Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYMRU YN DYSGU LLOEGR.

CYNGHERDD URDDASOL.

News
Cite
Share

CYNGHERDD URDDASOL. Ychydig amser yn ol, caed cyngherdd Cymraeg gyda Thywysog a Thywysoges yn wrandawyr ynddo ond yr wythnos hon aeth Cymdeithas y Diwydianau Cymreig heibio i'r marc hwnw, oherwydd yn eu cyngherdd hwy caed Tywysoges Ftenhinol i ganu alawon a Chountess i chwareu'r berdoneg, heblaw son am lu o fan atdyniadau, megis Telynor y Brenin a chor Madame Novello Davies. Cyngherdd urddasol iawn oedd hwn, ac yn nhy Arglwydd Llangattock ei rhoddwyd prydnawn dydd Llun. Yr oedd y lie yn llawn, hefyd, er fod yn rhaid talu gini neu haner gini cyn cael mynediad i fewn; ond dylid cofio mai er budd y Gymdeithas y codid y tal hwnw. Daeth y bobl fawr a gymerant ddyddordeb yn y mudiad yno yn llu, ac yn eu plith yr oedd Duces Westminster, Mrs. Cornwallis West, yr Arglwyddesi Mon, Aber- dare, a Windsor, heb son am nifer o'r rhai sy'n is i lawr ar y ris gymdeithasol. Caed nifer o ganeuon tlws, a phrofodd y Dywysoges o Pless ei bod yn gantores ddym- unol iawn. Yn canu yno, hefyd, yr oedd Miss Maggie Davies, Miss Maggie Purvis, Mr. Seth Hughes, ac ereill, gyda Mr. John Thomas, y Pencerdd, a'i delyn swynber i hudo yr oll a'i alawon Cymreig. Da genym ddeall fod elw sylweddol wedi deilliaw o'r anturiaeth, ac fod y Gymdeithas, beUach, yn dechreu enill poblogrwydd. Yn sicr, y mae yn haeddu byw oherwydd gwneir llawer o les i ddiwydianau ein cenedl trwy ymdrechion y boneddigesau sydd ynglyn a'r symudiad, a'r unig beth sydd eisieu yn awr ywdwyn cenhadaeth y Gymdeithas i fysg y werin-bobl a chael ganddynt hwy roddi pob cefnogaeth i bethau Cymreig. Unwaith y gwneir hyn, y mae'r mudiad yn sicr o Iwyddo.

[No title]