Hide Articles List

2 articles on this Page

"SUL Y BLODAU " YN CASTLE…

News
Cite
Share

"SUL Y BLODAU YN CASTLE STREET. CYFARFOD SIRIOL YR YSGOL SABOTHOL. AREITHIAU BEIDDGAR." Prydnawn Sul diweddaf cynhaliwyd cyfar- fod amrywiaethol yng Nghapel Castle Street i ddathlu Sul y Biodau," pan y cymerodd Mr. Llewelyn Williams, B.C.L., y gadair. Yr oedd cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd ac yr oeddid wedi trefnu rhaglen neillduol o ddyddorol. Cafwyd caneuon hynod o dda gan Miss Gwennie Williams, Miss Deborah Rees, a Mr. B. Davies; canwyd pedwarawd effeithiol gan barti Mr. Emlyn Davies, llais yr hwn sydd yn gwella, fel aur coeth, wrth ei drafod; a rhoddwyd adroddiad tarawiadol gan Miss Hetta Williams. Yn ystod y prydnawn traddododd Mr. Llewelyn Williams anerchiad byr. Ar ol talu teyrngedi sirioldeb a hawddgarwch y gwasan- aeth yn Castle Street, dywedai nad oedd perygl yr elai neb i gysgu yn y cwrdd yno, neu ynte buasai ei bechod yn anfaddeuol. Mae rhai pobl, meddai, yn gryf yn erbyn cael gwasanaeth bywiog neu bregeth flasus. Credant y dylid gwneyd y gwasanaeth mor ddifywyd ag sydd modd. Credai efe, serch hyny, fod yn haws achub gwrandawr effro nag un oedd rhwng cwsg a dihun. Clywodd son am ambell i weledigaeth yn cael ei rhoddi i gysgadur, ond nid erioed i un oedd yn hep- ian yn y cwrdd. Cafodd Pedr weledigaeth dda ar nen ty Simon Barcer yn Joppa, ond ni chafodd ond cerydd tyner am gysgu yn yr ardd. 'Doedd dim yn fwy atgas na gweled un yn cysgu yn y cwrdd. Chlywodd neb son am ddyn yn cysgu mewn cwrdd gwleidyddol. Nis gwyddai beth ddywedai Mr. Lloyd- George pe bae yn clywed rhywun yn chwyrnu dan effaith ei hyawdledd. Pam y goddefir cysgu yn y cwrdd ynte ? Aeth yr hen Ddaf- ydd Evans, Ffynon Henry, unwaith a dwy gareg fawr i'r pwlpud gydag ef, a rhybudd- iodd y gynulleidfa y byddai yn sicr o fwrw un o honynt at y cyntaf a elai i gysgu. Ond a oedd dim modd i bobl yr oes hon yru cwsg o'r gwasanaeth heb luchio ceryg am ben y cysgadur ? Dylem wneyd a allom er gwneyd ein gwasanaeth yn ddyddorol ac yn fywiog. Mae modd dysgu hyd yn oed oddiwrth y Saeson, a chredai oddiwrth y Saeson y daeth yr arferiad o gael Sul y Blodau" fel hwn. Mae eisieu mwy o amrywiaeth yn ein gwas- anaeth. Nid oeddent fel Anghydffurfwyr yn credu mewn Act of Uniformity na Llyfr Gweddi Cyffredin: ac yr oedd Cynulleidfaol- wyr trochedig a thaenelledig yn credu mai'r gynulleidfa ymhob man ddylai drefnu pob materion yn perthyn i'r eglwys leol. Eto, yr oedd unffurfiaeth llethol yn hynodi ein gwas- anaeth crefyddol ymhob man. Nis gwelir fawr o wreiddiolder yn un cyfeiriad. Gwir ein bod yn symud ymlaen yn araf-yn enwedig yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Bu amser pan oedd gwrthwynebiad cryf yn erbyn cael Ilyfr hymnau. Yna yn erbyn canu gyda notes. Wedi hyny credid nas gellid moli'r Arglwydd a'r sol-fa. Ac yn ein dyddiau ni gorfid brwydro llawer cyn cael organ neu harmoneg at