Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

URDDAU BRENHINOL.

A GORONIR IORWERTH ?

AUR FRYNIAU SIR FEIRIONYDD.

News
Cite
Share

AUR FRYNIAU SIR FEIRIONYDD. (Telyneg buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol yx Abermaw, Llun y Pasg, 1902). Braich anturiaeth gwelir hon Yn creithio bron y mynydd, Nes bydd calon masnach gref Dan haul y nef yn llonydd, Efo'r oes y myn fawrhau Aur Fryniau air Feirionydd. Chwery gwawr amserau gwell Ar fanau pell Gwynfynydd, Cana'r Fawddach ar ei rhawd Eu molawd yn y nentydd Caiff ddifyr boen, caiff ddyfrhau Aur Fryniau Sir Feirionydd. Pyncia pistyll Cain gerllaw Yr alaw i'r chwarelydd, D'wed fod ganddi aur ar log Yng nghlust Caegweinog beunydd Gyda'r nef myn gadarnhau Aur Fryniau Sir Feirionydd. Ar riniog aur Arenig gu Llaw dyfais fu yn ufudd, Blino celf wna Blaenycwm Ar lechwedd llwm y mynydd Bu bronau heirdd sydd am brinhau Aur Fryniau Sir Feirionydd. Bywiol faen sydd yn Belle Vue, Medd tafod rhyw hanesydd, Daw'r Hafotty yn ei thro I geisio cludo'u clodydd; Goleu ro'nt i eglurhau Aur Fryniau Sir Feirionydd. Uno gyda'r clogau glan A wna Carndochan beunydd, I anadlu salmau clod Dros Fanod i Drawsfynydd, I'n Dwyfol lor fu'n dyfal hau Aur Fryniau Sir Feirionydd. BRYFDIR,

YR EISTEDDFOD.