Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r HdSnasm

News
Cite
Share

Oddeutu'r HdSnasm Pwy yw birdd yr Undeb? Uadeb y Cym- deithasau Diwylliadol feddyliwn. Gallem feddwl mai Aiaw Bren ydyw wrth ei gynyrch, oherwydd dvma fel yr anfonodd wahoddiad i'r CELT y ddoe :— "Chwi lancesau teg a'ch llanciau Dewch i'r wlad am 'chydig oriau Heddyw cewch 'roesawiad tyner Yn nhawelwch hyfryd Pinner." Mae'r bleserdaith, mae'n debyg, i gychwyn am 2.40 o'r gloch o orsaf Baker Street, ond bydd trens cyfleus yn dilyn bob rhyw chwarter awr yn ystod y prydnawn. # Dydd Sadwrn diweddaf aeth aelodau Cym- deithas y TabernacI am dro i Chiselhurst, a diwrnod hapus a gaed. Rhifai y cwmni tua 90 mewn nifer a threuliwyd nawn hyfryd o dan lasgoed tawel yr ardal wledig hono. Cyn dychwelyd yn yr hwyr, caed anerchiad fer gan Mr. W. Llewelyn Williams yn anog yr eglwysi i feithrin mwy o'r wedd gymdeithasol yma ynglyn a'n cynulliadau Cymreig yn Llun- dain. Yr oedd Mri. Hirwen Davies a Lloyd Davies, yr ysgrifenyddion, wedi trefnu yr orymdaith yn dda. » Fel y gwelir, agorir neuadd newydd Bed- yddwyr Eldon Street yn yr Y.M.C.A. Alders- gate Street yn ystod y Sul yfory. Y mae Aldersgate yn fan canolog i gynulliadau Cymreig, a hyderwn y llwydda'r brodyr i gael eglwys gref yn y lie hyd y llwyddant i sicrhau capel eto i aros yn barhaol ynddo. Y mae cyfres ddyddorol o gyfarfodydd i'w cynhal yfory, fel y gwelir oddiwrth ein colofn hys- bysebol. ¡ Nos Fercher nesaf y mae'r cyngherdd I coronog i fod yng nghapel Clapham Junction. Ar y tywydd poeth yma feallai mai gwaith anhawdd fydd canu, ond ar y cyfan y mae'r rhagolygon yn dda a diau y ceir noson hwyl- iog yn y lie. Dylai y bobl hyn eto drefnu cyngherdd cyffelyb yn ystod Awst, yn rhywle tui Wimbledon neu Richmond Park. Byddai yn werth y prawf hwyrach. Yn gynar foreu dydd Llun cyn y diweddaf, yr oedd yn hawdd gweled, yng nghymydog- aeth Capel Jewin, fod amgylchiad o ddyddor- deb mawr i gymeryd lie. Priodas Mr. David Jones, 122, St. John Street, Clerkenwell, a Miss Margaret Jones (merch Mr. D. R. Jones, 84, Clifden Road, oedd yr achlysur o'r dydd- ordeb. Yr oedd amryw gyfeillion a pherthyn- asau wedi dyfod yno i ddymuno yn dda iddynt. Gweinyddwyd yn y briodas gan y Parch. J. E. Divies, M.A.; ac ar ol priodi aeth y par ieuanc i Gymru, i dreulio eu mis met, ynghanol dymuniadau goreu eu cyfeillion lluosog. ° Hawdd oedd gweled wrth y cynulleidfaoedd ymhob capel Cymraeg yn y ddinas, dydd Sul diweddaf, fod gwyl y coroniad wedi hudo Uu mawr o ymwelwyr o'r wlad yn ystod yr wyth- nos flaenorol. Yr oedd y tywydd hyfryd a gaed yn rhyw gymaint o gysur iddynt ar ol y siom ddaeth i'w rhan y dydd Mercher cynt. Ar ol yr wythnos hon, bydd y cynulliadau yn teneuo gan fod y gwyliau bellach wedi dechreu. # » Offrymwyd gweddiau ar ran y Brenin ymhob capel ac Eglwys Gymraeg drwy y ddinas y Sul diweddaf, a dymuniad taer pob aelod