Hide Articles List

2 articles on this Page

--CYMRAEG YN IAITH YR AELWYD.

News
Cite
Share

CYMRAEG YN IAITH YR AELWYD. [GAN Y PARCH J. H. PARRY, LLANSAMLET.] Y mae pob symudiad daionus yn hanes Cymru wedi cael ei eni a'i gychwyn yn yr Eglwys, a chan ddynion oeddynt wedi eu magu a'u dwyn i fyny ar aelwydydd lie yr cedd y Gymraeg, a dim ond y Gymraeg, yn cael ei harfer yn ddiledryw. Er cadarnhau hyn, ni raid ond dwyn ar gof enwau Hiraethcg, Lewis Edwards o'r Bala, Hugh Owen, S.R., y Gohebydd, Thomas Gee, a llu ereill y gellid eu henwi fu cyn geni y rban fwyaf ohoncm ni, trwy ludded a hunan- aberth mawr, yn gosod i lawr sylfeini Cymru Fydd. O'r ochr arall, pan y troir i'r cylch- oedd hyny He nad yw y Gymraeg yn iaith yr aelwyd, o'r braidd y deuir o hyd i unrhw enw o nod sydd o werth ac edmygedd i'r genedl. Ac mor bell ag y mae Cymru yn y cwestiwn, y mae yn ffaith mai yn yr ardalcedd hyny lie y mae y Gymraeg wedi colli ei gafael ar y boblogaeth, yn y llecedd hyny y mae crefydd ysbrydol leiaf ei dylanwad, a moesau ac arfer- ion ein cenedl iselaf eu safon. Y mae rhyw berthynas ryfedd wedi bod rhwng y Gymraeg a chrefydd Cymru o'r cych- wyn. Onid yw yn ffaith hanesyddol nas gellir e- gwadu i'r Eglwys Sefydledig yng Nghymru golli ei gafael ar y werin-bobl oblegid i ben- aethiaid byr-olwg y Saeson ddefnyddio yr Eglwys i geisio troi gwerin Cymru i fod yn Saeson unieithog. Onid yw hefyd yr un mor wir i'r diwygwyr Cymreig cyntaf o ddyddiau John Penry, Vavasor Powell, Stephen Hughes, i lawr hyd at ddyddiau Howell Harries, Daniel Rowlands, a Charles o'r Bala, deimlo mai yr unig ffordd i estyn Efengyl i'r Cymro gwerinol ydoedd drwy ei iaith-iaith yr ael- wyd. Rywfodd neu gilydd, y mae y fath briodas rhwng y Gymraeg a chrefydd y Cymro yn ei phethau goreu, fel nas gellir hyd yn hyn, beth bynag, eu gwahanu heb beryglu bywyd y naill a'r llall ohonynt. Awgryma y testyn fod yna berygl o gyfeiriad yr aelwyd. Os ydyw ein hen iaith anwyl i gael ei chlwyfo ar ei haelwyd ei hun, y mae ei chyflwr yn wir druenus. Wedi dal holl drais a gormes a deddfau creulawn Harri y Pedwerydd; wedi iddi ddyoddef gwawd a dirmyg y pendefigion mursenaidd; wedi i esgobion estronol o Saeson fethu a'i lladd wrth bregethu i'r werinos Gymreig; wedi iddi fod yn gyfrwng i wynu bythynod Cymru, a gwneyd ei haelwydydd yn lan a gloew drwy Efengyl y Goleuni,' nes gwneyd' Y bwthyn yn nghanol y wlad yn swyn calon y plant pan ar wasgar mewn llawer gwlad estronol; A ydyw yr hen iaith anwyl i drengu ar yr aelwyd lie gadawyd 'Hen gadair freichiau ardderchog fy mam ? A ydyw hen Feibl anwyl Peter Williams, wedi iddo fod yn gydymaith Cym- reig i'n tadau yn ffordd y bywyd ym mhob tywydd i fod yn fud, a'i enau yn nghau, ac i'w gladdu mewn llwch ar dop y chest of drawers o dan bentwr o addurniadau estronol o'r byd Saesonaeg ? Os ydyw hyn yn wir yn hanes rhai aelwydydd, fe garwn godi ysbryd o ad- gyfodiad buan a sicr yn eu hanes. Wrth Gymru Cymreig fe garwn ddyweyd yn- I. Fod