Hide Articles List

3 articles on this Page

Aotf' Bgd y Gan. tj

News
Cite
Share

A ot f' Bgd y Gan. tj Gan PEDR ALAW. [11 PENDENNIS," LOUGHTON.] Yr oeddym wedi darllen ysgrif y Parch. J. Puleston Jones ar yr Eisteddfod, yn y Geninen cyn gweled y dyfyniad o honi yn y CELT diweddaf; ac yr oeddym wedi penderfynu galw sylw ati ac ystyried rhai o'i phwyntiau. Pywed Mr. Jones mai gan y pwyllgor, lie y bwriedir cynhal yr Eisteddfod Genedlaethol y mae yr awdurdod ymarferol ynglyn a hi: Trwnw sydd yn parotoi taflen y testynau, &c.; a'i amcan mawr ydyw gwneyd i'r Eisteddfod dalu. Gcsodir budd y lie o flaen gwaith penaf yr Eisteddfod, a gofyna Mr. Jones ai hon ydyw y ffordd i godi'r Eisteddfod i effeithiolrwydd ? Dywed na chaiff y nifer fawr sydd yn colli wythnos o amser i ddilyn yr Eisteddfod gym- aint o les ag a ddylent ei gael-dim ond hyny a fyno'r pwyligor Ileol. Geilw Mr. Jones y cyngherddau a gynhelir ynglyn a'r Eisteddfod yn foddion difyrivch. Nid ydym yn cytuno ag ef fod cyngherdd ar bob noson yn ystod cynhaliad yr Eisteddfod yn fwy nag a all Eisteddfod bedwar diwrnod ei fforddio," am y rheswm fod y nifer fawr sydd yn mynychu'r cyngherddau yn brawf o'u teilyngdod ac o allu'r bobl i dalu am y di- fyrwch"; ac nid yw pedwar cyngherdd yn ormod, er dwyn i sylw weithiau clasurol a darnau teilwng ereill. Yn bersonol, credwn y caiff y bobl gerddgarol fwy o wir les drwy y cyngherddau nag a gant drwy gystadleu- aethau yr Eisteddfod. Dywed Mr. Jones, hefyd, fod y rhan fwyaf jo amser yr Eisteddfod yn cael ei ddefnyddio i bwrpas cyngherddol, a'r rheswm am hyn, medd efe, ydyw, am y rhaid i'r pwyllgor Ileol drefnu felly er sicrhau budd arianol. Ein hateb ydyw, y trefnir felly rhag gyru'r bobl i gysgu drwy wrandraw ar feirniadaethau hir- ion, sychion-ar lenyddiaeth a barddoniaeth. Ymddengys i ni fel pe carai Mr. Jones i gerddoriaeth gystadleuol gael ei halltudio o'r Eisteddfod; ond ni wel ef, na ninau, mo'r dydd pan y bydd cerddoriaeth gystadleuol yn absenol o'r Eisteddfod, canys er ei mwyn hi a'i chwaer-barddoniaeth-y sefydlwyd yr Eisteddfod yn benaf, a'r pethau hyn sydd wedi ei chadw ar ei thraed cyhyd. Er yn dadleu dros gerddoriaeth yr Eistedd- fod a'r cyngherddau nosawl, yr ydym o't farn y byddai Eisteddfod UN DYDD yn Ilawn ddigon, a chyngherdd y nos. A'r dydd o flaen yr Eisteddfod, gellid trefnu cyfarfyddiad y cym- deithasau a noddir gan yr Eisteddfod. Fel y dywed Mr. Jones, yn y cymdeithasau hyn y mae gobaith yr Eisteddfod: ynddynt hwy y mae llawer o'r gwir fywyd sydd ynddi. Yma gall llenorion, beirdd, cerddorion a gwyddonwyr y genedl gydgyfarfod i ym- drafod ar wahanol bynciau ac, yn sicr, byddai cyhoeddiad blynyddol o'r gwahanol areithiau neu bapyrau," o les i'r genedl. Mewn un peth, yr ydym yn galonog iawn o blaid Mr. Jones-sef yn y mater o wobrwyon igorau. Ystyriwn y gwastreffir arian ynglyn a hyn. Y mae y symiau a gynygir yn llawer rhy fawr. Byddai prif wobr o £20 yn Hawn ddigon. Wrth gwrs, ni fyddai yn ddigon i ddwyn treuliau'r cor a'r cor ond nid hyny ddylai fod amcan rhoddiad gwobr, eithr ar- wydd fechan o ymdrech lwyddianus. A dyna yr anrhydedd o enill yn yr Eisteddfod Gen- edlaetbol, ddylai fcd yn fwy gwerthfawr na'r arian. Y mae yn bryd i'r Eisteddfod ddechreu cynilo yng nghyfeiriad y gwobrwyon, a chasglu swm sylweddol tuagat gyhoeddi cyn- yrchion teilwng Ilenyddol, barddonol a cherdd- orol. Nis gall awduron Cymreig wneyd hyn a'u gweithiau gwobrwyol: y mae'r cylchred- iad yn rhy fach; a phwy ddylai fod yn fwy abl i ddwyn cynyrchion ei phlant talentcg i'r golwg na'r hen fam-yr Eisteddfod ?

I | YR "UNDEB" YN Y WLAD.

IORWERTHIAID LLOEGR.