Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.I

Dwrdd Yg Celt. P

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

News
Cite
Share

CYMDEITHAS CYMRU FYDD. At Olygydd CELT LLUNDAIN. SYR,—Gwelais adroddiad yn eich newyddiadur o gyfarfod a gynhaliwyd ynglyn a'r Gymdeithas uchod yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol. Gelwir ef yn gyfarfod blynyddol. Nis gwn ar ba sail y gwneir hyn, os nad rhyw unwaith yn y flwyddyn y mae'r Gym- deithas yn cynhal cyfarfodydd o gwbl. Deallaf mai unig waith y cwrdd oedd i rai o'r aelodau bresenoli eu hunain er mwyn seboni tipyn ar eu gilydd ac ail- ethol eu hunain ar lechres swyddogion y gym- deithas. Onid yw yn bryd i ni Gymry Llundain daflu rhyw f&loreg fel hyn o'r neilldu ? Nid yw y Gymdeithas o un lies fel y mae ar hyn o bryd, mewn gair, 'does ynddi yr un nodwedd cenedlaethol gwerth ei gadw yn fyw am bum' mynud o amser. Hyderaf y bydd i'r pwyllgor' presenol fod yn ddigon gonest i gladdu yr hen gymdeithas yn barchus, oherwydd bydd gwleidyddiaeth Cymru ar ei enill ar ol ymddihatru oddiwrth awyrgylch anonest y Cymry Fyddion. Yr eiddoch, &c., High Holborn. J. E. COR CYMREIG. —— At Olygydd CELT LLUNDAIN. ANWYL MR. Got.,—Yr oeddech yn gofyn yn eich colofn, beth amser yn ol, ai ni ellid cael cor Cymreig i fyned i'r EisteddfodJGenedlaethol eleni ? Nid wyf yn credu fod y fath beth yn bosibl yn Llundain. Yn un peth, nid oes geaym arweinydd digon medrus i'n trainio erbyn y fath gystadleuaeth, a phe cawsid y gwr i arwain byddai yn anhawdd cael lie i ymarfer ynddo. Fel y gwyddoch, ar nos Sul yn unig y gall y mwy- afrif o honom ddod i'r rehearsals, ac y mae'r odfeuon nos Sul wedi myn'd mor faith fel nad oes posibl cael haner awr o ymarfer a cherddoriaeth, ac yn ben ar y cyfan ni chaniateir ein capelau Cymreig at y fath barotoadau a hyn, a byddai yn llawer rhy gastus i dalu am ystafell eang bwrpasol i hyn o waith. Na, rhaid cael rhyw gyfnewidiad mawr cyn byth y gellir mynd a cor o Lundeinwyr i Eisteddfod Genedl- aethol y Cymry. Yr eiddoch yn gerddgar, Charing Cross. Ap BRYNALAW. MASNACHWYR CYMREIG. At Olygydd CELT LLUNDAIN. MR. GOL.—A oes rhestr o enwau masnachwyC Cymreig Llundain wedi ei chyhoddi? Byddai yn dda genyf ei chael, fel, pan ddaw galwad am gyn- orthwy, y gallaf alw i fewn weithiwr o Gymro neu fyned at Gymro i brynu y nwyddau angenrheidiot arnaf. Credaf mai ein dyledswydd yw cynorthwya ein gilydd fel hyn; a pe cawswn restr wrth law gallaswn wneyd defnydd teilwng o honi. Gyda chofion caredig at y CELT. HEN WEITHIWR. LNid oes rhestr fel y dymuuwch wedi ei chyhoeddi ond y mae ein prif fasnachwyr yn cael eu henwi o bryd i bryd ar dudalenau y CELT.—Gol.]

[No title]