Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.I

Dwrdd Yg Celt. P

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

[No title]

News
Cite
Share

Ar derfyn y rhyfel yn Affrica, yr oedd dros 200,000 o filwyr Prydeinig ar y maes, Dechreuir, bellach, lleihau y nifer a daw tua 70,000 adref ar fyrder. Lleihau mae pla'r frech wen yn Llundain, ac y mae nifer yr achosion o dan driniaeth yn awr islaw wyth cant. Nifer y marwolaethau yn ystod yr wythnos ddiweddaf oedd 17. Cyfanswm y marwolaethau oddiar ddechreii- yr haint yw 1480. | Mewn sefyllfa hynod o anfoddhaol y mae'r fasnach 16 yn y Deheudir. Penderfynodd y gweithwyr, yr wythnos ddiweddaf, i roddi terfyn ar y sliding scale yn Rhagfyr nesaf. Buwyd yn gweithio yn galed ynglyn a'r Mesur Addysg yn ystod yr wythnos hon, ond y drwg yw, nas gwyr neb pa le yr ydym yn awr. Mae'r fath nifer o welliantau a chyf- newidiadau wedi eu gwneyd fel y mae'r Mesur, o ddydd i ddydd, yn newid ei wedd. Diau fod rhagor o newid yn ei aros eto; a phan wet oleu dydd, sicr yw, y bydd ei gyfansoddiad yn hollol wahanol i'r hyn a fwriedwyd iddo fod ar y cyntaf. Un o'r gweithwyr caletaf ynglyn a hen law- ysgrifau Cymreig yw Mr. Gwenogfryn Evans, Oxford, a gwr craff ydyw hefyd. Anhawdd yw cael argraffwyr priodol heddyw i ail-ar- graffu yr hen bethau a ddarganfyddir yn feunyddiol gan Mr. Evans, a'r canlyniad yw ei fod wedi codi argraffwasg ei hunan yn Rhydychen, ac yno-yn ei oriau hamddenol -trefna i ddwyn allan nifer o hen lyfrau Cymreig gwerthfawr. Gobeithio y gwelir copi o weithiau Dafydd ap Gwilym o'i ddwy- law cyn bo hir. Mae angen am gopi cyflawn ar ein cenedl. Mae efrydwyr y Colegau Duwinyddol Cym- reig wedi llwyddo yn rhagorol yn yr arhol- iadau diweddaf am y gradd o B.D. Gwelir enwau amryw o bregethwyr ieuainc yn y rhestr a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Trefnir i ddadorchuddio cofgolofn i Robert Owen, y Sosialydd Cymreig, yn y Drefnew- ydd, dydd Sadwrn, Gorphenaf y 12fed. Nid gwaith rhad yw croesawu Tywysog. Gwelwn fod ymweliad y Tywysog a Chaernar- fon a Bangor dro yn ol wedi costio tair mil o bunau, ac y mae llawer o rwgnach o'r her- wydd. Dieu pe bae'r bil wedi ei gyflwyno beth amser yn ol-sef, cyn adeg cyhoeddi rhestr teitlau y coroniad-y buasai rhai o'r gwrthwynebwyr presenol yn lied ddistaw. Gan nad oes neb i gael Syr yn yr ardal gellir beirniadu yn fanwl a llym. Sonir llawer y dyddiau hyn am y cancr a'r ymdrechion a wneir er darganfod gwellhad iddo, ond hyd yn hyn y mae ymdrechion ein meddygon yn ofer. Dywed y Drych, er hyny, fod Cymro o feddyg o'r America wedi llwyddo i wella rhai personau yn ddiweddar, ond hyd yma, y mae yn cadw y manylion iddo ei hun.