiant o'r bron. Cyhudda y rhai hyn ef o ddefn- yddio cordiau nas gellir eu cyfiawnhau-hyd yn oed i'w ddibenion arbenig ef; hefyd, haerant ei fod yn ceisio gwneyd i gerddoriaeth wasanaethu i bwrpas nas bwriadwyd hierioed. Y mae dadleuon y pleidiau hyn yn ddigon o arwydd o fawredd y cerddor hwn ac megis yr oedd yn amser Richard Wagner, felly y mae, ac y pery am ysbaid yn ddiau, yn hanes Strauss. Y mae pob dyn mawr yn cael ei gam-ddeall, ac ystyrir ef, gan rai, dipyn o'i gof. Y mae y ddadl y cyfeiriwyd ati yn troi o gylch y cwestiwn a all cerddoriaeth offerynol !fesbonio ffeithiau ? A all hi egluro yr hyn fo ym meddwl y cyfansoddwr, a'i gyfleu i'r gwrandawyr? Dywed y mwyafrif nas gall wneyd hyn i foddlonrwydd. Dyweder fod cyfansoddwr yn ceisio desgrifio ymladdfa ar faes y frwydr, a golygu na wyddai y gwran- dawyr ymlaen Haw beth ydoedd neges ei gerddoriaeth, tybiai rhai o honynt fod y dwn- <iwr mawr yn ddesgrifiad o ddaeargryn; neu o swn taranau; neu o ddamwain ar y rheilftlerdd-nis gallent benderfynu i sicrwydd pa ddigwyddiad a gymerai le. Teimlent hwy fod rhoi'r gwaith i gerddoriaeth o egluro ffeithiau noeth yn ormod iddi. Ar ei phen ei iiun, egwan ydyw ond cysyllter hi a iaith y meddwl a'r dychymyg-sef a geiriau-y mae yn gyfryw nas gellir leoli ei therfynau. Dyma ideimlai Wagner, pan na roddai ei holl gen- adwri yng ngofal cerddoriaeth yn unig. Pan y bydd gwybodaeth gerddorol gyffredinol wedi ei dadblygu yn Ilawer mwy nag ydyw ar hyn o bryd, dichon na ystyrir fod Strauss mor feiddgar nac mor amhosibl i'w ddilyn, ag a wneir gan lawer yn awr. Y BACHGEN MASSENET. Yr oedd ei yrfa gerddorol ar y dechreu, fel yr eiddo llawer cerddor o'i flaen, yn llawn anhawsderau. Rhedodd oddicartref pan yn 14 mlwydd oed (yn y flwyddyn 1856). Yr oedd ei dad wedi ei oddiweddyd gan dylodi yn y flwyddyn 1848, ac nis gellid bellach roddi iddo ragor nag hyfforddiant gerddorol ei fam gerddgar; ond teimlai y bachgen ei fod yn faich ar ei rieni helbulus, ac, fel y crybwyllwyd, diangodd o'r nyth gartref. Bu agos iddo a newynu ar y ffordd i Lyons: nid oedd ganddo gymaint a centime yn ei logell, a chysgai y nos yn y caeau. Yn Lyons yr oedd perthynasau i'r teulu, sef ei fodryb a'i ewythr. Wedi cyr- iiaedd eu ty, gosodwyd ef o flaen y tan i gynhesu, a digonwyd ef a photes. Wedi hyny dodwyd ef yn y gwely-lle y gorphwysodd am 26 o oriau Wedi deall y rheswm am y cam a gymerodd, ymgymerodd yr ewythr a'r draul o'i hyfforddiant cerddorol yn Paris. Cymaint ydoedd ei lwyddiant yno, fel y cyn- ygiwyd iddo y swydd o Director yn y Con- servatoire lie y bu yn ysgolor, ond gwrthododd y swydd. Efe ydyw cyfansoddwr yropero Marion," Werther," "La Navarraisc a Le Roi de Lahore." Dywedir fod Mrs. Antoniette Sterling wedi penderfynu i dorri ei chysylltiad a'r llwyfan gyngherddol. Bydd yn canu yng nghyng- herddau y wlad >n ) stod y gauaf a'r gwan- wyn, ac wedi hyny rhydd ffarwel i'r canu cyhoeddus. Y mae Mrs. Sterling wedi bod yn ddistaw yn y cylchoedd cerddorol am ysbaid.

GWIBDEITHIAU CENHADAETH GYMREIG…

MARWOLAETH Y PARCH. EVAN JONES.

Advertising