Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
EGLWYS Y BEDYDDWYR ELDON STREET, MOORFIELDS. DALIES, SYLW. Bydd yr Eglwys uchod yn cyfarfod i addoli o'r SUL CYNTAF (6fed) ac YN GORPHENAF ymlaen yn yr Young Men's •Christian Association 186, ALDERSGATE ST, .(Yn ymyl y General Post Office). CYNHELIR CYFARFODYDD NEILLDUOL Y SUL CYNTAF, GORPH. 6fed. ^3-wasanaethir y boreu am 11 a'r hwyr am 6.30 gan BE. MOERIS, ABERYSTWYTH. Yn y prydnawn am 3, CYFARFODYRYSGOLSUL CADEIRYDD- D. Lloyd George, Ysw. A.S. I DATGENIR GAN Miss GWENNIE WILLIAMS Miss M. J. DAVIES Mr. B. DAVIES Mr. W. J. EVANS Adroddir gan Miss GWEN PRICE Cyfeiles: Miss RICHARDS Anerchiadau gan Dr. MORRIS a'r Parch. R. ELLIS WILLIAMS PREPAID 'U/ANTS. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. Initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. 12 words; Once 6d. Three times 1 20" » 3d. « >t 1/3 28 „ t/- » 1/6 36 „ 1/3 „ „ 1/9 44 „ 1/6 „ „ 2/- Every additional 8 words 3d. DAIRY.-Young Person wanted for household L7 duties and assist in Shop generally; good refer- ence.-Apply Jones and Sons, 10, Cremorne Road, West Chelsea. BEDROOM for Two Gentlemen to Let near the B City in a respectable Welsh family. Terms moderate.-Apply, Dewi," Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. WANTED a Young Woman, from 25 to 30, to take charge of a Milk Shop.—Apply J. J., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. DAIRy.-Young Lady seeks Situation; able to U manage branch highest references.-Apply 43 L., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. MILK.-Wanted, a Lad from 16 to 20, for easy Barrow Round, good references required; Welsh preferred.-Apply Williams, Devonshire Dairy Bromley, Kent. GENERAL wanted, must be respectable, able to do G Plain Cooking, age 18 to 20.-Apply Mrs. Jones 88, High Street, Marylebone, London, W. THE DENTAL INSTITUTE, 168, UPPER STREET, ISLINGTON, (Corner of Barnsbury Street). Principal H. O. HUGHES. ——. HIGH-CLASS ARTIFICIAL TEETH AT STRICTLY MODERATE FEES. The most modern and scientific researches in English and American methods by skilled operator (late manager of one of the largest practices in London). CONSULTATIONS FREE. HOURS 10 TILL 8. And by Appointment. Dymuna Mr. HUGHES, y perchenog, roddi ar ddeall i'w gyd-genedl y bydd yn ofalus i arolygu yn bersonol bob gwaith a ymgymerir yn y lie.
----COSTAU Y CORONI.
COSTAU Y CORONI. Dyma rai ffigyrau roddwyd i ddangos rhai o'r symiau a wastraffwyd eisoes er dathlu j coroniad y Brenin :— Treuliau Swyddogol y Senedd £ ioo,ooo Addurno'r heolydd gan yr awdur- dodau Ileol 75,000 Gwisg Frenhinol y Teyrn 21,500 Coed at wneyd seddau ym Myn- achlog Westminster 10,000 Pont addurniadol yn Whitehall 7,000 Codi seddau i Gyngor Sir Llun- dain 8,000 Amcan-gyfrif o dreuliau ynglyn a seddau preifat 150,000 Gwleddoedd i dylodion Llundain 30,000 Colled i Weithwyr Prydain ) CHWE' MILIWN Dau ddiwrnod heb dai j o BUNAU.
Y SIOMIANT MAWR.
