Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Aotf' Bgd y Gan. tj

I | YR "UNDEB" YN Y WLAD.

IORWERTHIAID LLOEGR.

News
Cite
Share

IORWERTHIAID LLOEGR. Mae yn agos i dri chant a haner o flynyddao oddiar y bu gwr o'r enw Iorwerth yn frenin ar Loegr o'r blaen. Teyrnasiad hynod fer gafodd yn Iorwerth hwnw, oherwydd bu farw yn 16 mlwydd oed. Nid yw'r Icrweithiaid wedi bod oil yn rhai gwael, ond ceir enwau rhai gwroniaid yn eu mysg. Dyma fraslun c hanes y chwe' Iorwerth cyntaf. IORWERTH 1. 1272—1307. Mab hynaf Henry III., a'i wraig Eleanor, oedd Edward I. Ganed ef yn Westminster Meh. 16, 1239. Gelwid ef Longshanks7 oblegid ei fod yn ddyn tal, a choesau hirion, Adeg ei deyrnasiad oedd 1272-1307. Yr oedd yn Rhyfeloedd y Groes yn Palestina pan fu farw ei dad, lie yr enillodd glod mawr am ei wroldeb a'i fedrusrwydd. Yr oedd yn ddyn o allu, ac yn filwr dewr. Dano ef gorchfyg wyd Cymru, ac yr unwyd hi a Lloegr, pryd y lladdwyd Llywelyn ei Llyw olaf. Efe a'i dos- barthodd hi yn siroedd, a chantrefi. Anfon- odd ei wraig, Eleanor, i Gastell Caernarfon, i roddi genedigaeth i'w fab, Edward II., a dywedodd wrth y Cymry ei fod yn rhoddf Tywysog arnynt wedi ei eni yng Nghymru^ ac heb allu siarad gair o Saesneg. Y gwir oedd nas gallai siarad unrhyw iaith, am nad oedd ond baban. Bu farw yn agos i Carlisle, Gor. 7, 1307, o flaen ei fyddin, yn 69 mlwydd oed. IORWERTH II. 0 GAERNARFON. 1307-1327. Mab oedd hwn i Edward I. Ganed ef yng; nghastell Caernarfon, Ebrill 25, 1284; ac yn 1301, gwnaed ef yn Dywysog Cymru, ac efe oedd y cyntaf o etifeddion y goron i ddwyn y teitl hwn. Dyn digon hynaws oedd hwn, ond hollol anghymwys i lywodraethu gwlad ar adeg mor anhawdd a therfysglyd. Daeth i'r orsedd pan oddeutu 24 oed. Priododd ag Isabella, merch Philippe V., brenin Ffrainc, Parodd ymddygiadau ffol a merchedaidd Edward i'w wraig ei hun fyned i'w erbyn. Ffodd am ei fywyd, a daliwyd ef yn Monach.. log Nedd, Morganwg. Diorseddwyd ef, a chyhoeddwyd ei fab, Edward III. yn frenin Ion. 25, 1327. Wedi hyny llofruddiwyd ef ym mhen rhai misoedd gan ei wylwyr yng, nghastell Berkeley. IORWERTH III. 0 WINDSOR. 1327-1377. Dyma un 0 freninoedd galluocaf Prydao, Gelwid ef yn Edward o Windsor, am mai ync ganed ef, Tach. 1312, ac am iddo godi Castell Windsor yn goffadwriaeth am hyny. Esgyn- odd i'r orsedd, Ion., 1327. Ar y cyntaf, gan nad oedd y brenin ond 14 oed, dygid y llyw- odraeth ym mlaen mewn enw, gan Gynghor o. 12 o bendefigion, ond, mewn gwirioneddv gan Isabella, ei fam, a Mortimer, yr hwn yr oedd hi yn cydfyw ag ef yn bechadurus. O'r diwedd cymerodd y brenin ieuanc yr awdur- dod i'w law ei hun. Rhoddwyd Mortimer i farwolaeth, a chauwyd ar Isabella yn e: chastell, lie y bu am 27 mlynedd, hyd ei maT- wolaeth. Gwnaeth y deyrnas gynydd nodedig dan ei* deyrnasiad, mewn clod milwrol, ac yn enwedig yn ei chyfreithiau newyddion. Yr oedd Edward yn ddyn o alluoedd a thalentau rhag- orol, ac yn filwr, nad oes nemawr ei ragoracb mewn hanes. Ei fab hynaf ef oedd Edward, Tywysog Cymru, a elwid y Tywysog Dc, (Black Prince), am ei fod yn gwisgo arfog- aeth ddu, ac yn marchogaeth ar farch du Efe enillodd glod brwydr fawr ac ofnadwy Crecy, lie y syrthiodd 11 o dywysogion, So G fanerwyr, 1,200 o farchogion, a 30,000 o filwyr cyffredin. ): n y frwydr hon y syrthiodd Luxenburg, brer.in Bohemia, ac y cymerodd y Tywysog Edward ei Grib-addurn (crest) a'r tair pluen, yr hon sydd yn eiddo Tywysog. Cymru hyd y dydd hwn. Bu farw y Tywysog,.