Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYMRU YN DYSGU LLOEGR.

News
Cite
Share

CYMRU YN DYSGU LLOEGR. Yr ydym wedi cael engreifftiau nodedig yn ddiweddar o beth all nifer o Gymry gweith- gar wneyd ar lawr Ty'r Cyffredin. Myn rhai pobl fod mwyafrif y Llywodraeth mor fawr fel mai ofer yw disgwyl am ddim ond yr hyn o gyflwynir gan Balfour a'i ganlynwyr; ond y mae adegau pryd y gall y pleidiau ereill wneyd gwaith da ar ran y wlad, a rhaid addef fod nifer o Gymry eisoes wedi profi y tu hwnt i amheuaeth fod nerth anorchfygol mewn plaid fechan unol a pharod i waith. Yn ystod y dadleuon sydd wedi bod ar y Mesur Addysg, y mae'r holl waith gwrthwyn- ebol, bron, wedi syrthio ar ysgwyddau Mri. Lloyd-George, S. T. Evans, Ellis J. Griffith, Herbert Lewis a dau neu dri ereill o arwein- wyr Cymru Fydd. Y mae eu taerineb, eu medr dadleuol, a'u gofal dros egwyddorion Ymneullduol, wedi enill parch cyffredinol y Ty; a llwyddasant, dro ar ol tro, i ddangos allan adranau gwanaf a mwyaf anghyfiawn y Bil. Pe buasai yr holl ddeg ar hugain sydd tros Gymru yn gweithio gyda'r un dyfalwch a'r blaid fechan hon, diau y gwelai Mr. Balfour mai ofer fyddai gwthio adranau anheg drwy y Ty fel y gwna ar brydiau yn awr. Yn sicr, y mae'r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni yn galondid nid bychan i'r rhai a alwant am blaid unol Gymreig; a phe ceid byny, diau y byddai Cymru ar ei henill cyn bo hir. Ni wyddis, eto, pa ffurf a gymer y Mesur Addysg yma ar ol gorphen ag ef yn y ddau Dy. Ar hyn o bryd y mae'n llawn anghyson- derau, ac, wrth gwrs, y mae'r Ysgolion Byrddol wedi eu llwyr gondemnio ganddo. Mae hyn yn gwneyd y cyfan yn anghyfiawn i'r eithaf; ond feallai y cynllunir eto rhyw adran newydd a wna y peth yn llawer llai gorthrymus. Yr unig beth eglur ynglyn a'r holl fusnes yw, fod Cyfundrefn Addysg Cymru wedi bod yn agoriad llygaid i lawer o aelodau Seneddol Seisnig ac wedi bod o help mawr i'r blaid fechan Gymreig sydd wedi bod wrthi mor ddyfal yn ceisio agoryd llygaid y Sais ar y mater pwysig hwn. Yr unig beth a obeith- iwn yw, y llwyddir i gael gwell addysg i blant y wlad. Ar hyn o bryd y mae'r holl fusnes yn warthus, ac os na ddaw gwell ysbryd i'r maes na'r ysbryd sectyddol presenol, ofer yw disgwyl am y gwelliant a ddymunir gan rai o Ryddfrydwyr blaenaf y dydd.

CYNGHERDD URDDASOL.

[No title]