Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

r BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

r BYD A'R BETTWS. At y Brenin yn ei gystudd y rhed cyd- ymdeimlad yr holl fyd y dyddiau hyn. Digwyddiad heb ei fath oedd gohirio y coroniad. Nid oes mewn hanes son am y fath anffawd erioed o'r blaen. Gan fod gwell argoelion am wellhad buan y Brenin, rhoddwyd gorchymyn ar i'r coel- certhi parotoedig gael eu tanio nos Lun diweddaf. Mewn amryw ardaloedd gohiriwyd gwledd- oedd y coroni. Gwaith ffol ydoedd hyn, yn arbenig yn y lleoedd hyny lle'r oedd y bwyd- ydd wedi eu parotoi, oherwydd drwy ohirio'r wledd yr oedd y bwydydd yn myned yn ofer hollol. Nid rhyfedd i nifer o derfysgoedd gymeryd lie. Nid chaed diwrnodau mor hafaidd yn Llundain, er's tro, a'r dyddiau Iau a Gwener a drefnwyd i ddathlu gwyl y coroni. 'Roedd y tywydd wedi dod yn ei bryd, ond bu raid i'r Brenin ufuddhau i alwad uwch y tro hwn. Nid yw anhwyldeb y Brenin wedi effeithio dim ar waith y Senedd. Yno, parheir i drin y Mesur Addysg, a cheir dadleuon poeth ar rai adranau o hono. Ar hyn o bryd, y mae'r Mesur wedi myned tan lawer o gyfnewidiadau, a diau y gwelir rhagor eto cyn y daw yn ol o Dy'r Arglwyddi. Da genym weled yr aelodau Seneddol Cymreig yn ymladd mor ddygn ar ran eg- wyddorion Ymneillduwyr Cymru ynglyn a'r Bil Addysg. Yr wythnos hon, bu Mri. Sam Evans, Brynmor Jones, Lloyd-George a Humphreys Owen yn gwylio pob adran a brawddeg o hono, a gwthiasant ami i ergyd llym i effeithiol- rwydd eglwysyddol y Mesur. Ar y cyfan, y mae rhestr y teitlau bren- hinol wedi rhoddi boddhad cyffredinol. An- rhydeddwyd goreuon pob plaid y tro hwn fel nas gellir achwyn am wedd bartiol y ffafrau hyn. Dywedir fod Syr William Harcourt wedi gwrthod cael ei wneyd yn Iarll. Gwell ganddo ddilyn esiampl Gladstone a gorphen ei yrfa yn nhy y bobl na chael ei gladdu yn nhoriaeth Ty'r Arglwyddi. Urdd newydd y Brenin yw'r "Order of Merit" a sefydlwyd y tro hwn. Nid yw nifer yr urdd eto ond deuddeg, ond y maent yn ddwsin ardderchog lawn. Os oes He i achwyn, g-ormod o'r miiwroi sydd ynddo, a gwell fuasai gweled pobi wladgar fel John Morley yn ei lanw. Mae Morley yn llawn haeddu yr anrhydedd hwn, oherwydd un o seintiau y byd gwleidyddol yw efe. Mae Aneurin Fardd yn curo yn drwm ar lyfr Hanes Cymru Mr. O. M. Edwards yn y Drych. Nid yw O. M. yn hanesu wrth ei fodd, a gwell gan Aneurin Carnhuanawc a'i hil. Nid rhyfedd yw hyn, pan feddyliom mai rhyw fath o Gwilym Cowlyd yr America yw Aneurin Fardd. Ceisiodd Anghydffurfwyr Maldwyn gan Syr Watkin W. Wynne benodi rhai o Ymneilldu- wyr y sir hono yn ynadon heddwch. Synodd Syr Watkin at eu cais, a dywed nad yw efe yn credu y dylid cymeryd i ystyriaeth gref- ydd na gwleidyddiaeth neb pan yn cael eu dyrchafu ar y fainc. Drwy y dull hwnw y mae y pendefig wedi llanw ynadaeth y sir a Thoriaid Eglwysig.