Y SIOMIANT MAWR. AFIECHYD PERYGLUS Y BRENIN. Pan ar fyned i'r wasg daw'r newydd prudd fod ein Teyrn yn beryglus o glaf, ac fod yn rhaid gohirio pob rialtwch yn Llundain ar hyn o bryd. Yr oedd ei Fawrhydi wedi bed yn anhwylus er's amryw ddyddiau, ond gobeithid y buasai yn ddigon cryf i ddal baich y coroniad, ond cafwyd allan ddechreu yr wythnos ei fod yn wael iawn ac fod angen am allu meddygol yn ddiymdroi os am achub ei fywyd. Dydd Mawrth gwnaed yr operation, a hysbysir ei bod yn llwyddianus, ond ar yr un pryd y mae'r anhwyldeb y fath nas gellir bod yn sicr pa fodd y try arno am ddyddiau lawer. Gohirir pob rialtwch yn Llundain, ond caniateir i bob peth gael ei ddwyn ymlaen yn y wlad fel y trefnwyd ar y cyntaf. Bydd dyddiau Iau a Gwener yn cael eu cadw fel Gwyl y Banciau fel yr hysbyswyd yn flaenorol, ac os bydd cyflwr y Brenin yn ffafriol diau y caniateir peth llawenydd yn Llundain hefyd. Siomiant mawr yw yr holl hanes, ac y mae meddwl am y fath wastraff ar arian ac amser oil wedi myned yn ofer yn bath truenus i'r eithaf. Yn ol yr hysbysiad diweddaraf, nis gellir disgwyl i'r Brenin fod allan o'i wely am o leiaf ddau lis o amser.
OFNI'R FRWYDR.
OFNI'R FRWYDR. Mae'r Weinyddiaeth wedi gwangaloni. IWrth weled y fath wrthwynebiad cadarn i'r Mesur Addysg, y maent wedi gorfod cyfnewid un adran bwysig o hono; a'r adran bwysicaf mor bell ag y mae a fyno a'r trethdalwr. Yr wythnos hon, hysbysodd Mr. Balfour eu bod wedi ail-ystyried ei gynwys a chanfod y gellid gwella pethau trwy roddi yr holl adran arianol yn nwylaw yr awdurdodau yn Llun- dain. Gwneir i ffwrdd felly a'r cri mawr yn erbyn trethiant lleol at gadwraeth yr Ysgolion Eglwysig, ond nid yw'r tincera yma yn effeithio dim ar yr egwyddor anheg sydd wrth wraidd y Mesur. Erys y bai o hyd, ond yn unig ceisir gosod y doll bellach ar ysgwyddau y trethi cyffredinol ac nid ar y trethoedd lleol. Wrth gwrs, y mae hyn yn gwnsyd cryn gyfnewidiad yn yr holl gynllun, ac ni wyddis yn hollol eto pa bath fydd ei ddylan- wad ar adranau ereill o'r Bil rhyfedd hwn. Ceir gweled pa nifer eto o welliantau a wneir, oherwydd fel y mae yn sefyll ar hyn o bryd, nid oes ond yr anhrefn mwyaf yn debyg o ddilyn ei fabwysiad. Mor bell ag y mae a wnelo'r Mesur a ni yng Nghymru, rhaid addef ei fod yn Fesur ffafriol iawn ac edrych arno o'r wedd arianol. Ar yr un pryd, nid cenedl ydym ni, gobeithio, i werthu egwyddorion rhyddid am saig o arian anghyfiawn y trethdalwr. Gwna'r cyf- newidiad newydd a hysbysodd Mr. Balfour nos Lun liniaru llawer ar ein beichiau lleol, ond y mae'r egwyddor anheg er hyny yn aros. Rhaid i ni beidio cymeryd ein hudo fel hyn gydag addewidion deniadol oherwydd os na lynwn yn awr wrth ein daliadau Rhydd- frydol a gonest, yna ni ddaw ond dinystr a gorthrwm i'n rhan yn y blynyddosdd a ddel. Rhaid parhau y gwrthwynebiad eithaf i'r Mesur, ac os llwyddir eto i ad-drefnu ei gyn- wys, goreu oil, gan y bydd yn rhaid cael llu mawr o welliantau arno cyn byth y gall cenedl y Cymru ei dderbyn fel Mesur teg a chyfiawn i'w gofynion gwladol a chrefyddol hi.