Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinasm

Advertising

IY BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Dydd Mercher, yn yr wythnos ddiweddaf, priododd Proffeswr T. Rees, Coleg Aber- honddu a Miss Charlotte E. Davies-merch hynaf Mr. Michael Davies, Bridgend. Yng nghapel yr Anibynwyr, Penybont, y cymerodd yr uniad Ie, o flaen nifer fawr o gyfeillion ac ewyllyswyr da. Er's blynyddau, bellach, y mae son wedi bod am godi cof-golofn i Llewelyn ein Llyw Olaf, ond 'does dim ond siarad a son wedi bod. Yr wythnos ddiweddaf, codwyd colofn fechan yn Nghefn y Bedd i ddynodi y fan- fel y tybir-lle y syrthiodd ond Sais a god- odd hon ar ei draul ei hun er mawr gywilydd i ni Gymry. Cafodd y Parch. W. Morris, Treorci, y gradd o D.D. yr wythnos ddiweddaf, gan Goleg Bucknell, Unol Dalaethau. Rhoddasom dreth, yn ddiweddar, ar wenith America, ac y mae hwnw yn angenrhaid bywyd; onid yw yn bryd rhoddi rhyw ran o'r baich ar deitlau Americanaidd ? Buasai hyny yn sicr o'u gwneyd yn fwy gwerthfawr gan y rhai a'u derby niant. Bwriada pobl sir Gaernarfon oleuo'r holl wlad a goleuni trydanol. Cynllun mawr Syr W. Preece yw'r cynllun, ac y mae efe yn byw yn yr ardal; a gwel gyfleustra i wella ychydig ar y man bentrefi sydd yn ei sir enedigol, yn y cyfeiriad yma. Er ein holl siarad am ein cynllun addysg, y mae'n ofidus addef nad oes genym eto ond un coleg cenedlaethol, sef Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Y mae math o golegau ym Mangor a Chaerdydd, ond nid oes adeilad teilwng yn y naill na'r llall i gynrychioli coleg. Ceisia Bangor, bellach, godi coleg teilwng o'r He ac o addysg Cymru; ond y mae Caerdydd yn cysgu yn dawel a boddlona ar siarad am ei chyfoeth, a lletya ei hefryd- wyr mewn tai hollol anaddas i gynrychioli Prifysgol ein gwlad. Bydd yn llawen gan lu cyfeillion y brawd ieuanc addawol, Mr. Ll. Bowyer, yr hwn sydd newydd orphen ei yrfa golegawl yn Bala- Bangor-genedigol o Ponkey, Rbiwabon- glywed ei fod wedi cael galwad unfrydol a chynes oddiwrth bwyllgor Forward Movement Anibynwyr Cymreig Llundain (fcyfansoddedig o gynrychiolwyr o'r pedair eglwys Gymreig), ynghyd a chydsyniad unol a chalonog y ddwy eglwys, East Ham ac Woolwich, i ddyfod i'w bugeilio, ac y mae yntau wedi derbyn yr alwad, ac yn bwriadu dechreu ar ei waith ym mis Medi. B dded i'r undeb fod yn un llwydd- ianus a dedwydd, ac i Dduw roddi sel ei fen- dith arno. "Hawyr bach, beth y mae'r Brenin yn ei feddwl ?' ebai hen gymeriad o ardal Caerdydd, y dydd o'r blaen. "Dyma fe wedi gwneyd Alfred To mos ac Isambard Owen yn farchog- ion, a 'dyw y naill na'r llall o honynt yn werth dim fel marchogwyr. Yn wir, 'dyw Alfred nemawr byth yn myn'd ar gefn ceffyl. 'Does dim dowt nad oedd y Brenin yn wael pan wnaeth e' y fath beth." Un o'r camgymeriadau mwyaf ynglyn â gwledd y Brenin oedd rhoddi'r fath swm o ddiodydd meddwol rhwng y bobl ar ddiwrnod mor boeth. Gwnaeth pobl "anheyrngar" Battersea waith da yn gwrthod y cwrw, ac y mae dau neu dri o leoedd, lie y bu ymladd- feydd, yn gofidio heddyw na ddilynasant hwythau esiampl ddoeth pobl ardal John Burns. Un o'r coelcerthi mwyaf yng Nghymru adeg y coroniad-neu yn hytrach, pryd yr oedd y coroniad i gymeryd Ile-oedd y goel- certh a godwyd gan Mr. T. H. W. ldris ar ben Cader Idris. Pan gyneuwyd hon nos Lun cyn y diweddaf gellid ei gweled am filldiroedd lawer, a bu ardalwyr Towyn i lawr hyd oriau man y boreu yn gwylio'r fflamau ar ben y Gadair. Mr. Idris ei hun-yr hwn a aeth i fyny gyda chyfaill-roddodd y tan ynddo. Cymeradwya is-bwyllgor a apwyntiwyd er tynu allan gynllun i gael iechydfa ar gyfer dioddefwyr o'r darfodedigaeth yn Neheudir Cymru fod cychwyniad yn cael ei wneyd i godi adeilad digonol ar gyfer ugain o gleifion. Cyst oddeutu 5,ooop i godi yr adeilad, a bydd yn ofynol wrth i,6oop y flwyddyn i'w gadw ymlaen. Lienor coeth a diwyd oedd Jenkin Howell Aberdar," ac adnabyddid ef trwy holl Gymru. Ond y mae yntau wedi myn'd pan newydd gyrhaedd ei 65 mlwydd o oedran. B11 yn dioddef yn hir o ddiffyg anadl, er hyn i gyd, parhaodd i weithio yn hynod o ddiwyd ar bob adeg. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, a chan mai argraffydd ydoedd, bu yn cymeryd rhan flaenllaw yn nygiad allan nifer o gylch- gronau. Parhau yn lied aflonydd y mae pethau yn ardal Bethesda, a sibrydir fod amryw o'r chwarelwyr bellach yn barod i fyned yn ol i'r chwarel. Y mae llu mawr wedi bradychu eu hegwyddorion eisoes, a chalonogir hwy gan yr addewidion teg a wneir gan awdurdodau y chwarel. Er hyny, ofnwn mai parhau yn an- foddog a wna'r gweithwyr am dymhor hir, ac ni hawliant ddim cydymdeimlad os cant eu troi allan rywbryd eto. Glaniodd y fintai gyntaf o Gymry Patagonia yn Canada ar y 25ain o'r mis diweddaf. I ardal Saltcoates, yn y gorllewin pell, yr aeth y nifer fwyaf o'r ymfudwyr. Nid yw'r rhag- olygon yn rhyw ffafriol iawn ar y dechreu ond, feallai, ymhen blwyddyn neu ddwy, daw pethau i well trefn, a'r bobl yn fwy addas i ddal y p >ethder a'r oerfel a geir yn y wlad ar wahanol dymhorau. e