yn bwysig i wneyd y Gymraeg yn iaith yr aelwyd er sicrhau yr hyn sydd oreu yn awyrgylch yr aelwyd ei hunan. Er da neu er drwg, yr aelwyd ydyw ffynonell gyn- taf a chryfaf y dylanwad sydd yn ffurfio y cymeriad. Yn ei gartref y mae dyn yn fwyaf goddefol ac yn fwyaf anymwybodol i'r dylan- wadau a fyddo o'i gylch. Ar yr aelwyd y mae dyn yn mwynhau y diofalwch a'r rhyddid mwyaf. Ym mhob man arall y mae yn fwy byw i'r peryglon a fyddo o'i gwmpes y tuallan. Rhaid iddo o hyd fod ar ei wyliadwriaeth. Fel y glowr, y mae yn rhaid i'r lamp fod wrth ei ochr yn wastadol er ei rybuddio o berygl mwy a all fod o'i gylch ond pan ddel gartref, ymollynga yn ddibryder i ryddid esmwyth yr aelwyd. Oherwydd hyn, os oes unrhyw fan y tuallan i nefoedd Duw y dylai fod ei hawyrgylch yn iach a dyogel, yr ael- wyd ydyw hono. Pan gollir y Gymraeg o'r aelwyd, fe gollir hefyd ei gwir werth a'i swyn yr un pryd. Y mae yn perthyn i bob iaith ei hysbryd gynhenid ei hun, ac y mae hwn yn rhywbeth nas gellir ei gyfieithu; mae yn rhaid iddo gael ei eni yn y dyn cyn y gall gael lie yn ei galon ac ar ei dafod. Cymraeg yw iaith crefydd i'r Cymro, ac ni fydd crefydd gartref iddo ar yr aelwyd ond yn yr iaith sydd wedi gwneyd y cartref Cymreig yr hyn ydyw. II. Er sicrhau dylanwad crefyddol yn gynar ar feddwl y plant. Y mae meddyliau cyntaf bywyd wedi eu hargraffu ar y galon yn iaith yr aelwyd. Y mae yn fantais fawr i gael y pethau mwyaf eu gwerth ar y blaen i bobpeth arall-ac fod y meddwl wedi ei waelodi a phethau Dwyfol. Trwy hyn caiff y gwirion- eddau pwysicaf eu cymhlethu a theimladau tyneraf y galon. Ar yr aelwyd lie y siarader Saesoneg yn benaf, ychydig o obaith sydd gan yr athraw yn yr Ysgol Sul, a'r pregethwr yn y pwlpud, i ddylanwadu ar feddwl ieuanc y plentyn. Nid wyf yn gwybod am ddim sydd yn fwy tebyg o wneud y gwasanaeth yn y capel yn wrthun a beichus i'r plentyn na'i arfer i feddwl a siarad yn Saesonaeg ar yr aelwyd, a'i orfodi i eistedd yn y capel yn swn pregeth Gymraeg nad yw yn deall dim o honi. Cydnabyddaf nad yw yn waith hawdd i ddwyn y plant i fyny yn Gymry mewn trefydd Seisonig, megys Llundain, a Lerpwl, a Manchester, eto y mae rhai o'r Cymry mwyaf diledryw eu tafod a feddwn wedi eu dwyn i fyny yn y lleoedd hyn, a gwyddom y llwyddir yn ddieithriad a di- drafferth yn hyn yn mysg y teuluoedd sydd yn ei gwneyd yn rheol ddiysgog i arfer y Gym- raeg ar yr aelwyd. Ond yr hyn sydd yn fwyaf poenus ydyw, fod yr amryfusedd i'w gael yn ami mewn trefydd Cymreig-mor Gymreig a Chaernarfon, a Bangor, a Phwll- heli. Ac i ba ddyben, ysywaeth ? Yn ami am y tybir ei fod yn arwydd o ddiwylliant meddyliol, ac yn rhoddi safon a safle fwy ffasiynol mewn cymdeithas. Nid yw yr oil ond y ffolineb mwyaf gwamal. Clywsom ddywedyd mai y Haw sydd yn siglo y cryd sydd yn llywodraethu y ddaear. Dichon hyny; ond yr hyn sydd bwysicach na'r llaw ac na'r siglo ydyw yr hwian-gerddi a'r emynau a gemr gan y fam wrth wneyd hyny. Y mae y fam wedi ei hordeinio i waith