Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CYMRU A'R CORONI.

News
Cite
Share

CYMRU A'R CORONI. Aeth y parotoadau ynglyn a Gwyl y Coroni yn ofer i gyd. Ni fu erioed olygfa mwy pruddaidd yn Llundain na gweled yr holl addurniadau costus, y pileri talgryf, a'r miloedd o seddau heirdd yn cael eu tynu i lawr-all wedi bod yn ddi-les a'r pryder mawr a'r gorlafur ynglyn a hwy heb gael y boddhad o fod wedi bod o ddefnydd yn y byd. Am fisoedd buwyd yn adeiladu ac yn addurno, a bu deuddydd o siomiant yn ergyd trymach na'r Iludded i gyd. Heddyw nid oes dim yn aros ond yr adgof o'r siomiant, a phan goronir lorwerth—os caiff fyw i hyny—gwneir hyny heb yr ysbryd llawen a dibris a nodweddai y parotoaclau gogyfer a rialtwch yr wythnos ddiweddaf. # Y mae'r amgylchiad yn un nas gellir lai na manteisio arno i ymholi pa beth a wnaeth Cymru, a beth sydd ganddi yn aros ar ol y draul a'r drafferth i gyd ? Ofnwn mai siom- edig fyddai yr ateb pe chwilid i fewn i'r manylion. Yn yr amgylchiad collodd Cymru ei phen. Gorphwyilodd yn miri loddestgar y Sais, a dilynodd ei esiampl gan anghofio fod ganddi hi genhadaeth uwch a gwell pe's man- teisiai arno, a phe gweithiai yn ol ei barn a'i natur ei hunan. Cred rhai pobl mai gwaith dyngarol yw rhoddi gwledd foethus i dylawd ac ieuanc, fel pe baent erioed heb fwynhau tamaid o fwyd, ac y mae meddwl y gall y new- ynog fwynhau ei hun o dan y fath amgylch- iadau yn ffolineb eithafol. Dau gynllun mawr ein gwlad i ddathlu y Coroniad oedd trwy roddi gwleddoedd i blant a thylawd, a chynu tanau gwyllt yn yr hwyr. Mae cael pryd o de llawen gan blant yn dderbyniol bob amser, ac yn gymhorth i fwynhau unrhyw rialtwch; ac os bydd rhyw berson yn lied awyddus am wastraffu ei arian a'i eiddo, geill wneyd hyny yn ddiogel trwy gymhorth tan. Ond y mae meddwl fod y fath wastraff ar arian y cyhoedd fel ag a wnaed yr wythnos ddiweddaf yn galw arnom yn ddifrifol i ystyried a ydym wedi gwneyd ein dyledswyddau ar yr achlysur, ac a oedd y dull priodol wedi ei gymeryd genym i lawenhau. fel cenedl; a gofyn yn wylaidd ai nid math o gosbedigaeth arnom oedd y siomiant a gaed. < Dylid cofio mai nid cenedl arianog yw'r Cymry, ac fod caledi mawr yn ffynu ym mhob ardal. Brwydr galed yw bywyd llawer i deulu, ac y mie'r coslau cynyddol diweddar yma mewn trethoedd ychwanegol wedi gwneyd y frwydr hono yn fwy anhawdd ei henill nag erioed ac y mae meddwl am wastraffu arian o dan y fath sefyllfa yn gwneyd i ni ofidio na fuasai'r Cymry wedi aefnyddio rhyw ddall mwy parhaol i gofio am Goroniad Brenin ar y deyrnas. Mae ein hanghenion cenedlaethol yn lluosogj. a galwadau beunyddiol am i ni wneyd rhyw- beth dros wella cyflwr y werin bobl. A'r werin, wedi'r cyfan, yw cadernid ein cenedl ni. Paham, ynte, na fanteisid ar ryw gynllun- ymhob ardal a fyddai o fudd i drigolioi yr ardal hono rhagllaw ? Y mae yna ugeiniau^ a chanoedd, o fan bentrefi yng Nghymru heddyw, a'u prif angen yw neua.dd fechan gyhoeddus lie y gall y trigolion gydgynull ar noson waith yn hytrach na. myned i gegm tafarndy'r pentref. Ofer yw ceisio beio myn- ychwyr y dafarn. Mae ugeiniau o honynt heb le arall i fyned iddo ar noson oer ac anifyr, a hyny am nad oes digon o anturiaeth ym mhreswylwyr y lie na digon o gydymdeimlad ym masnachwyr cysurus yr ardal i wella cyf- lyrau eu gweision a'u deiliaid. Gwyddom ant ambell i dref wedi gwario canoedd o bunau— gan mwyaf, arian y trethdal wyr-ar oferedd hollol, tra y mae diwygwyr y cylch wedi bod ar eu heithaf yn gofyn am gant neu ddau er dechreu llyfrgell rad yn y lie. Heddyw, y mae'r arian wedi myn'd a'r un hen angen yn aros. < Rhywbeth tebyg yw hi ymhob ardal. Caed rialtwch a miri, mabol-gampau a dawnsio, gorymdeithio a choelcerthi; ac mae'r oil wedi diflanu. Yr unig adgof am danynt yw y grwgnach lleol ar ran y trethdalwyr ac, fe- allai, ambell i bersoi aihwylus ar ol y glodd- esta a'r yfed. Nis gall peth fel hyn fod yn llwyddiant, a byddai yn rhyfyg ar neb i ofyn ar i'r Hollalluog ei fendithio. Mae gwar- eiddiad a safle Prydain yn gofyn am rywbeth gwell na hyn i ddynoii llaweiydd gwladol, ac yn sicr, mae cymeriad cenedl y Cymry'n hawlia rhyw dduw amgenach na duw'r bol i goffhau amgylchiad a ddisgwylir iddo ddwyn bendith parhaol i bobl y wlad.

[No title]