wasanaeth y cysegr. Beth oedd hyn oil yn arddangos ? Mai yn araf iawn yr oeddem yn symud ymlaen, ond fod pob cen- hedlaeth yn gweithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun. Yr oedd eisieu mwy o amrywiaeth yn ein capelau. Paham na fyddwn yn addurno mwy ar dy Dduw ? Bu amser pan oedd eisieu disgyblu'n pobl fel arall. Credent mai'r eg- lwys yn unig oedd cysegr Daw. Anghofiant beth ddywedodd Crist, nad addoliad Duw ym mynydd Samaria nac yn nheml Jerusalem. 'Roedd eisieu dysgu'n pobl y pryd hwnw fod yr holl ddaear wedi ei chysegru pan ddaeth y Gwaredwr i'w rhodio, ac fod cymaint o gy- segredigrwydd yn perthyn i'r ogofeydd a'r llanerchau cudd lle'r addolai ein cyndeidiau yn adeg erledigaeth ag yn un capel neu eglwys gadeiriol yn y wlad. 'Roedd y bobl hefyd mor anwybodus fel nad oedd yn ddiogel addurno ty Dduw, rhag iddynt feddwl mwy am yr harddwch allanol nag am y prydferth- wch ysbrydol oedd yn ei hynodi. Ond credai fod y dyddiau hyny wedi diflanu. Yn oedd cenedl y Cymry heddyw yn genedl wybodus a hyddysg yn yr ysgrythyr. Nid oedd per- ygl iddynt, ar ol disgyblaeth mor faith o Biwritaniaeth syml, anghofio'r sylwedd yn yr allanolion. Bydded iddynt felly wneyd Ty Dduw mor lan, mor hardd, mor arddunol ag y gallent; boed iddynt gymeryd cymaint o falchder ynddo ac yn eu tai eu hunain a dangosent eu bod yn deilwng i fod yn feibion i ddiwygwyr drwy fod yn ddiwygwyr eu hun- ain, drwy gario allan mewn pryd gyfnewid- iadau cymwys i anghenrheidiau newydd yr oes. Oblegid yr oedd yn rhaid iddynt hwy, fel pob cenedl a chenedlaeth, weithio allan eu hiach- awdwriaeth eu hunain. DarlIer odd Mr. Thomas L. Jenkins bapyr dyddoro! ac addysgiadol ar hanes yr efeng- ylau. D mgosodd fel y traddodid y gwirion- eddau am rai cenedlaethau wedi Crist ar lafar aelodau'r eglwys; fel y ceir rhanau o'r ysgrythyr yng ngweithiau y Tadau Cyntefig yr ail ganrif; fel yr oedd efengylau ereill, sydd wedi eu colli erbyn heddyw, yn cael eu darllen a'u parchu hyd y bumed ganrif; ac fel tua 450 A.D. y mabwysiadwyd y pedair efengyl fel y maent genym ni heddyw. Dywedodd Mr. Lloyd-George, A.S., ei fod wedi gwrando gyda Ilawer o ddyddordeb ar y ddwy araeth feiddgar a draddodwyd. Yr oedd yn cydfyn'd a'r rhan fwyaf o anerchiad y cadeirydd, ac yr oedd yn falch ganddo weled fod pobl ieuainc Castle Street yn fodd- Ion gwneyd ymchwiliadau ar linellau gwrol a beiddgar. Credai, fel y dywedodd y cadeir- ydd, y dylai pob cenedlaeth weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun. Yr unig air ddywedai oedd, gydag ofn a dychryn." Peth hynod oedd y natur ddynol. Ar ol ei throi o un cyfeiriad, nis gwyddai neb i ba gyfeiriad arall y rhedai. Os oedd yn rhaid i gyfnewidiadau ddyfod, boed iddynt ddod felly ar ol ystyr- iaeth ddwys a manwl. 'Roedd yn beth eithaf da i bobl ieuainc fel y cadeirydd a Mr. Jenkins fod yn feiddgar. Gwaith hen bobl fel efe (chwerthin) oedd galw arnynt fod yn ochelgar.

I.---.-8yd y Gan.