Hide Articles List

2 articles on this Page

GINIAWAU Y BRENIN.

[No title]

News
Cite
Share

Yng nghapel Gurnos, ym Morganwg, taen- ellwyd 15 o blant y Sul o'r blaen a dwfr o'r Iorddonen. Yr oedd son am y peth yn y cylch am rai dyddiau, fel pe bae mwy o rinwedd yn nwfr yr afon hono na dwfr y Towy neu'r Taf. Aeth Mr. Chamberlain i wrthdarawiad a Phont Canada, sydd yn Whitehall, y dydd o'r blaen, a'r canlyniad yw iddo orfod myned i'r ysbytty i drin ei glwyfau. Mae'r digwyddiad yn arddangoseg clir y bydd raid i Ysgrifenydd y Trefedigaethau edrych ati o hyn allan sut i drin ein rhanbarthau tramor, a pheidio euro ei ben i'w herbyn fel y gwnaeth a Canada yn Whitehall. Disgwylir Ben Bowen, y bardd, yn 01 i'r wlad hon y dyddiau yma. Da genym glywed fod ei iechyd lawer yn well, ac fod ei daith tuag Affrica wedi effeithio er lies i'w gyfan- soddiad. Newydd da arall ynglyn ag ef yw nad ydyw yn coleddu y syniadau eithafol gynt yn erbyn y Bauwyr. Gan fod y Sais, bellach, yn canmol pobl y Transvaal, ac yn moli eu gwrhydri, diau y gwna Ben gyfanscddi arwr- gerdd iddynt. Byddai ei chyhoeddiad yn rhywfaint o iawn am yr enllib a gyhoeddodd ar y genedl yn nyddiau cyntaf ei arosiad yn Affrica. Ar ddydd Iau, y 26ain o'r mis diweddaf, sef y diwrnod y bwriadwyd coroni y Brenin, rhoddodd y ddau foneddwr adnabyddus—Mri. David Edwards, Blackmoor Street, Strand, a John Thomas, North-end Road, Walham Green-wledd i drigolion Penuwch a Beth- ania, yn sir Aberteifi, sef ardaloedd eu mhebyd. Daeth oddeutu 500 o'r trigolion ynghyd i fwynhau y danteithion. Yr oedd y tai a'r heolydd wedi eu gwisgo yn brydferth dros ben a banerau, &c. Yn ystod yr hwyr, dosbarthwyd medals a phob math o felusion i bawb oeddynt wedi ymgasglu ynghyd. Wedi hyny, caed cyngherdd mawreddog, o dan lywyddiaeth David Davies, Ysw., Llanfeiliog, yr hwn a fu, flynyddau yn ol, yn flaenor parchus yn Jewin Newydd. Yn ystod y cyng- herdd, caed amryw anerchiadau gan wahanol feirdd i ddatgan eu cymeradwyaeth i'r ddau Gymro gwladgarol. Pasiwyd, yn unfrydol, fod y diolchgarwch gwresocaf yn cael ei anfon i'r ddau foneddwr am eu haelioni di- I gymhar. Gresyn na fuasai ereill sydd wedi llwyddo mewn masnach yn efelychu y ddau Gymro hyn.