Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas.'

EGLWYS ELDON STREET

News
Cite
Share

EGLWYS ELDON STREET YN El CHARTREF NEWYDD. CYFARFOD AGORIADOL- Os yw areithiau grymus, cynulleidfa Ion a hwylus, a chanu swynol yn ddigon i adgyf- nerthu unrhyw achos, dylasai cyfarfod agor- iadol Eglwys Eldon Street yn ei chartref I newydd yn yr Y.M.C.A., Aldersgate Street, II dydd Sul diweddaf, fod yn symbyliad digonol iddi am flynyddau lawer. Yr oedd y cynulliad yn lluosog, a'r meibion a'r mercbed ieuainc yn drwsiadus yn eu gwisgoedd hafaidd. Ai y cwrdd mawr yn unig oedd yr atdyniad tybed ? i Rhoddodd Mr. R. Ellis Williams, gweinidog J Castle Street, amlinelliad o hanes yr eglwys. Dywedai y gwr parchus mai y cyfeiriad cyntaf at y Bedyddwyr Cymreig yn Llundain yw, fod yna un John Francis yn pregethu yn y flwyddyn 1774. Yn y flwyddyn 1842, y mae I yna gyfeiriad pendant at un Dafydd Ifans, fel I un o chwech o wyr ddarfu iddynt gychwyn yr j achos Bedyddiedig Cymreig yn y ddinas haner can' mlynedd yn ol, felly, tybiai Mr Williams, ¡ wrth fyned yn 61 haner can' mlynedd o'r flwyddyn 1842, i'r achos gael ei sefydlu rhwng y flwyddyn 1792-5. Rhoddodd Mr Williams, ymhellach, restr o gewri-nid yn unig yr j enwad Bedyddiedig—ond Cymry fuont yn gwasanaethu yma, megis Titus Lewis, Caer- ] fyrddin; Christmas Evans; Samuel Preece; | T. P. Davies, Tredegar; D. R. Jones, Taly- bont; Dr. Rees Davies; Evan Evans, i lawr hyd y presenol. Adroddai un ffaith ddydd- orol: i'r Parch. D. R. Jones sylwi un tro fod bachgen ieuanc galluog o'r enw Thomas Price yn yr eglwys. Cymhellodd Mr. Jones y bachgen i ddechreu pregethu. Y bachgen oedd y diweddar Dr. Price, Aberdar, yr hwn oedd yn enwog fel pregethwr trwy yr holl dywysogaeth. Nid ychydig o beth ydy w," meddai Mr. Williams, "y gall yr eglwys fechan hon ymffrostio ei bod wedi codi dyn mor fawr." Dilynwyd Mr. Williams gan Dr. Morris, Aberystwyth, gydag anerchiad cryno. Cym- erodd ddau o'r cymeriadau a enwyd gan Mr. Williams fel testyn, sef Titus Lewis a Samuel Prys. Yr oedd yn ddrwg gan Dr. Morris fod cyn lleied o ddarllen ar weithiau Duwin- yddol Titus Lewis y dyddiau hyn, yn enwedig gan fechgyn ieuainc. Fe gafodd ef ei hun fendith di-fesur wrth ymarfer a gweithiau yr hen dad. Adroddodd hanesyn dyddorol am Samuel Prys pan ar ymweliad a Bryste- Welsh Jumpers oedd yr enw wrth ba un yr adnabyddid pregethwyr Cymreig gan y Saeson. Yr oedd amryw o weinidogion Seis- nig yn bresenol ac yn siarad yn lied ysgafn am y Welsh Jumpers," nes y methodd Prys a dal, a dywedodd, A Welsh Jumper can preach more in one sermon than you can irt ten." Edrychodd Dr. Ryland yn syn ar Samuel Prys, a gofynodd iddo roddi engraifft o bregeth Cymro. Dywedodd Prys na allai ond y ceisiai roddi cyfieithiad o bregeth, a dechreuodd ar bregeth y fynwent o eidda Christmas Evans nes syfrdanu y gwradawyr, a dywedodd Dr. Ryland," If that is Welsh Jumping, I should like to be a Jumper too." Yr oedd amryw o'r pregethwyr yn medru llaw-fer, ac yn ysgrifenu pregeth Christmas Evans fel y pregethwyd hi yn Seisneg gan Prys. Ychydig amser ar ol hyn, yr oedd Christmas Evans yn Lerpwl, a gofynodd pregethwr iddo wrando arno yn darllen pre- geth Seisnig, ac wedi iddo orphen, gofynodd ai'ch pregeth chwi yw hona, Mr. Evans ? The thoughts are mine meddai Christmas Evans, but the language is some-one else's." Mewn ychydig ddyddiau fe argraphwyd y bregeth mewn amryw gylchgronau Seisnig^ nes yr aeth Christmas Evans yn adnabyddus i ganoedd o deuluoedd Seisnig trwy weithred Samuel Prys. Yn dilyn Dr. Morris—cafwyd araeth y cad- eirydd-Mr. Lloyd-George. Cyfeiriodd Mr. George at adroddiad Mr. Williams, fel yr oedd yr achos, fel unigolyn, weithiau i fyny ac weithiau i lawr. Hefyd, fel yr oedd un person ymhob cyfnod yn gyfrifol am y llwyddiant neu yr aflwyddiant. Yr oedd hyn yn profi, meddai, fod cymeriad yr arweinydd naill ai yn tynu allan ragorolion y gynulleidfa netr ynte yn cynyrchu anghydfod a thrybini. Yr oedd yr areithwyr yn eu hwyliau goreu. Cafwyd emu dymunol a chelfgar gan Miss Gwennie Williams, Miss M. J. Davies, Mr. B. Davies a Mr. W. J. Evans. Yr oedd Miss Gwennie Williams yn gantores newydd i ni, ond addawn iddi ddyfodol disglaer. Meddiana lais llawn a pheraidd, ac y mae yn canu gyda chwaeth uchel yn ogystal a dewis caneuon da. Yr oedd Mr. B. Davies yn dda iawn, ond, feallai, yn rhy eithafol gyda'r light and shade. Y perygl pan yn gor-wneyd yw, myned yn theatrical yn lie bod yn effeithiol. Ar y cyfan, y mae gan yr eglwys fechan hon bob achos i lawenhau, er mai dyddiau blin ei symudiad yw y rhai'n: a hyderwn y caiff nerth o'r newydd yn Aldersgate Street fel ag i sefydlu eto yn eglwys gref mewn man canolog ac mewn palasdy o'i heiddo ei hunan.

MR. PHILIP LEWIS