y weinidogaeth o flaen y pregethwr. Ac y mae yn anrhaethol bwysig fod y weinidogaeth hon yn cael ei chyflawni yn ffyddlon ac effeith- iol mewn iaith ac ymadrodd sydd agosaf at feddwl a chalon dyner y plentyn. Pwy wyr pa sawl bachgen afradlon sydd wedi ei ddy- chwelyd yn ol i dy ei Dad yn yr adgof o'r adnod neu yr emyn a ddysgodd ei fam iddo, a beth ydyw rhif y rhai sydd wedi eu dyogelu rhag llithro, am eu bod yn gwybod yr iaith ac yn cofio yr emynau a genid ar yr hen aelwyd yn y dyddiau gynt. III. Dywedwn eto wrth yr un teuluoedd, os ydym am sicrhau dyddordeb a gweithgarwch ein plant yn yr addoliad cyhoeddus, fod rhaid gwneyd y Gymraeg yn iaith yr aelwyd. Pan yn weinidog yn Llanfyllin, dywedai gweinidog ffyddlawn a gweithgar oedd ar y pryd yn llafurio yn nes i derfynau y Saeson na ni, fod plant y rhieni Cymreig yn yr ardal (ac yr oeddynt yn Iluosog yn y man hwnw) oeddynt yn arfer, Saesoneg ar yr aelwyd bron yn ddi- e ithriad yn colli pob dyddordeb yn ngwaith cyhoeddus crefydd. Yr ydym yn siarad llawer am beryglon defodaeth ac offeiriadaeth yn y dyddiau hyn. Hanfod offeiriadaeth ydyw gadael i'r swyddog crefyddol, boed hwnw offeiriad neu weinidog, wneyd gyda chrefydd yr hyn a ddylai y dyn wneyd drosto ei hun. Ac yng Nghymru, nid oes ffordd sicrach i arwain i ddefodaeth na'r arferiad wrthun o alltudio iaith crefydd oddiar yr aelwyd. Un o arbenigion penaf crefydd y Cymry o'r cychwyn ydyw ei gweriniaeth. Crefydd y bobl yn iaith y bobl, ac yn cael ei byw a'i llywodraethu gan y bobl. IV. Y mae yn rhaid i'r Gymraeg fod yr7 iaith yr aelwyd er dyogelu yr hyn sydd oreu yn- om fel cenedl. Dywedai Esgob Henffordd, pan yn anerch y myfyrwyr ym Mhrifysgol Aber- ystwyth ychydig amser yn ol ar Genadaetfc Cenedl,' nad oedd rhif poblogaeth Groeg yn anterth ei gogoniant ddim yn agos yr hyn ydyw rhif y Cymry yn y dyddiau hyn, ac etc,- fod dylanwad Groeg ar y celfau cain ac athroniaeth yn aros hyd y dydd hwn. Clywsom weithiau rai yn cwyno nad ydyrri;, wedi cael ein Walter Scott i ddadlenu i'r byd Seisonig arweddion amlochrog y bywyd Cymreig. Y mae yn amheus iawn genyf fi a ydyw y fath beth yn bosibl mewn unrhyw iaith ond y Gymraeg. Y mae pethau goreu y Gymraeg yn bethau nas gellir eu cyfieithu. Yn wleidyddol, ni chafodd Cymru dafod yn ein Senedd hyd nes i Henry Richard fyned- yno-a fagwyd ar aelwyd Gymreig yng: nghanol Ceredigion. Ac o hyny hyd yn awr5. bechgyn fel yr anwyl Tom Ellis—a'i gyfoed- ion sydd eto yn aros-bechgyn oeddynt ac ydynt yn gwybod iaith eu gwlad, ac oherwydd hyny yn gwybod beth ddywed ei chalon y rhai hyn, a'r rhai hyn yn unig, mewn gwirion- edd, sydd wedi roddi tafod i genadaeth* wleidyddol Cymru. Ond ucwchlaw pobpeth hyd yn hyn, y Gym- raeg ydyw cyfrwng nerth ein crefydd yn y pwlpud ac ar yr aelwyd, ac yn sicr, i'r Cymro, nid ydyw crefydd mor rymus mewn unrhyw iaith arall. Eu iaith a gadwant-eu ner a folant. [Rhan o anerchiad a draddodwyd o flaeIP Undeb yr Anibynwyr Cymreig, 1902].

LLYFRAU NEWYDDION.