Hide Articles List

4 articles on this Page

URDDAU BRENHINOL.

News
Cite
Share

URDDAU BRENHINOL. ANRHYDEDDU DAU GYMRO. Ni fu erioed y fath ddisgwyl am restr swyddogol y teitlau brenhinol ag a fu yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd pawb wedi credu y buasai yn ddiarhebol o faith, ac y caffai pob un teilwng ei anrhydeddu a rhyw gydnabyddiaeth llythyrenol oddiwrth ei Fawr- bydi ar adeg bwysig ei goroniad. Ar ei ddydd pen blwydd, neu ddechreu blwyddyn, yr arferir gosod y teitlau hyn ar enwogion y wiad, ond yr oedd adeg y coroni mor bwysig fel yr oedd yn rhaid gwneyd rhywbeth mawr i ddathlu'r wyl, a'r ffordd a gymerwyd at hyn oedd drwy roddi nifer o urddau ar wyr blaenaf y genedl, Wrth gwrs, nid yw'r Cymry byth yn cael rhan fawr o'r pethau addurniadol hyn, oher- wydd y mae ei phlant hi yn foddlawn ar enwogrwydd ac ar yr anrhydedd a esyd eu pobl eu hunain arnynt; ond pan gaiff rhywun friwsionyn o fwrdd y Brenin ceir, fel rheol, mai rhyw gynffoniaeth brenhinol neu bartiol sydd wedi enill iddo'r safie. Anaml iawn y gwelir neb o blant y genedl wedi ei gael am wasanaeth i'w genedl. Y tro hwn y mae'n dda genym weled un esiampl eithriadol. Y mae'r Dr. Isambard Owen wedi cael y teitl o Syr am ei waith ynglyn ag addysg Cymru, Nis haeddodd neb erioed hyny yn fwy nag efe, a'r syndod yw na fuasid wedi gosod y teitl o Farwnig iddo. Os anrhydeddu, dylid anrhydeddu am y gwaith, ac nid am y dylanwad cymdeithasol a all person hawlio i ddadleu ei achos ar ei ran. Un o arwyr y genedl yw Dr. Isambard Owen. Y mae wedi aberthu llawer er ei mwyn, ac er ei fod yn feddyg o safle an- rhydeddus yn y ddinas, eto, gallasai fod yn werth ei filoedd yn ychwanegol pe wedi ym- roddi yn hollol i alwadau ei broffes. Yr oedd gwella cyflwr addysg Cymru yn beth rhy bwysig yn ei olwg ef i'w anwybyddu, ac, er's blynyddau bellach, nid oes neb wedi gweithio yn ddyfalach ar ei rhan yn hyn o faes. Pleser digymysg, felly, ydyw i ni lon- gyfarch SYR ISAMBARD OWEN ar ei ddyrchafiad yn y ris gymdeithasol, ac er jias gall y teitl hwn ei wneyd yn fwy anwyl gan ei gydwladwyr, eto, y mae'n fath o fodd- had i weled fod yr awdurdodau Seisnig yn ddigon eangfrydig i'w gydnabod ef a'i waith. Brodor o sir Fynwy ydyw Dr. Owen. Gan- wyd ef yn Chepstow, yn 1850; a bu ei dad am hir amser yn brif-beirianydd ar ffordd liaiarn y Great Western. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Freiniol Caerloyw ac yng Ngholeg Downing, Caergrawnt. Y mae wedi graddio yn M.A. ac M.D. ac wedi cael ei anrhydeddu a llawer gradd ynglyn a'i alwedigaeth barchus. Cymaint yw ei sel dros addysg fel y gobeithid yn gyffredinol y buasai wedi derbyn y gwa- boddiad taer a gafodd dro yn ol i fod yn brifathraw ar Goleg Caerdydd, ond gwell oedd ganddo gadw yn glir oddiwrth y llafur- waith hwnw. Efe yw is-ganghellydd ein prifysgol, a 'does gan y genedl un gwr a hoffai jei anrhydeddu y tro hwn o flaen Dr. Isambard Owen. Yr ydym, o galon, yn dymuno hir oes iddo i wasanaethu ei genedl yn yr un maes eto, a boed i'w ddyrchafiad fod yn agoriad llygaid i'r Sais am y modd y gall rhai Cymry aberthu oes ar ran eu cyd-ddyn- ion llai ffortunus. SYR ALFRED THOMAS yw y Cymro arall sydd wedi ei anrhydeddu, ac fel cydnabyddiaeth am ei waith ynglyn a'r byd gwleidyddol Cymreig y mae yn deitl cyflawn haeddianol. Gwr tawel, parchus, ceidwadol i'r eithaf yw Mr. Thomas, ond ei fod yn eistedd fel Rhyddfrydwr. Mae gal- vadau ar wyr fel efe i lanw bylchau yn ein rhengoedd; ond nis gall neb ddisgwyl y daw unrhyw chwyldroad gwleidyddol byth i'n gwlad, os na cheir hefyd bersonau mwy beiddgar ac anturiaethus na Mr. Thomas. Gobeithio y caiff eto ami i ddyrchafiad ac ei gwelir yn fuan ar feinciau Ty yr Arglwyddi fel Arglwydd Caerdydd, a sicr y gwnai yno gynrychiolydd teilwng o urddasolion ein gwlad ar esmwyth feinciau y Ty uchaf. Y mae Mr. Thomas yn hen lane. Ganwyd ef yn 1840, ac oddiar y flwyddyn 1886 y mae wedi cynrychioli rhan o Forganwg yn Nhy'r Cyffredin, Mae yn boblogaidd iawn yn ei etholaeth, ac yn wr siriol ddigon mewn cym- deithas. Mae yn Fedyddiwr selog ac wedi llanw swyddau uchaf yr enwad hwnw yn ei dro. Boed iddo lawer o fwynhad o'i deitl newydd. Ymysg ereill a anrhydeddwyd y mae enwau Sir Francis Grenfell-gwr sydd yn dal perth- ynas agos a masnach Abertawe ac a gyfrifir yn gyfiredin fel un o blant y dref hono. Y mae Syr C. B. M'Laren, hefyd, yn dal cy- sylltiad masnachol a rhai cwmniau yn Mynwy, ac yn briod a merch o Ddinbych; ac yn olaf, j gwelir enw Syr Joseph Lawrence, yr hwn a gafodd ei deitl fel math o gydymdeimlad am y gurfa a gafodd yn etholiad Caerdydd er's tro yn ol. Wrth gwrs, nis gall Cymru ddis- gwyl dim oddiwrtho ef, er ei fod yn aelod ar hyn o bryd tros fwrdeisdrefi Casnewydd.

A GORONIR IORWERTH ?

AUR FRYNIAU SIR FEIRIONYDD.

YR EISTEDDFOD.