Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYHOEDDI EISTEDDFOD 1903.

News
Cite
Share

CYHOEDDI EISTEDDFOD 1903. Yn Llanelli y mae'r Eisteddfod Genedl- -aethol i'w chynhal yn 1903, ac yn mis Awst ei cynhelir. Y mae hyn wedi ei gadarnh au yn ol sicrwydd yr Orsedd ei hunan, a phen od- wyd y dyddiau a ganlyn-Awst 3, 4, 5, 6 a'r 7fed, 1903-fel dyddiau prif wyl y Cymro am y flwyddyn nesaf. Dydd Sadwrn diweddaf y bu gwyl y cy- hoeddi" yn Llanelli. Mae'n rhaid cadw yr hen seremoniau derwyddol yn fyw o hyd, a chan mai pobl geidwadol iawn yw' r beirdd, cyfarfyddasant i'r gwaith rhyfedd hwn u Yng ngwyneb haul, llygad goleuni dydd Sadwrn. Fel y bu'r hap, hefyd, caed yr haul yn ei anterth, a diwrnod hapus iawn a dreuliwyd "Wrth yr "arddangosiad paganaidd yn nhref yr alcanwyr. Yr oedd Hwfa druan yn rhy wael i fod yn iiresenol, a danfonodd lythyr yn datgan ei ofid am nas gallasai arwain yr Orsedd ar hyn 0 bryd; a syrthiodd ei fantell ar yr Eliseus o Ysgol y Gwynfryn-sef y bardd doniol, "Watcyn Wyn. Fel ciwrat i'r Archdderwydd, g'wnaeth Watcyn ei waith yn bur reolaidd gan fjadw at lythyren y ddeddf, deued a ddelo, a ^hyhoeddodd yr Eisteddfod gyda hwyl cyn haner dydd dydd Sadwrn. Disgwylid y buasai yr Orsedd yno mewn ^lawn urddas, ond rywfodd, bu raid trefnu ndwy oedfa. Yn oedfa'r boreu y gwnaed y cyhoeddi yn ol rheolau birddas. Cwrdd busnes oedd hwn i fod, ac felly, ni chaed y ^wisgoedd gwychion. Ond pan ddaeth y prydnawn, yna caed cwrdd arall. Yr oedd y f*yhoedd, erbyn hyn, wedi dod ynghyd-a. gwyr am arddangosiad yw gweithwyr Llanelli. Caed gorymdaith fawr y tro hwn-y beirdd yn eu gwisgoedd Herkomeraidd ag urddau yr Orsedd yn disgleirio yr holl le. Yn eu dilyn yr oedd cynrychiolwyr y dref-Ilu mawr o fllwyr traed a marchogion heddgeidwadol, y tan-ddiffoddwyr a'u peirianau rhag i bybyrwch yr Orsedd fyned yn rhy boeth, ynadon hedd- wch, cynrychiolwyr y gwahanol gymdeithasau dyngarol, a phawb oedd yn awyddus am dipyn o rialtwch. Mewn gair, nis gwyddid yn iawn pa un ai dathlu y coroniad oeddynt, ynte rhyw rialtwch lleol araU Wedi cyrhaedd y cylch cyfrin ac esgyn i ben y Maen Llog, caed anerchia.dau Seisnig, ac ereill, a rhai englynion gan feirdd yr ardal. Ymysg ereill, adroddwyd y rhai a ganlyn: Ein gorsedd hen eleni-mae urddas Gwlad Myrddin o dani Pa le gwell na Llanelli Yn y wlad i'w chynal hi ?—Watcyn Wyn. Heddyw y daeth cyhoeddiad Yr wyl mewn hwyl a mwynhad Ni chawn Lan i'w ohynal hi Yn hollol fel Llanelli.-Ben Davies. Dydd 0 hedd a gwledd i'n gwlad—yw hyfryd Wefrol ddydd cyhoeddiad; Llanelli o'i meini mad I'n gwyl rydd wresog alwad.-Machno. Ar ol darfod a'r areithio a'r barddoni, cyf- lwynwyd nifer o urddau newyddion ac anrheg- wyd hwy i gynrychiolwyr Ileol. Ar y cyfan, yr oedd yr wyl yn un braf iawn a hyderwn y byd 'Steddfod 1903 mor llwyddianus a'r ui a gaed yn Llanelli yn 1895.

Advertising

IORWERTHIAID LLOEGR.