oedd ar iddo gael adferiad buan o'i anhwyldeb blin. Yng nghapel y TabernacI aed mor mor bell a chanu "God save the King," a chanu digon gwael a gaed hefyd. Hwyrach, pe defnyddid y geiriau yn Gymraeg y tro nesaf, y deuai gwell hwyl ami. Ein llongyfarchiadau i Mr. a Mrs. J. Foulkes Jones, Willesden, ar enedigaeth merch iddynt, ar y 23ain o'r mis diweddaf. Da genym allu dyweyd fod y fam a'r ferch yn dod yn y blaen yn rhagorol. « Mae'r Parch. Peter H. Griffiths o Abertawe wedi rhoddi atebiad cadarnhaol i eglwys Charing Cross ynglyn a'r gwahoddiad taer a gafodd ganddi dro yn ol i ddod i'w bugeilio. Y mae Mr. Griffiths yn bregethwr cadarn, yn feddyliwr coeth, a sicr yw y bydd ei bresenol- deb yn y ddinas yn adgyfnerthiad i bwlpud Cymreig y lie. < Mae'n eglur fod teulu y Ceciliaid-teulu Arglwydd Salisbury—yn fwy o Gymry nag a feddylir yn gyffredin, oherwydd yr wythnos ddiweddaf darganfyddodd Mr. W. Llewelyn Williams lythyr Cymraeg yn Llyfrgell Hat- field, wedi ei anfon at un o gyndeidiau Salisbury, oddiwrth hen gar o Gymro yn Rhufain, tua chanol yr unfed ganrif ar bym- theg. Bydd yn ddyddorol i gael cynwys y llythyr, ond mwy dyddorol fyth fyddai gwybod pa bryd yr alltudiwyd y Gymraeg o aelwyd y teulu urddasol hwn. Ynglyn a'r cyngherdd a gynhelir yng Nghapei Clapham Junction nos Fercher nesaf, deallwn fod amcan gwir ddyngarol wrth ei wraidd, a chyflwynwn y nodyn a ganlyn i sylw ein cydwladwyr. Y mae Mr. Jenkins, fel y gwyddis, yn llawn natur dda, ac yn barod bob amser i gynorthwyo pob achos anghenus, hyd eithaf ei allu; a diolchwn iddo am ddwyn y mater hwn i sylw, gan hyderu y caiff y gefnogaeth ddyladwy ar yr am- gylchiad. •fcfr ♦ ACHOS TEILWNG. Anwyl Mr. Gol., Caniatewch i mi hysbysu fy nghydwlad- wyr mai budd-gyngherdd i Mrs. Hamlett- aelod parchus yng Nghapel Clapham Junction —yw'r cyngherdd coronog a gynhelir nos Fercher nesaf. Cymraes o ardal Aberaeron yw Mrs. Hamlett. Daeth i Lundain tuag ugain mlynedd yn ol, a bu yn aelod ffyddlon yn hen gapel Fetter Lane o dan weinidogaeth Hwfa Mon ac yn aelod o gor enwog Dr. Joseph Parry yn y lie. Ymbriododd a. Sais, ond y mae ei gwr wedi marw er's blynyddoedd, ac mae Mrs. Hamlett wedi gweled dyddiau gwell na'r presenol. Brawd iddi ydyw Mr. J. Williams, sadler, Aberaeron, a chwaer idii yw Mrs. Jones, Siop, Talybont. Mae yn awyddus am roddi tro i fro ei gened- igaeth unwaith eto ac felly, apeliaf yn gar- edig at fy nghyfeillion, ac yn enwedig at rai o ardaloedd Aberaeron a'r cylch, am gefn- ogaeth a chynorthwy. Mae yr achos yn un gwir deilwng, a bydd yr ysgrifenyddion (gweler yr hysbysiad) yn falch o gydnabod unrhyw swm a anfonir iddynt er cynorthwyo yr hen chwaer. Yr eiddoch yn bur, Clapham Junction. TOM JENKINS. Sicr yw, ar ol cael y manylion hyn, yr enfyn amryw o'n darllenwyr caredig eu rhodd fechan i'r ddwy ysgrifenyddes sydd yn gofalu am waith y cyngherdd.

[No title]

Advertising