Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

YR EISTEDDFOD.

News
Cite
Share

"flunain, a'u dylyodd i gyrhaedd y bobl. Pa j itodd, dybygech chwi, yr edrychasai Owen Myfyr, a chychwynwyr yr Eisteddfod, a'i charedigion cyntaf hi, ar ystad fel hon ar bethau ? Buan y bydd genym, trwy ryw Ragfluniaeth, gyfoeth o hen lyfrau mewn ar- ;graffh.dau hwylus. Y mae genym nifer go dda eisoes ac erb/n rhoi ynghyd y tameid- lau blasus o hen lyfrau sydd yma ac acw ar hyd cylchgronau y ganrif ddiweddaf, byddwn yn gefnog iawn 0 ran meddu siamplau lluosog 0 Gymraeg pob cyfnod. Ni fyddai dim gwell genyf na chael fy mod yn methu ond, hyd y ffwn i, ychydig iawn o arian a wariodd yr Eisteddfod i argraffu pethau fel ag a geir yn yr hen" Gymru Fu," yn "Y Traethodydd," ac yn "LIenor" Mr, O. M. Edwards ac am y llyfrau cyfain a gyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar, megis rhanau o'r Llyfr Coch," '4' Y Llyfr Du," Llyfr yr Ancr," Gwaith Morgan Llwyd, Caniadau Cymru," Gweith- viau Goronwy Owen, gwyddis na wnaeth yr Eisteddfod nemawr at gyhoeddi pethau fel hyn. Arwydd obeithiol yw fod yr Eisteddfod, liithau, yn yr ugain mlynedd diweddaf,-wel, er pan ddechreuwyd cyhoeddi ei chynyrchion, wedi troi o ddifrit ar wella. Iddi hi, debyg, yr ydym i ddiolch am lyfrau ysgol y Proff. Lloyd ar Hanes Cymru, ac u Hanes Llenydd- laeth Gymreig" Ashton. Yn ddiweddarach fyth y mae hi wedi troi ei sylw at len gwerin. Etc, er yr argoelion yma o doriad gwawr, bydd dyled lenyddol y ganrif ddiweddaf yn drymach lawer i bersonau, a chymdeithasau <bychain, nag i'r sefydliad a ddylasai fod ar y blaen. Yn y ganrif newydd yr ydys yn disgwyl pethau pur fawr oddiwrth gymdeithas gradd- edigion Prifysgol Cymru; ond bydd digon o waith i'r Eisteddfod hefyd, ond iddi hi ad- nabod ei braint ac ymafiyd ynddi. Pa beth ydyw'r feddyginiaeth ? Yn flaenaf dim, cael y brif awdurdod o law y pwyllgor lleol, a'i rhoddi i ryw bwyllgor sefydlog. Pa mi ddylai hwnw fod, ni pherthyn i mi ben- derfynu. Fe ddisgynai'r gwaith yn naturiol, naill ai i Gymdeithas yr Eisteddfod, neu i'r Orsedd, neu ynte i gyfuniad o'r ddwy. Cym- deithas yr Eisteddfod yw'r unig gorff sydd ar hyn o bryd yn gwneyd ychydig o'r gwaith rheitiaf; felly, hwyrach mai wrthynt hwy y mae'n ddiogelaf disgwyl. I'r fan yna, beth bynag, yr wyf fi'n tueddu er fy ngwaethaf, er na wn ond ail i ddim am y dynion sydd yn gwneyd y gymdeithas i fyny. Eithr i bwy bynag yr ymddiriedir y gwaith o ddiwygio'r Eisteddfod, tebyg y bydd raid cael cydweith- rediad y ddau allu hyn-yr Orsedd a Chym- deithas yr Eisteddfod-i roddi'r ymddiried a phe gwnai y ddau allu hyn â'u gilydd na chai oinrhyw dref mo'r Eisteddfod Genedlaethol ar 01 hyn a hyn o flynyddoadd, na fyddai yn -foddlon i roi llawer mwy o law yn nhrefniadau yr wyl i ryw gorff sefydlog nag a roddir yn awr, byddai'r diwygiad wedi dechreu. Un ddail a allai dueddu'r pwyllgor Ileol i dder- byn amod fel yna ydyw, y ceid felly gadw elw y naill flwyddyn i gyfarfod a cholled un arall, fel y bo i'r blynyddoedd breision borthi rhyw- -faint ar y blynyddoedd culion. Os dywedir na fyddai'r Eisteddfod ddim gwerth cynyg am dani i dref ar y tir hwn, yr ateb yw, y delai hi a phobl i'r lie, fel o'r blaen, er nad cynifer o rai canoedd, os nad o rai miloedd, ar y cyntaf. Ond, bob yn ronyn, fe luosogai'r trefniant newydd ddosbarth nad ydynt yn dyfod llawer i'r Eisteddfod yn awr. Wrth beidio a bod mwy yn gyfarfod poblogaidd i rai'n chwenych difyrwch, hi gynyddai'n ddir- fawr yn ei phoblogrwydd gyda'r dosbarth sy'n caru addysg er ei mwyn ei hunan; ac fe dalai y rheiny am eu lie yr un fath a'r llall. Doi'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyn- ullfan i lenorion a cherddorion ac ysgolheigion o bob gradd, lie y mae llawer o honynt, ar hyn o bryd, yn ddibris o honi neu yn esgeulus o ddyfod iddi. Ond rhaid i'r Eisteddfod, yn y lie nesaf, ioddloni am flynyddoedd i fod yn gymharol -dylawd ac amhoblogaidd, onide ni ddiwygir %th mo honi. Hunanymwadiad mawr, mi a addefaf, fyddai i Gaernarfon, dyweder, fodd- I loni ar Eisteddfod salach yng nghyfrif ffyliaid nag un Bangor ond dyma'r pris y bydd raid ei dalu am wellhad. Ond i'r hen sefydliad clodfawr wneyd a iduied o dlodi, er mwyn byw i amcan teiiyngach nag a gyrhaeddir ganddo'n awr, gellir hebjor un neu ddau o'r cyngherddau, a thynu'r cyfarfod hir i lawr i ddwyawr a haner. Nid colled i gyd chwaith fyddai bod llai o ddyrysu'r daflen trwy roddi cyfis i foneddigion diyweyd wrth y gynull- eidfa mor anhawdd oedd iddynt ddyfod, ac mor ofidus yw ganddynt orfod myn'd i ffwrdd cyn diwedd y cyfarfod.—(O'r Geninen am Orphenaf).